Ffyrdd o weithio

 

Yn ystod ein digwyddiadau ymgysylltu, dywedodd rhanddeiliaid wrthym yr hyn roeddent yn teimlo y dylid ei flaenoriaethu wrth i ni gydweithio i ddatblygu'r Datganiad Ardal ar gyfer Gogledd-orllewin Cymru. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu:

  • Cyfathrebu – Bod yn agored ac yn onest ynglŷn â rhwystrau posibl, rhannu arfer da, a dathlu'r hyn sy'n gadarnhaol ynghylch y broses hon

  • Datblygu polisïau a'u cyflenwi – Integreiddio, a gweithio gyda'r prosesau sydd eisoes yn bodoli, fel y Cynllun Datblygu Lleol a rheoleiddio safleoedd ar lefel leol a chenedlaethol. Hefyd manteisio ar brosesau ehangach a pheidio â chadw o fewn cyfyngiadau'r sector amgylcheddol

  • Casglu a defnyddio data – Creu, rhannu, deall a chyfathrebu negeseuon pob set o ddata (rhan bwysig o hynny yw nodi bylchau mewn gwybodaeth) sy'n ymwneud â'r amgylchedd a materion eraill ar draws Gogledd-orllewin Cymru. Nod hyn yw penderfynu'r cysylltiadau rhwng cymdogion, gan roi ffocws ar gyflenwi gweithgarwch gweithredol ar y cyd
  • Hwyluso'r gwaith o gydweithio ac ehangu cyfranogiad – chwilio am ffyrdd i wella'r ffordd rydym i gyd yn cydweithio, gan ystyried agweddau ar bopeth o wybodaeth i ymyriadau uniongyrchol

  • Sut rydym yn rheoli disgwyliadau sy'n ymwneud â gofyn am adnoddau nad ydynt yn alinio â gwaith y Datganiad Ardal

  • Gwella'r ddealltwriaeth a chyfleoedd ar gyfer dysgu o fewn sefydliadau a chymunedau, gan ddarparu ystod eang o awgrymiadau er mwyn gwella dysgu yng Ngogledd-orllewin Cymru a dealltwriaeth ynghylch y rhanbarth a'r materion y mae'n eu hwynebu
  • Herio ein hunain i fyfyrio'n rheolaidd, a chwilio am ffyrdd gwell o gyflawni canlyniadau ar y cyd.

Hoffem gyflawni'r canlyniadau ansoddol canlynol a hefyd datblygu ffordd effeithiol o'u mesur gyda'n partneriaid:

  • Gwella cydberthnasau

  • Meithrin cydberthnasau ffyddlon

  • Defnyddio iaith y gall pawb ei deall

  • Ysgwyddo cyfrifoldebau newydd

  • Ymgorffori egwyddorion creu ar y cyd

Gwnaeth ein rhanddeiliaid awgrymu'r allbynnau meintiol canlynol:

  • Sicrhau bod nifer o setiau data gwahanol ar gael

  • Ymgymryd â nifer o brosiectau ymchwil ar y cyd

  • Ymgymryd â nifer o brosiectau cyflawni ar y cyd o dan bob thema ar draws rhanbarth Gogledd-orllewin Cymru ar y raddfa briodol

Pam y thema hon?

Er mwyn hwyluso datblygiad y Datganiad Ardal, cynhaliodd Cyfoeth Naturiol Cymru dri gweithdy yng Ngogledd-orllewin Cymru yn ystod mis Gorffennaf 2019 yn ogystal â sesiwn ar gyfer staff. Cynhaliwyd sesiwn gweithdy pellach ar-lein ym mis Tachwedd 2020 gyda sesiynau ar-lein gyda rhanddeiliaid yn dilyn hynny ym mis Rhagfyr 2020. Ar sail y trafodaethau hyn, mae'n glir y bu cefnogaeth am thema Datganiad Ardal drawsbynciol i ystyried y gwahanol ffyrdd o weithio er mwyn sicrhau bod proses gynaliadwy ac ymgysylltiol yn cael ei dilyn wrth ddatblygu Datganiad Ardal Gogledd-orllewin Cymru yn ei gyfanrwydd. Ceir mwy o wybodaeth a manylion am hyn yn y Cyflwyniad i'r Datganiad Ardal.

