Gwneud cais am drwydded sychder
Sicrhau eich bod yn barod i wneud cais
Rhaid i chi wneud cais i Cyfoeth Naturiol Cymru am drwydded sychder ar gyfer safle (megis y pwynt tynnu dŵr) yng Nghymru. Anfonwch eich cais at Asiantaeth yr Amgylchedd os yw'r safle yn Lloegr (ewch i wefan Asiantaeth yr Amgylchedd). Mae trwyddedau sychder yn ddilys am hyd at chwe mis a gellir eu hymestyn am chwe mis arall.
Cyn gwneud cais am drwydded sychder, dylech wneud y canlynol:
- gwirio eich bod yn gymwys i wneud cais
- gwirio bod eich cynllun sychder yn cefnogi'ch cais – dylech roi rheswm dros eich cais os nad yw'n gwneud hynny
- cyflawni'r mesurau i leihau'r galw am ddŵr a nodir yn eich cynllun sychder – dylech egluro pam os nad ydych wedi eu cyflawni
- ysgrifennu adroddiad amgylcheddol
Pan fyddwch chi'n paratoi'ch cais, rhaid i chi gysylltu â'r canlynol:
- yr awdurdod mordwyo perthnasol i gael ei gyngor ynghylch a oes angen cydsyniad – efallai y bydd angen cydsyniad arnoch os yw'ch cais yn debygol o effeithio ar fordwyo mewndirol
- y tîm Cynllunio Adnoddau Dŵr yn Cyfoeth Naturiol Cymru os ydych chi'n gwneud cais i ddefnyddio trwydded yng Nghymru (cyfeiriad e-bost: WREPP@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk)
- Asiantaeth yr Amgylchedd pe gallai'r drwydded hefyd effeithio ar Loegr
- Cyfoeth Naturiol Cymru (ac awdurdodau Parciau Cenedlaethol, os yw'n berthnasol) os yw'ch cais yn debygol o effeithio ar safle dynodedig statudol – megis safle sydd wedi’i ddynodi o dan y Gyfarwyddeb Cynefinoedd, safle Ramsar, neu Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA). Bydd angen i chi hefyd gysylltu â Natural England os bydd yn effeithio ar safle dynodedig yn Lloegr.
Os oes angen cydsyniad awdurdod mordwyo arnoch
Gwrthodir eich cais gan Cyfoeth Naturiol Cymru os oes angen cydsyniad arnoch ac os nad yw'r awdurdod mordwyo yn ei roi. Gallwch wneud cais am orchymyn sychder fel dewis arall os bydd hyn yn digwydd.
Anfonwch unrhyw gydsyniad ysgrifenedig gan yr awdurdod mordwyo gyda'ch cais. Os nad oes angen cydsyniad awdurdod mordwyo arnoch, rhaid i chi ddweud hynny ar eich ffurflen gais.
Gwirio a oes angen cydsyniadau eraill arnoch
Efallai y bydd angen i chi hefyd wneud cais am gydsyniadau eraill nad yw'r drwydded sychder yn eu cynnwys, megis y canlynol:
- cydsyniad draenio tir
- trwydded amgylcheddol
- caniatâd cynllunio
Dylech sicrhau eich bod yn cael unrhyw gydsyniadau angenrheidiol cyn gynted â phosibl, i atal oedi wrth brosesu'ch cais am drwydded.
Cyn ymgeisio
Fel rhan o’r broses o gynllunio ar gyfer sychder, dylai eich cais am drwydded sychder fod yn ‘barod i ymgeisio’ ymlaen llaw, gymaint ag y bo hynny’n bosibl. Mae pob sefyllfa sychder yn wahanol a bydd elfennau na allwch eu paratoi ymlaen llaw. Yn ystod sefyllfa sychder gynyddol, mae'n bwysig cysylltu â Cyfoeth Naturiol Cymru cyn cyflwyno cais ffurfiol. Dylech gwblhau'r gwaith paratoi canlynol ar gyfer y trafodaethau hyn:
- adolygu cynigion yn eich cynllun sychder
- sicrhau bod gennych y data diweddaraf a gofyn am ddata lle bo angen
- cynnal gwaith monitro neu asesu pellach (os oes angen) i gwblhau adroddiad amgylcheddol ar gyfer y cais am drwydded
- diweddaru adroddiad amgylcheddol gydag asesiad amgylcheddol o'r cynnig ar gyfer trwydded sychder
Pe baech chi'n cyflwyno cais ffurfiol am drwydded sychder, gall Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd adennill costau yr aethpwyd iddynt yn y cam cyn ymgeisio.
