Cyflwyniad i Datganiad Ardal Canolbarth Cymru
Mae Canolbarth Cymru yn ymestyn dros draean o...
Llun gan Ian Medcalf
Ers cyhoeddi’r Datganiadau Ardal ym mis Mawrth 2020 maen nhw’n naturiol wedi esblygu i adlewyrchu blaenoriaethau ar ôl y pandemig ar gyfer ein hamgylchedd ar draws Canolbarth Cymru.
Cafwyd ffocws ar alluogi a grymuso cymunedau i ddatblygu eu gwytnwch eu hunain, gyda chymorth, i helpu i fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur ar raddfa leol.
Mae Datganiad Ardal Canolbarth Cymru yn cynnwys pedair prif thema, fel a ganlyn:
Yn hytrach na chreu pumed thema sy'n canolbwyntio ar y newid hinsawdd yn unig, mae Cyfoeth Naturiol Cymru am sicrhau bod popeth a wnawn drwy'r Datganiad Ardal yn ystyried yr argyfwng yn yr hinsawdd, gan ffurfio rhan o'n hymateb iddo.
O batrymau tywydd newidiol sy'n bygwth cynhyrchu bwyd i lefelau'r môr yn codi a'r bygythiad o lifogydd catastroffig, mae effaith y newid yn yr hinsawdd yn fyd-eang ei chwmpas ac ar raddfa ddigynsail. Mae angen cymryd camau gweithredu effeithiol ar unwaith. Nid yn unig y bydd ceisio addasu yn y dyfodol yn fwy anodd a chostus, ond yn rhy hwyr o bosib hefyd.
Mae dylanwad dynol ar system yr hinsawdd yn amlwg. Mae allyriadau nwyon tŷ gwydr sy'n deillio o weithgarwch dynol (y cyfeirir atynt weithiau fel allyriadau anthropogenig) ar eu huchaf erioed. Mae digwyddiadau hinsoddol diweddar wedi cael effaith eang ar systemau dynol a naturiol. Mae modelau presennol ar gyfer yr achos gwaethaf yn rhagweld cynnydd o fwy na 4 gradd yn nhymheredd y byd erbyn 2100, os mae allyriadau presennol yn parhau.
Bydd addasu i newid yn gofyn am gamau gweithredu ar draws pob lefel o gymdeithas. Yma yng Nghanolbarth Cymru, mae angen i sefydliadau ac unigolion newid eu hymddygiadau er mwyn lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a dod yn fwy gwydn i effeithiau’r newid yn yr hinsawdd.
Bydd her yr argyfwng yn yr hinsawdd mae pob un ohonom yn ei wynebu yn cwmpasu popeth rydym yn ei wneud i reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy. Mae angen i ni weithio mewn modd sy'n hyrwyddo camau gweithredu sy'n lliniaru yn erbyn effeithiau’r newid yn yr hinsawdd. Mae'n rhaid i ni gefnogi ein hamgylchedd naturiol ac adeiladu cymunedau gwydn sy'n addasadwy ac yn barod ar gyfer y dyfodol.
Mae effeithiau'r newid yn yr hinsawdd eisoes i’w gweld yng Nghymru. Mae ardaloedd arfordirol yn wynebu bygythiad cynyddol gan lefelau'r môr yn codi. Yn y dyfodol agos, gall pawb ddisgwyl gweld mwy o law dwys yn ogystal â mwy o lifogydd afonol ac arfordirol. Mae ein hafau yn dod yn boethach ac yn sychach. Mae rhagamcanion hefyd yn rhagweld mwy o ddiwrnodau cynnes eithriadol, gaeafau mwynach a mwy gwlyb, a llai o eira a rhew, yn ogystal â lefelau dŵr daear ac afonydd is. Mae'r effaith ar amgylchedd naturiol Cymru yn debygol o fod yn sylweddol ac yn anghildroadwy.
Wrth edrych i'r dyfodol, mae angen i ni siarad mwy am y newid yn yr hinsawdd os ydym am gael dealltwriaeth well o'r materion lleol. Rydym am gael sgwrs y gall pobl ymwneud â hi. Mae angen i’r sgwrs fod yn fath o sgwrs newydd, sef un sy'n cynnwys pobl o gymaint o gefndiroedd â phosib ac sy'n rhoi safbwynt cymuned i'r ddadl ynghylch yr argyfwng yn yr hinsawdd. Rydym ni eisiau annog cymunedau i ddatblygu syniadau arloesol ar gyfer eu mentrau llesiant cymunedol eu hunain.
Mae CNC yn gweithio fel rhan o Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion a Phowys i gyflawni’r amcanion llesiant ar lefel gymunedol.
Mae’r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cynnal Asesiad Llesiant i ddeall y problemau a’r blaenoriaethau penodol mewn cymunedau lleol. Cynhyrchwyd Cynllun Llesiant gydag Amcanion Llesiant penodol, er mwyn gwella llesiant cymunedau. Mae’r cynlluniau a’r amcanion llesiant presennol yn weithredol rhwng 2018-2023.
Mae datgarboneiddio a’r argyfwng hinsawdd yn rhan o waith y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus drwyddi draw. Yng Ngheredigion er enghraifft, mae grŵp eisoes wedi’i sefydlu i weithio ar Ddatgarboneiddio yn Aberystwyth.
Mae rhagor o fanylion ar Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion a Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Powys ar gael yma
Wrth ddatblygu Datganiad Ardal Canolbarth Cymru gyda'n rhanddeiliaid, Mae CNC yn chwilio am gyfleoedd o dan themâu ein hardal i fabwysiadu mesurau priodol a fydd yn ystyried ac yn lleihau effeithiau'r argyfwng yn yr hinsawdd rydym i gyd yn ei wynebu.
Ni fydd hyn yn dasg hawdd o hyd, ond trwy gyflwyno'r newid yn yr hinsawdd yn y modd hwn, bydd yn helpu pob un ohonom i feddwl yn wahanol, i ystyried effaith ein camau gweithredu, ac i ymateb i dystiolaeth wrth gynllunio. Bydd hefyd yn ein helpu i ymwreiddio gwirionedd yr argyfwng yn yr hinsawdd ar draws ehangder y gwaith rydym yn ei wneud.
Nod adolygiad 2022 o Ddatganiad Ardal Canolbarth Cymru yw diweddaru’r testun craidd hwn i adlewyrchu datblygiad naturiol y Datganiad Ardal dros y ddwy flynedd gyntaf. Mae’r newidiadau ers ei gyhoeddi am y tro cyntaf yn dangos sut mae’r broses o greu datganiad wedi esblygu’n naturiol, yn seiliedig ar dystiolaeth o waith CNC a mewnbwn rhanddeiliaid. Bydd ein hymgysylltiad yn parhau wrth i’r Datganiad Ardal aeddfedu, datblygu ac esblygu.