Yn ystod yr ail ddigwyddiad ymgysylltu, nododd rhanddeiliaid faterion ehangach yng Ngogledd-orllewin Cymru, fel a ganlyn:

  • Gweithrediad a grym personol – Mae pobl eisiau gwneud rhywbeth i newid yr hyn sy'n digwydd o'u hamgylch ond yn teimlo nad yw'r gallu ganddynt, neu wedi drysu ynghylch gwneud hynny

  • Grym a chyfeiriad awdurdodaeth lywodraethol – Mae strwythurau'n bodoli, ond yn aml nid yw rhanddeiliaid yn sicr o ran sut i ysgogi newid

  • Cyflwr yr amgylchedd – Ceir gwahaniaethau mewn safbwyntiau ynglŷn â'r bygythiadau a blaenoriaethau mewn perthynas â chyflwr yr amgylchedd

  • Data a thystiolaeth – Mae angen sicrhau eu bod ar gael ar raddfa ehangach, ac mae angen i bobl gymryd rhan yn y gwaith o gasglu a lledaenu data a gwybodaeth er mwyn gwella dealltwriaeth ynghylch cyflwr yr amgylchedd – mewn cylch rhinweddol

  • Yr angen i symud y dulliau thematig a daearyddol i gamau nesaf y broses. Er enghraifft, yn Abergynolwyn, roedd hi'n glir fod gan y bobl o dde Gwynedd a fynychodd ymdeimlad daearyddol cryf – rhywbeth a fu'n amlwg yng Nghaergybi a Blaenau hefyd

Er mwyn llywio'r thema hon, rydym wedi ystyried:

  • Gwybodaeth leol o gyfres o weithdai strwythuredig, a gafodd eu hwyluso'n annibynnol, ar draws Gogledd-orllewin Cymru

  • Y blaenoriaethau a nodwyd yn y Polisi Adnoddau Naturiol: cyflenwi atebion seiliedig ar natur, cynyddu ynni adnewyddadwy ac effeithlonrwydd adnoddau, defnyddio dull sy'n seiliedig ar le

  • Gwybodaeth gan yr Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol ar ecosystemau a'u gwydnwch, a'r risgiau a'r manteision maent yn eu darparu

  • Yr asesiadau a chynlluniau llesiant, a'r blaenoriaethau sy'n dod i'r amlwg trwy Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn a Chonwy a Sir Ddinbych

Aeddfedrwydd trafodaeth

Mae'r dadansoddiad o aeddfedrwydd trafodaeth a wnaethpwyd gan yr hwylusydd annibynnol yn dangos bod rhai meysydd o'r themâu wedi datblygu ymhellach na'i gilydd ar hyn o bryd, e.e. twristiaeth gynaliadwy a chyfleoedd ar gyfer ecosystemau gwydn. Am ragor o wybodaeth, gweler adroddiad llawn gan Wellbeing Planner ar gymorth hwyluso ac ymgysylltu (Medi 2019).

Rydym am barhau i adeiladu ar waith y trafodaethau cychwynnol hyn, gan ddatblygu camau gweithredu lle ceir syniadau datblygedig, ar yr un pryd â chychwyn trafodaethau newydd unwaith y bydd ein grwpiau ffocws wedi cael amser i sefydlu a datblygu pob thema mewn mwy o fanylder. Gweler y camau nesaf am ragor o fanylion.