Beth i'w gynnwys yn eich cais
Bydd yn rhaid i'ch cais gynnwys y canlynol:
- copi drafft o'r drwydded
- disgrifiad o sut y byddwch chi'n defnyddio'r drwydded
- map yn dangos yn glir ble byddwch chi'n defnyddio'r drwydded
- esboniad o pam mae angen y drwydded arnoch
Rhaid i'ch esboniad dros pam mae angen y drwydded arnoch nodi'r canlynol:
- tystiolaeth o brinder glaw eithriadol – mae mwy o fanylion am yr hyn i'w gyflwyno fel rhan o'ch achos prinder glaw eithriadol ar gael yn y Canllawiau ar Gynlluniau Sychder Cwmnïau Dŵr
- effeithiau'r prinder dŵr cyfredol
- faint o bobl sy'n cael eu heffeithio gan y prinder
- galw dyddiol ar y ffynhonnell ddŵr yr effeithir arni
- dewisiadau amgen i drwyddedau sychder rydych wedi'u hystyried a pham rydych wedi'u gwrthod
- beth allai ddigwydd os na chewch drwydded sychder
- yr hyn rydych chi wedi'i wneud hyd yma i leihau'r galw a gwarchod cyflenwadau
- beth rydych chi wedi'i wneud i gydymffurfio ag unrhyw drefniadau rheoli adnoddau dŵr perthnasol
- unrhyw newidiadau gweithredol y gallech eu gwneud i osgoi problemau cysylltiedig â sychder yn y dyfodol
Bydd yn rhaid i'ch cais gynnwys y canlynol:
- eich adroddiad amgylcheddol
- copi o'r hysbysiadau a'r hysbysebion sy'n ymwneud â'ch cais
- disgrifiad o'ch trefniadau ar gyfer archwiliad cyhoeddus o'r cais
- copi o unrhyw drwydded tynnu dŵr bresennol sydd gennych – ynghyd â chopi o unrhyw offeryn statudol neu weithred leol sy'n gysylltiedig â hi neu i ollyngiad a ganiateir gan y drwydded sychder
- unrhyw gydsyniad ysgrifenedig a gawsoch gan yr awdurdod mordwyo
- manylion am ansawdd y dŵr ar gyfer ffynonellau dŵr newydd arfaethedig
- sylwadau gan unrhyw un yr ymgynghorwyd â chi ynghylch y cais
- manylion unrhyw wrthwynebiadau rydych eisoes wedi'u derbyn neu gytundebau rydych wedi'u cytuno gyda gwrthwynebwyr
Rhaid i chi ddarparu manylion eich cynlluniau ar gyfer delio â phrinder dŵr yn y canlynol:
- yr ardal a gwmpesir gan y drwydded
- yr ardal gyflenwi ehangach (neu ardal Cyfoeth Naturiol Cymru)
Hefyd, dylech gynnwys gwybodaeth am amseriadau, gweithgareddau cyhoeddusrwydd, a sut y byddwch yn gweithio gydag unrhyw bobl neu sefydliadau sydd â diddordeb.
Rhoi gwybodaeth ychwanegol am safleoedd dynodedig statudol
Os yw'ch trwydded yn debygol o effeithio ar safle dynodedig statudol, rhaid i chi ddarparu digon o wybodaeth gyda'ch cais i wneud asesiad amgylcheddol. Mae safleoedd dynodedig yn cynnwys safleoedd Ramsar, Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (AGA), Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA), Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), Gwarchodfeydd Natur Lleol, Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol ac Ardaloedd Cadwraeth Forol.
Mae fel arfer yn fwy priodol i wneud cais am orchymyn sychder na thrwydded sychder os yw safle sydd wedi’i ddynodi o dan y Gyfarwyddeb Cynefinoedd yn debygol o gael ei effeithio. Rhaid i chi ddangos eich bod wedi ymchwilio i'r holl opsiynau eraill ar gyfer cyflenwad dŵr cyhoeddus cyn gwneud cais am drwydded sy'n debygol o niweidio safle sydd wedi’i ddynodi o dan y Gyfarwyddeb Cynefinoedd (neu os na allwch brofi na fydd yn niweidio un).
Dim ond os oes rheswm er budd cyhoeddus tra phwysig y gallwch gael trwydded sy'n effeithio ar safle sydd wedi’i ddynodi o dan y Gyfarwyddeb Cynefinoedd. Bydd rhaid i chi hefyd gytuno ar unrhyw fesurau digolledu sydd ei angen cyn i'r drwydded gael ei rhoi. I ddarganfod mwy, darllenwch y canllawiau ar fudd cyhoeddus tra phwysig. Rhaid i chi hefyd roi gwybod am unrhyw newidiadau i brosesau neu weithdrefnau o ganlyniad i'r DU yn ymadael â’r UE. I gael mwy o wybodaeth, darllenwch am y newidiadau i Reoliadau Cynefinoedd 2017.
Dylech nodi a yw'ch cais yn debygol o effeithio ar safle sydd wedi’i ddynodi o dan y Gyfarwyddeb Cynefinoedd yn eich cynllun sychder.
Cyflwyno eich cais
Rhaid i chi anfon eich cais i Ganolfan Dderbyn Cyfoeth Naturiol Cymru. Dylech wneud hyn trwy ei anfon drwy'r post neu drwy e-bost.
Dylech wneud y canlynol:
- darparu dwy set gyflawn o ddogfennau os ydych chi'n anfon cyflwyniad ar bapur
- anfon unrhyw ddogfennau electronig ar ffurf Microsoft Office, PDF, neu fformat cyfatebol
- anfon unrhyw wybodaeth gyfrinachol neu sensitif ar wahân, gan ddefnyddio amgryptio os oes angen
- gwirio bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi derbyn eich cais
Dweud wrth eraill am eich cais
Rhaid i chi anfon hysbysiad ysgrifenedig o'ch cais at unrhyw sefydliadau sy'n debygol o gael eu heffeithio ganddo. Fel arfer, y rhain fydd y canlynol:
- awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am ardaloedd y mae'r drwydded yn effeithio arnynt
- awdurdodau lleol a byrddau draenio mewnol sydd â ffynonellau dŵr mewn ardaloedd y mae'r drwydded yn effeithio arnynt
- tynwyr dŵr a chwmnïau dŵr eraill sy'n gweithredu mewn ardaloedd y mae'r drwydded yn effeithio arnynt
- unrhyw sefydliadau a ddiogelir gan ofyniad statudol (megis ar gyfer dŵr digolledu) y mae'r drwydded yn ei atal neu'n ei newid
- awdurdodau mordwyo sy'n gyfrifol am unrhyw gwrs dŵr y mae'r drwydded yn effeithio arno
Rhaid i'ch hysbysiad wneud y canlynol:
- nodi effeithiau'r drwydded
- nodi'r tir y mae'r cais yn ymwneud ag ef (os yw'r drwydded yn awdurdodi meddiannu a defnyddio tir)
- nodi y gellir archwilio'r holl fapiau neu gynlluniau perthnasol yn rhad ac am ddim am gyfnod o saith diwrnod o'r dyddiad y cyflwynir yr hysbysiad
- nodi y dylid unrhyw wrthwynebiadau i'ch cais gael eu gwneud i Cyfoeth Naturiol Cymru cyn pen saith diwrnod ar ôl cyflwyno'r hysbysiad
Dylid anfon unrhyw wrthwynebiadau i'r Ganolfan Derbyn Trwyddedau yn Cyfoeth Naturiol Cymru.
Y Ganolfan Derbyn Trwyddedau
Cyfoeth Naturiol Cymru
Tŷ Cambria
29 Heol Casnewydd
Caerdydd
CF24 0TP
E-bost: permitreceiptcentre@naturalresourceswales.gov.uk
Dylech hefyd ystyried y canlynol:
- amseru'ch cais fel nad yw pobl yn cael eu hatal rhag nodi eu gwrthwynebiadau (gall gwyliau cyhoeddus roi llai o ddyddiau iddynt ymateb)
- defnyddio'r geiriau ‘trwydded sychder’ yn nheitl a thestun eich hysbysiad
- cynnwys cyfeiriadau grid yn eich hysbysiad
- cynnwys manylion unrhyw fesurau ymarferol rydych wedi'u cymryd neu y byddwch yn eu cymryd i ddelio ag effeithiau'r drwydded sychder
Hysbysebu'ch cais
Rhaid i chi hysbysebu'ch cais am drwydded sychder mewn un neu fwy o bapurau newydd lleol sy'n cylchredeg yn yr ardal y mae'r drwydded yn effeithio arni. Rhaid i chi hefyd ei hysbysebu yn The London Gazette.
London Gazette
PO Box 3584
Norwich
NR7 7WD
Rhif ffôn: 020 200 2434
E-bost: London@thegazette.co.uk
Er mwyn osgoi oedi, gallwch ddefnyddio papurau dyddiol rhanbarthol yn lle rhai wythnosol. Yn aml, mae cylchrediad cyfyngedig i bapurau newydd am ddim, felly dim ond os nad oes papurau newydd lleol eraill yn cylchredeg yn yr ardal y dylech hysbysebu yn y rhain.
Os yw'r drwydded sychder yn effeithio ar Gymru, rhaid i chi gyhoeddi eich hysbysebion yn ddwyieithog. Os oes gan eich cwmni gynllun iaith Gymraeg, dylech ddilyn ei ofynion.
Rhaid i chi sicrhau bod copi cyflawn o'ch cais am drwydded sychder ar gael i'w archwilio gan unrhyw un am saith diwrnod o'r dyddiad y cafodd ei hysbysebu. Rhaid i chi beidio â chodi tâl ar unrhyw un i'w archwilio. Sicrhewch ei fod ar gael ym mhob un o'r lleoedd canlynol:
- lle priodol (fel swyddfa bost leol), dim mwy nag 8 km ar y ffordd (neu mor agos â phosib mewn ardaloedd anghysbell) naill ai o'r man tynnu dŵr neu fan y gollyngiad digolledu
- eich prif swyddfa a'ch swyddfa sydd fwyaf lleol i'r ardal berthnasol
- swyddfa leol Cyfoeth Naturiol Cymru
Gwiriwch gyda Cyfoeth Naturiol Cymru; gall y broses hon newid os oes cyfyngiadau ar deithio.
Mynnu penderfyniad ar eich cais
Tynnu eich cais yn ôl
Ffoniwch Cyfoeth Naturiol Cymru cyn gynted â phosibl os ydych chi am dynnu cais am drwydded sychder yn ôl. Dylech wneud y canlynol hefyd:
- anfon cadarnhad ysgrifenedig i Cyfoeth Naturiol Cymru o'ch penderfyniad i dynnu'ch cais yn ôl
- anfon datganiad i'r wasg am eich penderfyniad i dynnu'ch cais yn ôl
- dweud wrth unrhyw un a wrthwynebodd eich cais eich bod yn ei dynnu'n ôl
Penderfyniad ynglŷn â'ch cais
Ar ôl derbyn eich cais, byddwch fel arfer yn derbyn penderfyniad Cyfoeth Naturiol Cymru o fewn:
- 12 diwrnod calendr o ddyddiad eich hysbyseb ddiwethaf, os na dderbynnir gwrthwynebiadau neu os caiff pob gwrthwynebiad ei ddatrys a'ch bod wedi nodi'ch cais am drwydded yn eich cynllun sychder
- saith diwrnod calendr o dderbyn adroddiad gwrandawiad os cynhelir gwrandawiad
Byddwch yn derbyn e-bost a llythyr yn cynnwys y canlynol:
- adroddiad ysgrifenedig ar eich cais
- adroddiad o'r gwrandawiad, os cynhelir gwrandawiad
- trwydded sychder os rhoddir un
I gael penderfyniad yn gyflym, dylech wneud y canlynol:
- darparu tystiolaeth i brofi eich bod wedi cyhoeddi'ch cais – anfonwch hon at Cyfoeth Naturiol Cymru cyn gynted â phosibl
- ymateb yn brydlon i unrhyw gwestiynau gan Cyfoeth Naturiol Cymru
- darparu unrhyw wybodaeth arall y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gofyn amdani – anfonwch y wybodaeth trwy e-bost ac, os gofynnir amdani, fel llythyr
- dangos bod y drwydded sychder wedi'i nodi yn eich cynllun sychder a bod unrhyw wrthwynebiadau wedi'u datrys
Beth i'w wneud os oes gwrandawiad
Fe gewch chi lythyr gan Cyfoeth Naturiol Cymru ar ôl i chi gyflwyno'ch cais.
Bydd y llythyr yn trafod y canlynol:
- y broses os oes gwrandawiad
- y dogfennau y bydd angen i chi eu darparu ar gyfer y gwrandawiad
Datrys gwrthwynebiadau
Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn anfon copi atoch o bob gwrthwynebiad a dderbynnir ganddo. Mae'n bosib y byddwch yn ceisio datrys problemau gyda'r gwrthwynebwyr wedyn i ddod i gytundeb ac osgoi gwrandawiad.
Cyn trafod gyda gwrthwynebwyr, anfonwch ddatganiad atynt yn nodi'ch rhesymau dros wneud y cais. Dylai hwn gynnwys:
- rhestr o unrhyw ddogfennau, mapiau neu gynlluniau y byddech yn dibynnu arnyn nhw mewn gwrandawiad, gyda chyngor ar ble y gellir archwilio'r rhain a'u copïo
- eich dogfennau cais
- unrhyw ddogfennau eraill gan gyrff statudol perthnasol
Pan fydd angen gwrandawiad
Bydd gwrandawiad yn cael ei gynnal os bydd y canlynol yn digwydd:
- mae unigolyn neu sefydliad yn gwneud gwrthwynebiad rhesymol gyda seiliau wedi'u nodi'n glir
- ni cheir cytundeb rhyngoch chi a'r gwrthwynebydd
- nid yw'r gwrthwynebiad yn cael ei dynnu'n ôl
- mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn penderfynu na ellir delio â'r gwrthwynebiad trwy ddigolledu yn hytrach
Gwrthwynebu’r penderfyniad i gynnal gwrandawiad
Ni allwch apelio yn erbyn penderfyniad Cyfoeth Naturiol Cymru i gynnal gwrandawiad. Fodd bynnag, gallwch dynnu eich cais am drwydded sychder yn ôl a gwneud cais am orchymyn sychder gan Weinidogion Cymru yn lle.
Os oes brys am drwydded sychder, gall Gweinidogion Cymru benderfynu na ddylai gwrandawiad fynd yn ei flaen. Dylech anfon achos ategol llawn i Cyfoeth Naturiol Cymru yn profi bod angen brys am drwydded os ydych am ofyn am hyn.
Pwy fydd yn arwain y gwrandawiad
Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn penodi un o'r canlynol i arwain y gwrandawiad:
- arolygydd o'r Arolygiaeth Gynllunio (ewch i wefan Arolygiaeth Gynllunio Cymru)
- aelod o'i staff ei hun
- trydydd parti addas
Sicrhau dyddiad ar gyfer eich gwrandawiad
Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn trefnu lleoliad addas ar gyfer gwrandawiad. Gall gwrandawiad gael ei gynnal unrhyw amser ar ôl y terfyn saith diwrnod ar gyfer cyflwyno gwrthwynebiadau, ond dylai ddigwydd yn gymharol gyflym.
Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn hysbysu pob parti o ddyddiad, amser a lleoliad y gwrandawiad. Bydd fel arfer yn darparu saith diwrnod o rybudd, er y gellir lleihau hyn mewn achosion mwy brys. Os yw Cyfoeth Naturiol Cymru yn ystyried bod y cais o ddigon o ddiddordeb cyhoeddus, bydd yn cyhoeddi datganiad i'r wasg neu'n gofyn ichi ddarparu cyhoeddusrwydd.
Anfon datganiad o ffaith
Dylech gytuno ar sail ffeithiol eich achos gydag unrhyw wrthwynebwyr cyn i'r gwrandawiad gael ei gynnal. Nodwch y sail ffeithiol mewn dogfen (gelwir hyn yn ‘ddatganiad o ffaith’) a’i anfon at y sawl sy’n arwain y gwrandawiad. Mae hyn er mwyn atal anghydfodau yn ystod y gwrandawiad ar faterion ffeithiol (megis data glawiad).
Dylech hefyd ddweud wrth y sawl sy'n arwain y gwrandawiad am unrhyw beth a ddigwyddodd ar ôl i chi anfon eich cais y mae angen ei ystyried yn ystod y gwrandawiad (megis newid mewn glawiad, materion amgylcheddol, neu unrhyw ddatblygiadau newydd eraill).
Beth sy'n digwydd yn y gwrandawiad
Bydd y sawl sy'n arwain y gwrandawiad yn penderfynu ar ei strwythur. Fodd bynnag, mae'r weithdrefn fel arfer fel a ganlyn:
- gofynnir i chi siarad yn gyntaf
- yna gofynnir i wrthwynebwyr siarad – gallant roi tystiolaeth neu ofyn cwestiynau (fel rheol bydd cwestiynau'n cael eu sianelu trwy'r sawl sy'n arwain y gwrandawiad, a all hefyd ofyn ei gwestiynau ei hun)
- byddwch chi'n cael cyfle i wneud sylwadau clo
Gall y sawl sy'n arwain y gwrandawiad ymweld â'r safle yn anffurfiol cyn y gwrandawiad i ddarganfod mwy am yr ardal yr effeithir arni.
Ffioedd
Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn adennill holl gostau'r gwrandawiad, gan gynnwys unrhyw ffioedd am y lleoliad. Bydd hyn yn digwydd ar ôl i benderfyniad gael ei wneud ar eich cais am drwydded sychder. Bydd yr Arolygiaeth Gynllunio hefyd yn codi ffi am amser yr arolygydd ac unrhyw gostau teithio a chynhaliaeth a gafwyd.
Ar ôl y gwrandawiad
Ar ôl y gwrandawiad, bydd y sawl a'i cynhaliodd yn cyflwyno adroddiad i Cyfoeth Naturiol Cymru.
Bydd yr adroddiad yn nodi'r canlynol:
- pwy oedd yn gwrthwynebu yn y gwrandawiad a'r hyn a ddywedon nhw
- eich ymateb i bob gwrthwynebiad, gan gynnwys atebion i unrhyw gwestiynau
- penderfyniadau'r unigolyn a gynhaliodd y gwrandawiad, gan gynnwys canfyddiadau, addasiadau a awgrymwyd, a chasgliadau
Ni fydd yr adroddiad yn gwneud argymhelliad ar sut y dylid penderfynu ar y cais. Nod Cyfoeth Naturiol Cymru yw gwneud penderfyniad cyn pen saith diwrnod calendr ar ôl derbyn adroddiad y gwrandawiad, er y gall y cyfnod hwn fod yn hirach neu'n fyrrach.
Ar ôl i chi dderbyn eich trwydded sychder
Hysbysebu cais llwyddiannus
Rhaid i chi hysbysebu cais llwyddiannus yn y canlynol:
- The London Gazette
- yr un papur newydd lleol lle gwnaethoch hysbysebu'ch cais
Rhaid i'ch hysbyseb nodi ble y gellir archwilio'r drwydded (dylai'r rhain fod yr un lleoedd lle gwnaethoch chi sicrhau bod eich cais ar gael i'w archwilio).
Talu digollediad
Fel yr ymgeisydd, rydych yn atebol i dalu digollediad am unrhyw golled neu ddifrod a achosir gan drwydded sychder. Gall unrhyw un o'r canlynol hawlio digollediad:
- perchnogion y ffynhonnell ddŵr sy'n gysylltiedig â'r drwydded sychder
- unrhyw un sydd â buddiant yn y ffynhonnell honno (megis clybiau pysgota, clybiau mordwyaeth, grwpiau bioamrywiaeth)
Rhaid i unrhyw un sy'n gwneud cais am ddigollediad anfon ei gais atoch cyn pen chwe mis ar ôl i'r drwydded ddod i ben.
Dylech gyfeirio unrhyw anghydfodau ynghylch digollediad i'r Uwch Dribiwnlys (Siambr Tiroedd – i gael mwy o wybodaeth, ewch i wefan yr Uwch Dribiwnlys). Ni ellir delio ag anghydfodau mewn gwrandawiadau.
Talu costau yn ôl
Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu Cyfoeth Naturiol Cymru am gostau'r canlynol:
- unrhyw fonitro a wneir ar eich rhan
- ymholiadau neu wrandawiadau lleol
- prosesu'ch cais (fel amser staff, gorbenion ac offer – gan gynnwys yn y cam cyn ymgeisio)
- gweithgareddau lliniaru neu adfer y cytunwyd arnynt ymlaen llaw
Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn gwneud y canlynol:
- eich hysbysu pan ystyriwn fod y cam cyn ymgeisio wedi cychwyn yn ffurfiol (h.y. pryd y gallwn adennill costau pe bai cais ffurfiol yn cael ei wneud)
- cyhoeddi llythyr o fwriad i adennill costau wrth gyflwyno cais ffurfiol
- cofnodi'r amser y mae'n ei roi i bob trwydded unigol, er mwyn caniatáu cyfrifo taliadau
- darparu anfoneb wedi'i heitemeiddio a llythyr eglurhaol cyn pen 12 mis ar ôl i'r drwydded sychder ddod i ben, i sicrhau bod y broses adennill costau yn dryloyw
Ymestyn eich trwydded sychder
Gallwch wneud cais i ymestyn trwydded sychder bresennol am hyd at chwe mis. Rhaid i chi gysylltu â Cyfoeth Naturiol Cymru o leiaf 28 diwrnod cyn i'r drwydded bresennol ddod i ben os ydych chi'n bwriadu gwneud hyn. Bydd angen cynnwys yr holl ddeunyddiau ategol gyda'ch cais, gan gynnwys unrhyw dystiolaeth newydd, a'r canlynol:
- diffyg glawiad eithriadol parhaus
- monitro effeithiau'r drwydded sychder bresennol
Byddwch yn derbyn penderfyniad o fewn:
- 12 diwrnod calendr os nad oes gwrandawiad
- saith diwrnod calendr o dderbyn adroddiad y gwrandawiad, os oes gwrandawiad
Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn ystyried unrhyw wrthwynebiad a wneir yn erbyn y cais gwreiddiol am drwydded os yw'r gwrthwynebiad bellach yn fwy perthnasol oherwydd newid mewn amgylchiadau.
Ni all trwyddedau sychder fod mewn grym am fwy na 12 mis. Rhaid i chi wneud cais newydd i adnewyddu trwydded ar ôl yr amser hwn.
Newid eich trwydded sychder
Bydd angen i chi anfon cais llawn i newid trwydded sychder. Fodd bynnag, gall Cyfoeth Naturiol Cymru wneud mân newidiadau i drwydded sychder, megis newid union eiriad y drwydded. Dylech gysylltu â Cyfoeth Naturiol Cymru i gael cyngor ar hyn.
Canslo'ch trwydded sychder
Gallwch chi roi'r gorau i ddefnyddio trwydded sychder ar unrhyw adeg, ar yr amod nad yw hyn yn mynd yn groes i amodau neu gyfyngiadau'r drwydded. Ysgrifennwch at Cyfoeth Naturiol Cymru i ganslo'ch trwydded. Anfonwch ddatganiad i'r wasg i ddweud wrth y cyhoedd bod eich trwydded wedi'i chanslo.
Gellid canslo eich trwydded os na fyddwch yn dilyn ei rheolau. Fe gewch rybudd ysgrifenedig gan Cyfoeth Naturiol Cymru cyn y bydd yn cael ei chanslo.
Troseddau
Rhaid i chi beidio â chymryd, defnyddio na gollwng dŵr oni bai fod gennych awdurdod i wneud hynny.
Mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:
- adeiladu neu gynnal a chadw unrhyw gyfarpar ar gyfer mesur llif dŵr sy'n ofynnol gan drwydded sychder – gwnewch yn siŵr fod gennych y cydsyniad perthnasol i wneud hyn (fel cydsyniad draenio tir neu drwydded cronni dŵr)
- caniatáu i bobl awdurdodedig archwilio'r system ddŵr, neu archwilio neu gymryd copïau o gofnodion sy'n gysylltiedig â hi
Gallech gael dirwy os na allwch ddangos eich bod wedi cymryd pob rhagofal rhesymol a gwneud popeth o fewn eich gallu i osgoi cyflawni'r troseddau hyn.
Mae hefyd yn drosedd i wneud datganiadau ffug yn fwriadol neu'n ddi-hid i gael trwydded sychder.
Manylion cyswllt
Cyfoeth Naturiol Cymru
Y Ganolfan Derbyn Trwyddedau
Tŷ Cambria
29 Heol Casnewydd
Caerdydd
CF24 0TP
Ffôn: 0300 065 3000
E-bost: ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk