Trwyddedau ar gyfer gollyngiadau cwmnïau dŵr o Orlif Carthffosiaeth Cyfunol (CSO)

Sut i wneud cais am drwydded newydd i ollwng o Orlif Carthffosiaeth Cyfunol (CSO)

Gwnewch gais am drwydded i wneud gollyngiadau o Orlif Carthffosiaeth Cyfunol

Sut i newid trwydded bresennol i ollwng o Orlif Carthffosiaeth Cyfunol (CSO)

Gwnewch gais i newid trwydded bresennol i ollwng o Orlif Carthffosiaeth Cyfunol

Darganfyddwch sut i drosglwyddo eich trwydded bresennol i rywun arall

Darganfyddwch sut i ildio eich trwydded

Os oes angen cyngor arnoch cyn i chi wneud cais am drwydded, defnyddiwch ein gwasanaeth cynghori cyn ymgeisio

Ffioedd a Thaliadau

Gweithgarwch arfaethedig

Ffi

Cais newydd am drwydded

£6,229

Amrywiad – Sylweddol

£4,984

Amrywiad – arferol

£3,115

Amrywiad – mân

£935

Amrywiad – gweinyddu

£363

Trosglwyddo’r drwydded

£363

Ildio’r drwydded

£363

Os na allwn wneud y cais yn briodol, byddwn yn cadw

£624

Os byddwch yn tynnu eich cais yn ôl ar ôl iddo gael ei wneud, byddwn yn cadw

£6,229

Ffi Asesiadau Cynefinoedd

Os yw eich gollyngiadau’n agos at safle cynefin Ewropeaidd cydnabyddedig, bydd angen i ni gynnal Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (HRA) wrth asesu eich cais am drwydded. Bydd hyn yn gofyn am dalu ffi ychwanegol o £3,115

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch pryd y gallai fod angen yr asesiadau hyn, ewch i ‘Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd ar gyfer eich Trwydded Amgylcheddol’.

Ffi Asesiadau Risg Amgylcheddol

Os yw eich gollyngiadau i ddŵr wyneb yn cynnwys cemegau ac elfennau peryglus efallai y bydd angen i ni gwblhau Asesiad Risg Amgylcheddol wrth asesu eich cais am drwydded. Bydd hyn yn gofyn am dalu ffi ychwanegol o £3,115

I gael rhagor o wybodaeth am y cemegau a’r elfennau peryglus hyn a phryd y gallai fod angen yr asesiadau hyn, ewch i’n tudalen gwe, ‘Asesiadau Risg Amgylcheddol ar gyfer gollyngiadau dŵr’

Ffi flynyddol

Bydd tâl blynyddol parhaus i dalu ein costau cynnal ac adolygu eich trwydded, gan sicrhau eich bod yn cydymffurfio ag amodau’r drwydded a monitro’r corff dŵr rydych yn gollwng iddo.

Darllenwch fwy am ffioedd a thaliadau yn ein cynllun codi tâl am drwyddedau amgylcheddol.

Diweddarwyd ddiwethaf