Materion a nodwyd gan randdeiliaid

  • Yn yr Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol, ceir dangosyddion lefel uchel ar newid sy'n debygol o ddatblygu'n araf ac nid mewn ymateb i weithredu ar lefel leol neu ranbarthol

  • Mae sefydliadau'r trydydd sector yn ei chael hi'n anodd goroesi, ond maent yn hanfodol wrth helpu i ddatblygu a chyflenwi blaenoriaethau'r Datganiad Ardal ar lawr gwlad

  • Mae angen mecanweithiau cyllido syml, gyda hyblygrwydd dros flynyddoedd ariannol

  • Yr angen i herio a mapio'r dehongliad o fframweithiau deddfwriaethol sy'n hyrwyddo gwrthdaro neu sy'n achosi oedi, e.e. lle ceir canlyniadau arfaethedig a all fod yn groes i'w gilydd, fel polisïau a deddfwriaeth sy'n ymwneud â mawn dwfn a choedwigaeth

  • Ystyried y dull o lywodraethu'r ffordd y caiff penderfyniadau lleol eu gwneud, a gweithio i newid pethau fel bod cymunedau wrth wraidd penderfyniadau a gweithredu

  • Trosi'r dyheadau o greu ar y cyd yn ddiwylliant sefydliadol mewn cyrff fel Cyfoeth Naturiol Cymru a phartneriaid sector cyhoeddus eraill, e.e. datganoli'r penderfyniadau a wneir ar geisiadau sy'n deillio o anghenion lleol, i lefel leol.

  • Datblygu dull ‘siop un stop’ ar gyfer trwyddedau prosiectau unigol (er enghraifft cynlluniau ynni dŵr), gan sicrhau y caiff yr effeithiau cronnus ar ddyfrffyrdd eu hystyried pan gynigir cynlluniau ynni dŵr

  • Gwneud rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy yn flaenoriaeth ar gyfer cymunedau yng Ngogledd-orllewin Cymru

  • Dilyn dull macro o ran newidiadau strategol a gwleidyddol a nodir, ochr yn ochr ag awgrymiadau penodol sy'n berthnasol i fuddiannau unigolion

    • Esblygu rôl y Datganiad Ardal wrth ddarparu system glirio lle y gall lefelau gwahanol o drafodaeth ddigwydd

    • Ochr yn ochr â chymdeithas uchelgeisiol, gyda rhaglen hyfforddi ac uwchsgilio, ceir y posibilrwydd o'r gallu i gydweithio ymhellach mewn modd deallus a chyda cyd-ddealltwriaeth well

    • Adolygu pwy fu’n mynychu’r digwyddiadau ymgysylltu, a nodi'r bylchau er mwyn sicrhau bod trawstoriad cynrychioladol o wahanol gymunedau'n bresennol

  • Gwerthfawrogi a deall dyheadau ein gilydd; mae gweithio mewn amgylchedd o greu ar y cyd yn gofyn am ddulliau cyllido nad ydynt yn gystadleuol

  • Gyda'n gilydd, mae angen i ni ddarganfod a chytuno ar yr hyn y gallwn gydweithio arno yn lleol ac sy'n cyflawni dyheadau themâu'r Datganiad Ardal

  • Er mwyn dechrau'r broses sydd â ffocws ar ddatrysiadau, mae angen defnyddio rhwydweithiau eraill, gan gynnwys grwpiau ynni adnewyddadwy cymunedol a chynghorau tref a chymuned

  • Sicrhau cyfranogiad gan y bobl hynny sydd y tu allan i grwpiau a sefydliadau amgylcheddol

  • Dysgu terminoleg ein gilydd, e.e. cysylltedd ac ecosystemau

Cyfleoedd a nodwyd sy'n gysylltiedig â'r thema hon

Dyma weledigaeth rhanddeiliaid ar gyfer y thema hon hyd yn hyn:

  • Datblygu'r weledigaeth ar gyfer ffyrdd o weithio gydag amcanion a thargedau y gallwn ni i gyd weithio tuag atynt

  • Sicrhau ein bod yn gwybod yr hyn rydym yn ei wneud ar hyn o bryd, fel y gallwn ddysgu a chydweithio'n well. Er mwyn gwneud hyn, mae angen i ni fapio prosiectau, cyfleoedd a mecanweithiau cyllido presennol

  • Datblygu rhestr o egwyddorion y gallwn i gyd ei defnyddio i sicrhau ein bod yn meddwl am eraill, meddwl yn wahanol yn ein busnes fel arfer, a meddwl am gyfleoedd ar gyfer prosiectau newydd

  • Nodi cyfleoedd ar gyfer ymchwil newydd a fydd yn ein helpu i ddilyn dull sy'n seiliedig ar le a datblygu Datganiad Ardal Gogledd-orllewin Cymru yn unol â blaenoriaethau pob thema

  • Sicrhau ein bod yn cydweithio er mwyn ehangu'r rhwydwaith sydd ynghlwm â'r broses hon

  • Ar gyfer sefydliadau unigol, nodi siartiau sefydliadol a mapiau meysydd budd er mwyn hwyluso gwaith yr arbenigwyr, y rhai sy'n gwneud penderfyniadau a rhanddeiliaid ymgysylltiedig cywir ymhob cam o'r broses gydweithredol. Bydd hyn yn helpu o ran nodi bylchau, ac unrhyw waith pellach sy'n ofynnol, er mwyn sicrhau caiff gwaith ei gyflawni'n effeithiol

  • Gwerthfawrogi, parchu, cefnogi a chydnabod cyfraniad dyheadau pob partner

  • Cefnogi dealltwriaeth well o greu ar y cyd, trwy astudiaethau achos o arfer da a hyfforddiant, i gynnwys hefyd safbwynt macro o'r newid gwleidyddol strategol ochr yn ochr ag awgrymiadau sy'n berthnasol i fuddiannau unigol

  • Wrth wneud lle i'r rhwydweithiau niferus mewn meysydd, ffrydiau a silos eraill, mae'n bwysig creu fforwm lleol ar gyfer rhannu gwybodaeth, e.e. nodi'r broblem a chydweithio â rhanddeiliaid i nodi'r hyn sydd angen newid

Goresgyn rhwystrau gyda’n gilydd

  • Cyfathrebu – Bod yn agored ac yn onest ynglŷn â rhwystrau posibl, rhannu arfer da, a dathlu'r hyn sy'n gadarnhaol ynghylch y broses hon

  • Datblygu polisïau a'u cyflenwi – Integreiddio, a gweithio gyda'r prosesau sydd eisoes yn bodoli, fel y Cynllun Datblygu Lleol a rheoleiddio safleoedd ar lefel leol a chenedlaethol. Hefyd manteisio ar brosesau ehangach a pheidio â chadw o fewn cyfyngiadau'r sector amgylcheddol.

  • Casglu a defnyddio data – Creu, rhannu, deall a chyfathrebu negeseuon pob set o ddata (rhan bwysig o hynny yw nodi bylchau mewn gwybodaeth) sy'n ymwneud â'r amgylchedd a materion eraill ar draws Gogledd-orllewin Cymru. Nod hyn yw penderfynu'r cysylltiadau rhwng cymdogion, gan roi ffocws ar gyflenwi gweithgarwch gweithredol ar y cyd.
  • Hwyluso'r gwaith o gydweithio ac ehangu cyfranogiad – chwilio am ffyrdd i wella'r ffordd rydym i gyd yn cydweithio, gan ystyried agweddau ar bopeth o wybodaeth i ymyriadau uniongyrchol.

  • Sut rydym yn rheoli disgwyliadau sy'n ymwneud â gofyn am adnoddau nad ydynt yn alinio â gwaith y Datganiad Ardal.

  • Gwella'r ddealltwriaeth a chyfleoedd ar gyfer dysgu o fewn sefydliadau a chymunedau, gan ddarparu ystod eang o awgrymiadau er mwyn gwella dysgu yng Ngogledd-orllewin Cymru a dealltwriaeth ynghylch y rhanbarth a'r materion y mae'n eu hwynebu. Herio ein hunain i fyfyrio'n rheolaidd, a chwilio am ffyrdd gwell o gyflawni canlyniadau ar y cyd.

Sut olwg fyddai ar lwyddiant?

  • Hanesion o newyddion da am yr amgylchedd, ffermio a grwpiau cymunedol

  • Rhwydweithiau lleol yn rhannu gwybodaeth yn effeithiol

  • Mabwysiadu dull sy'n grymuso ac sy'n seiliedig ar leoedd lleol. Mae hyn yn cynnwys annog datrysiadau arloesol a phrofi dulliau gwahanol o fynd i'r afael â materion lleol a nodwyd. Dylid hefyd ystyried bod angen integreiddio camau gweithredu a'u cymhwyso'n gyson ar lefel leol ac o fewn fframwaith deddfwriaethol cenedlaethol a rhyngwladol

  • Datblygu camau gweithredu ag iddynt amcanion hirdymor, nad yw’r newidiadau’n ddibynnol ar newidiadau gwleidyddol

  • Cesglir data a thystiolaeth o effaith yn rheolaidd ynghylch cynlluniau a gyllidwyd, gan sicrhau eu bod ar gael yn gyhoeddus

  • Un o rolau'r Datganiad Ardal yw cynnwys tystiolaeth a rennir a ddarperir trwy ymgysylltu â rhanddeiliaid, a dylid ei defnyddio fel gwaelodlin ar gyfer pawb

  • Mae angen mwy o gydweithrediad gan grwpiau newydd, a grwpiau sydd eisoes yn bodoli, fel y gall rhanddeiliaid eraill weithio gyda nhw'n effeithiol. Er enghraifft, Gwarcheidwaid Traeth Tywyn wrth gyflawni prosiectau lleol

  • Mae'r themâu i gyd yn cael eu cyflawni trwy gynigion cyllid cydweithredol, a dulliau arloesol sy'n rhannu adnoddau a defnyddio cyfleoedd ar gyfer prosiectau rhyngwladol, fel Cronfa Dreftadaeth y Loteri, Interreg, LIFE a chyfleoedd grant lleol eraill lle bo hynny'n bosibl

  • Cyfleoedd i dreulio amser yn sefydliadau ein gilydd yn dysgu a rhannu

  • Dysgu oddi wrth ranbarthau Datganiad Ardal eraill a myfyrio ar sut y mae themâu’r Datganiadau Ardal wedi'u hymgorffori yng nghynlluniau gwaith pob sector, rhanddeiliad a phartner:

    • Mae meysydd gwaith sy'n gorgyffwrdd â Datganiadau Ardal cyfagos (Gogledd-ddwyrain, Morol a Chanolbarth) yn hysbys, ac adeiladir arnynt

    • Mae cynnwys y Datganiad Ardal a’r cyfranogiad gan randdeiliaid yn cael eu hadolygu'n rheolaidd a defnyddir arfer da a drwg er mwyn llywio'r broses a helpu cyfranogwyr i ddysgu er mwyn creu amgylcheddau, cymunedau ac economïau gwydn ar y cyd yng Ngogledd-orllewin Cymru

Ceir modelau amrywiol y gallwn eu hystyried wrth ddatblygu prosesau Datganiad Ardal Gogledd-orllewin Cymru o dan y thema ffyrdd o weithio. 

“Defnyddir termau amrywiol i ddisgrifio dulliau cydweithredol o gyflenwi gwasanaethau yn y DU, e.e. canolbwyntio ar ganlyniadau, seiliedig ar asedau, canolbwyntio ar yr unigolyn, cyfranogiad defnyddwyr gwasanaethau, creu ar y cyd ac ati. Yr hyn sy'n gyffredin iddynt i gyd yw athroniaeth danategol sy'n gwerthfawrogi unigolion, sy’n meithrin eu systemau cymorth, ac sy'n ystyried eu lle yn y gymuned ehangach. Mae'r dull hwn yn gofyn am symud i ffwrdd o ddulliau a arweinir gan wasanaethau, neu ddulliau o'r brig i'r bôn, i un sy'n grymuso dinasyddion yn wirioneddol, gan gynnwys defnyddwyr gwasanaethau a'u cymunedau wrth gomisiynu, dylunio, cyflenwi a gwerthuso gwasanaethau” – Ruth Dineen, Cyfarwyddwr Co-production Training UK, Production and Service delivery: Strategies for Success, Mehefin 2012

Wrth wraidd y thema ffyrdd o weithio, yn ogystal ag ar draws y broses Datganiad Ardal yn fwy cyffredinol, mae cydweithredu ag eraill wrth gomisiynu, dylunio a chyflenwi camau gweithredu a nodir ar draws Datganiad Ardal Gogledd-orllewin Cymru, a gwerthuso ein camau gweithredu ar y cyd er mwyn ymgorffori proses gyflenwi sy'n datblygu'n barhaus, yn amlwg.

Buddion

Cafodd y thema hon ei datblygu o ganlyniad i adborth gan randdeiliaid ynglŷn â'r angen i ddeall ac ymgorffori ffyrdd newydd o weithio, ochr yn ochr â mesur yr effaith tymor byr, tymor canolog a hirdymor y bydd Datganiad Ardal Gogledd-orllewin Cymru'n ei chael.

Mae'r thema hon wrth wraidd popeth sydd angen i ni ei wneud, a dyna egluro pam mai dyma yw ein hail thema drawsbynciol.

Gyda phwy rydym wedi gweithio hyd yn hyn?

  • Yn ystod datblygiad cychwynnol y Datganiad Ardal, anfonwyd y gwahoddiadau i fwy na 450 o bobl ac, yn ystod y tri gweithdy a gynhaliwyd, mynychodd 100 o bobl a chyfrannu at y trafodaethau. Rydym wedi datblygu'r thema yn y digwyddiadau hynny ac rydym wedi bod yn ceisio defnyddio ffyrdd gwahanol o gyfathrebu â rhanddeiliaid i annog cyfranogiad a diddordeb parhaus yn y Datganiad Ardal lleol

  • Cynhaliwyd ail rownd o weithdai rhwng mis Tachwedd a mis Rhagfyr 2019 er mwyn adeiladu ar y trafodaethau blaenorol. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd wedi siarad â phartneriaid a gwrando ar eu syniadau ac adborth, gan gynnwys cyfarfodydd Awdurdodau Parciau Cenedlaethol, cyfarfodydd undebau’r ffermwyr, a gweithdai Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus er mwyn helpu i ddatblygu cynnwys y themâu

  • Anfonwyd mwy na 500 o wahoddiadau ar gyfer yr ail rownd o weithdai ym mis Tachwedd a mis Rhagfyr 2019 a mynychodd mwy na 100 o bobl.

  • Cynhaliwyd cyfres o weithdai ar-lein ym mis Tachwedd a Rhagfyr 2020 lle cafwyd trafodaethau pellach yn ymwneud â phob thema.

Grŵp o bobol mewn trafodaeth mewn cyfarfod yn y canolfan Ucheldre, Caergybi

Ein dadansoddiad o randdeiliaid

O'n dadansoddiad cychwynnol o randdeiliaid, nodwyd 500 o randdeiliaid posibl gennym â budd ym mhroses y Datganiad Ardal yng Ngogledd-orllewin Cymru. Rydym yn cydnabod bod rhestrau rhanddeiliaid yn ddeinamig ac y byddant yn newid ar wahanol adegau drwy gydol y broses, felly rydym wedi ail-edrych ar fylchau a nodwyd o’r gwaith ymgysylltu ac rydym yn parhau i ddiweddaru ein prif restrau rhanddeiliaid.

Cyfranogwyr allweddol

Diffinnir y rhain yn fras fel y partneriaid sy'n cydweithio â ni er mwyn cyflenwi'r Datganiad Ardal. Dyma'r bobl rydym wedi cynnal cyfarfodydd wyneb yn wyneb neu ar-lein gyda nhw, ac sy'n mynychu ein digwyddiadau. Rydyn ni'n mynychu eu digwyddiadau nhw yn yr un modd. Bydd gan gyfranogwyr allweddol eu rhwydweithiau ac adnoddau eu hunain i'w hychwanegu at y Datganiad Ardal, a bydd ganddynt eu strategaethau a pholisïau eu hunain i'w hintegreiddio o fewn y broses ac i'w gweithredu ar gyfer unrhyw ganlyniadau.

Pobl a sefydliadau rydym am iddynt barhau i gymryd rhan weithredol

Diffinnir y bobl hyn yn fras fel rhai sy'n gwneud ac yn gweithredu - mae hyn yn debyg o fod yn rhan o'u swydd o ddydd i ddydd. Mae'r bobl hyn yn hwyluswyr lleol: byddant yn gwybod pwy a all helpu, bydd ganddynt ddisgwyliadau o ran cymorth, cyllid ac adnoddau, ar y cyfan byddant eisiau helpu, a bydd ganddynt lawer o dystiolaeth, data lleol ac arbenigedd.

Pobl sydd angen cynnal budd – cyfathrebu dwyffordd

Diffinnir y bobl hyn fel y rhai nad ydynt yn cymryd rhan yn uniongyrchol, ond sydd â budd lleol a dylanwad lleol.

Cadw i fyny â'r newyddion diweddaraf – cyfathrebu unffordd

Diffinnir y bobl a sefydliadau hyn fel rhai sy'n derbyn gwybodaeth. Gallwn ddarlledu iddynt, ond byddant yn disgwyl gallu rhoi adborth yn ystod unrhyw gyfnewid o wybodaeth.

Rydym am barhau i adolygu'r dadansoddiad hwn o randdeiliaid a'i ledaenu i randdeiliaid ehangach wrth i ni ddatblygu'r broses. Rydym yn cydnabod bod proses y Datganiad Ardal yn aeddfedu i gamau cyflenwi a gwerthuso, ac y bydd buddiannau rhanddeiliaid hefyd yn newid, felly byddwn yn ailymweld yn gyson â'r dadansoddiad o randdeiliaid yn ystod camau gwahanol y broses Datganiad Ardal.

Daeth yr hwylusydd annibynnol (Wellbeing Planner) i'r casgliad ei bod hi'n glir o ddigwyddiadau ymgysylltu ac adborth cysylltiedig fod y broses Datganiad Ardal yn newydd i bawb ac yn cynrychioli newid o'r ffordd mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gweithio yn y gorffennol – gan ofyn am addasiad gan bawb sydd ynghlwm.

Gan ystyried materion sy'n ymwneud ag eglurder y rôl, ffydd yn y broses ac ansicrwydd yn wyneb newid, mae model perfformiad tîm Drexler a Sibbet (model ffurfio, sefydlu, normaleiddio a pherfformio) yn offeryn i gynorthwyo â datblygiad Datganiad Ardal Gogledd-orllewin Cymru wrth symud ymlaen. O ddiddordeb yw'r pedwar cam cyntaf o ddatblygu tîm (cyfeiriannu, meithrin ffydd, egluro nodau ac ymrwymiad). Dyma'r man cychwyn ar gyfer gwaith y grwpiau ffocws thema, ac wrth i'r gwaith ddatblygu a symud yn agosach tua'r camau gweithredu, perfformiad uchel ac adfer.

Beth yw'r camau nesaf?

Byddwn yn datblygu’r weledigaeth ar gyfer yr ardal gyfan gyda rhanddeiliaid – gyda chylch gwaith llydan a chynrychiolaeth eang. Byddwn yn nodi partneriaid posibl ac unigolion/grwpiau sydd â budd, bylchau mewn gwybodaeth, a chysylltiadau â strategaethau a chynlluniau gweithredu lleol.

O hyn, byddwn yn gallu ymgysylltu ag ac ennyn diddordeb grŵp ehangach o randdeiliaid y tu hwnt i'r sector amgylcheddol ehangach mewn modd sydd wedi'i dargedu a chyda ffocws mwy cadarn ar gynnwys grwpiau ac unigolion lleol ac ymgysylltu â nhw.  Gallai hyn olygu amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys: y cyfryngau cymdeithasol, y cyfryngau traddodiadol, cyfarfodydd cymunedol, sesiynau galw heibio a chryfderau ein partneriaid fel ein bod i gyd yn gweithio gyda'n gilydd i gyflenwi gweledigaeth ac uchelgeisiau'r Datganiad Ardal.

Sut mae'r hyn rydym yn ei gynnig yn helpu i reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy?

Mae creu'r Datganiad Ardal ar y cyd, a'r camau gweithredu sy'n flaenoriaeth, yn golygu rhannu'r cyfrifoldeb dros ddylunio, cynnwys, camau gweithredu, cyflenwi a monitro'r Datganiad Ardal ar gyfer Gogledd-orllewin Cymru gydag eraill. Drwy uno ein hadnoddau, bydd yn ein galluogi i ddatblygu ffyrdd newydd o weithio sy'n fwy clyfar ac a fydd yn fanteisiol i waith Datganiad Ardal gogledd-orllewin Cymru yn ei gyfanrwydd.

Rydym yn bwriadu edrych ar ddulliau newydd o fesur faint o effaith mae ein camau gweithredu wedi’i chael ar bob thema. Byddwn yn profi'n dull gweithredu i weld a yw'n gweithio ai peidio. Yna byddwn yn gallu mesur, mewn modd effeithiol, faint o newid sydd wedi digwydd cyn ac ar ôl ein gweithgareddau.

Mae'n bosib edrych tua sectorau a gwledydd eraill er mwyn ystyried damcaniaethau newid manwl ar newid.  Mae'r model ymddygiad dynol yn tarddu o fodel meddygol yn yr Unol Daleithiau, ac mae'n un enghraifft ymhlith y dulliau niferus y gallai'r thema hon eu hystyried wrth ddatblygu model ymddygiad dynol ar gyfer Gogledd-orllewin Cymru. 

Mae'n rhaid archwilio dangosyddion perfformiad a gwybodaeth waelodlin hefyd er mwyn penderfynu ar ffyrdd effeithiol o fesur y newid gwirioneddol sydd wedi digwydd o ganlyniad i dreialu gwahanol ymyriadau ar draws pob un o themâu Datganiad Ardal y Gogledd-orllewin.

“Mae angen i sefydliadau wella'u dealltwriaeth ac ymgorffori mewnwelediadau ymddygiadol er mwyn cyflawni eu nodau. Gan ystyried natur gymhleth y problemau a'r anawsterau wrth brofi mewnwelediadau ymddygiadol, y ffordd orau o drosi mewnwelediadau gwyddor ymddygiadol yn newid go iawn yw cau'r bwlch rhwng gwyddoniaeth ac arfer, ac i gydweithio o ddifrif.” 

Sut all pobl gymryd rhan?

Rydym yn croesawu cyfleoedd lle gall y cyhoedd ymgysylltu â ni ar unrhyw gam o'r broses Datganiad Ardal.

Ceir hefyd ffurflen adborth a chyfeiriad e-bost: northwest.as@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk pe byddech am ysgrifennu atom gyda’ch syniadau ar gyfer datblygu camau gweithredu dan y thema hon.

I helpu fel hwyluswyr y broses hon, bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn gwneud y canlynol:

  • Gweithio ar agweddau penodol o’r sgyrsiau sydd wedi deillio o’r gwaith ymgysylltu â rhanddeiliaid ynghylch y Datganiad Ardal a oedd yn nodi cyfleoedd a heriau ar gyfer treialu gwahanol ddulliau a datblygu ffyrdd newydd o weithio.

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf