Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy ddal ati i bori neu drwy glicio, “Parhau” byddwch yn cytuno i storio cwcis parti cyntaf a thrydydd partïon ar eich dyfais i wella’r broses o lywio’r safle, dadansoddi’r defnydd o’r safle, a chynorthwyo yn ein hymdrechion marchnata. Polisi cwcis.

Datganiad Ardal Canolbarth Cymru

Pobl yn marchogaeth yng Nghoedwig Crychan

Adnoddau naturiol Cymru sydd yn darparu llawer o’n hanghenion sylfaenol- aer i’w anadlu, dŵr i’w yfed, a bwyd i’w fwyta.

Maent yn cynnig egni, ffyniant, a diogelwch.

Maent yn ein hamddiffyn, yn gwella ein hiechyd yn ogystal â safon ein bywydau.

Rhaid i ni reoli a defnyddio ein hadnoddau naturiol mewn ffordd gydlynol os ydym am i bobl fuddio ohonynt.

Mae Deddf Amgylchedd Cymru yn cynnig cyfle i ni wneud hynny trwy gydweithio ag eraill i greu Datganiad Ardal ar gyfer canolbarth Cymru.

Byddent yn amlinellu;

  • Yr adnoddau naturiol sydd ym mhob ardal a’r buddion y maent yn eu cynnig

  • Yr heriau a’r cyfleoedd allweddol sydd i’w cael ar lefel leol

  • Sylfaen o dystiolaeth gyffredin sy’n cynnwys gwybodaeth, data a thystiolaeth

Byddent yn gymorth i ni ddeall cyflwr a thueddiadau adnoddau naturiol yr ardal, y pwysau sydd arnynt, yn ogystal â’r buddion y maent yn eu cynnig.

Bydd Datganiadau Ardal yn cynnig y wybodaeth y mae pobl ei angen i reoli eu hadnoddau naturiol yn fwy effeithlon.

Proffil Ardal

Mae’r ardal yn cynnwys:

  • Ardal fawr o gefn gwlad, gydag ucheldir a mynyddoedd anghysbell ar raddfa ranbarthol, arfordiroedd, cronfeydd dŵr, a gororau oll yn cyfrannu tuag at gymeriad yr ardal

  • Mae’r ardal yn cynnwys rhan o Fannau Brycheiniog, y mynyddoedd uchaf yn Ne Prydain, yn ogystal â rhan sylweddol o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

  • Yr Elenydd, sy’n ffurfio asgwrn cefn Cymru gan rannu’r canolbarth yn ddau. Maent yn ymestyn tua mynyddoedd y Berwyn yn y gogledd

  • Afonydd Dyfrdwy, Gwy, Wysg, a Theifi, ynghyd â’r trefi, pentrefi, a chestyll hanesyddol sydd hyd eu glannau

  • Tir amaeth tawel sydd hyd y bryniau, gyda sawl dyffryn cul a choediog yn arwain at arfordir Ceredigion a’i threfi

  • Mae rhostiroedd, coedwigoedd, a chronfeydd dŵr yn gysylltiedig ag ucheldir yr ardal

Gweler map ffiniau ein datganiad ardal.

Ein sefyllfa bresennol

Rydym yn cydgasglu’r dystiolaeth sydd gennym sy’n ymwneud â’n hadnoddau naturiol.

Rydym wedi dechrau cydweithio gydag arbenigwyr i drafod ein hadnoddau naturiol, yr ardaloedd gwahanol a’u rhinweddau, y dulliau o’u gwarchod, a’r rhesymau dros ddefnyddio’r dulliau hynny.

Ein hamcanion

Trwy gydweithio ag eraill gallwn adnabod y buddion (gwasanaethau ecosystem) a gynigir gan ein hadnoddau naturiol.

Byddwn yn gweithio ag eraill er mwyn deall sut y gall Datganiadau Ardal unigol gyfrannu at gyflawniad y Blaenoriaethau Cenedlaethol allweddol, gan ymateb i heriau a manteisio ar y cyfleoedd i wella’r rheolaeth o adnoddau naturiol Cymru. Bydd hyn yn cynnwys adnabod yr hyn y gallwn ni oll ei wneud i gyfrannu at y broses (gan gynnwys canfod dulliau newydd o gydweithio).

Un o’r heriau allweddol yw sut y gallwn ni gasglu, dadansoddi, a rhannu’r wybodaeth yma gyda phartneriaid ar ffurf sy’n ddefnyddiol iddynt. Rydym yn arbrofi gyda dulliau gwahanol (digidol, adroddiadau, gweithdai, ayyb.) a bydd partneriaid yn ein helpu gyda hyn.

Sut i gyfrannu

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru a’u partneriaid angen pobl o bob sector, sefydliad, a chymuned i gyfrannu at ddatblygiad Datganiadau Ardal.

Trwy gydol y broses, byddwn yn croesawu unrhyw fenter gan bartneriaid i lunio a gwella ymwybyddiaeth o Ddatganiadau Ardal gan ddefnyddio eu rhwydweithiau.

Pe hoffech gyfrannu, cysylltwch ag un o arweinwyr Datganiad Ardal neu gwblhau’r arolwg ar-lei

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.