Gwneud cais am orchymyn sychder neu orchymyn sychder brys
Sicrhau eich bod yn barod i wneud cais
Mae gorchmynion sychder yn cael eu penderfynu gan Weinidogion Cymru ar gyfer safleoedd yng Nghymru. Maent yn ddilys am hyd at chwe mis a gellir eu hymestyn am chwe mis arall. Gall Cyfoeth Naturiol Cymru wneud cais am orchymyn sychder i ddiogelu'r amgylchedd; mae Gweinidogion Cymru hefyd yn penderfynu ar y rhain.
Cyhoeddir gorchmynion sychder brys gan Weinidogion Cymru. Maent yn ddilys am hyd at dri mis a gellir eu hymestyn am ddeufis arall. I wneud cais am orchymyn sychder brys, dilynwch yr un broses ag y byddech chi am orchymyn sychder cyffredin, ynghyd â'r camau ychwanegol ar gyfer gwneud cais am orchymyn sychder brys.
Mae'r Ysgrifennydd Gwladol yn gyfrifol am benderfynu ar orchmynion sychder a gorchmynion sychder brys yn Lloegr. Cysylltwch ag Asiantaeth yr Amgylchedd ynghylch ceisiadau sy'n effeithio ar Loegr (ewch i wefan Asiantaeth yr Amgylchedd).
Cyn gwneud cais am orchymyn sychder, dylech wneud y canlynol:
- gwirio eich bod yn gymwys i wneud cais – gan gynnwys y gallwch brofi eich bod mewn cyfnod o sychder ac nad oes unrhyw ffynonellau eraill y gallwch eu defnyddio i gynnal cyflenwad
- gwirio bod eich cynllun sychder yn cefnogi'ch cais – dylech roi rheswm dros eich cais os nad yw'n gwneud hynny
- cyflawni'r mesurau i leihau'r galw am ddŵr a nodir yn eich cynllun sychder – dylech egluro pam eich bod wedi eu cyflawni
- ysgrifennu adroddiad amgylcheddol
Pan fyddwch chi'n paratoi'ch cais, rhaid i chi gysylltu â'r canlynol:
- Llywodraeth Cymru i drafod eich cynigion
- yr awdurdod mordwyo perthnasol i gael ei gyngor ynghylch a oes angen cydsyniad – efallai y bydd angen cydsyniad arnoch os yw'ch cais yn debygol o effeithio ar fordwyo mewndirol
- y tîm Cynllunio Adnoddau Dŵr yn Cyfoeth Naturiol Cymru (e-bost: WREPP@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk)
- Cyfoeth Naturiol Cymru (ac awdurdodau Parciau Cenedlaethol, os yw'n berthnasol) os yw'ch cais yn debygol o effeithio ar safle dynodedig statudol, megis safle sydd wedi’i ddynodi o dan y Gyfarwyddeb Cynefinoedd, safle Ramsar, Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), Gwarchodfa Natur Leol, Gwarchodfa Natur Genedlaethol neu Ardal Cadwraeth Forol. Os yw'n effeithio ar safle dynodedig yn Lloegr, bydd angen i chi hefyd gysylltu â Natural England.
Cyn ymgeisio
Fel rhan o’r broses o gynllunio ar gyfer sychder, dylai eich cais am orchymyn sychder fod yn ‘barod i ymgeisio’ ymlaen llaw, gymaint ag y bo hynny’n bosibl. Mae pob sefyllfa sychder yn wahanol a bydd rhai elfennau na allwch eu paratoi ymlaen llaw. Yn ystod sefyllfa sychder gynyddol, mae'n bwysig cysylltu â Cyfoeth Naturiol Cymru cyn cyflwyno cais ffurfiol. Dylech gwblhau'r gwaith paratoi canlynol ar gyfer y trafodaethau hyn:
- adolygu cynigion yn eich cynllun sychder
- sicrhau bod gennych y data diweddaraf a gofyn am ddata lle bo angen
- cynnal gwaith monitro neu asesu pellach (os oes angen) i gwblhau adroddiad amgylcheddol ar gyfer y cais am drwydded
- diweddaru adroddiad amgylcheddol gydag asesiad amgylcheddol o'r cynnig trwydded sychder
Pe baech yn cyflwyno cais gorchymyn sychder ffurfiol i Weinidogion Cymru, gall Cyfoeth Naturiol Cymru adennill costau yr aethpwyd iddynt yn y cam cyn ymgeisio.
Beth i'w gynnwys yn eich cais
Bydd yn rhaid i'ch cais gynnwys y canlynol:
- disgrifiad technegol o sut y byddwch chi'n defnyddio'r drwydded
- map yn dangos yn glir ble byddwch chi'n defnyddio'r drwydded, oni bai ei bod ar gyfer cyfyngu ar y defnydd nad yw'n hanfodol o ddŵr
- dau gopi o'r map, os bydd y gorchymyn yn mynnu hynny
- esboniad o pam fod angen y gorchymyn arnoch chi
- eich adroddiad amgylcheddol
- copi o'r hysbysiadau a'r hysbysebion a luniwyd gennych mewn perthynas â'ch cais (neu ardystiad gan gyfreithiwr bod yr hysbysiadau wedi ymddangos ar ddyddiad penodol)
- sylwadau gan Cyfoeth Naturiol Cymru ac, os yw'n berthnasol, yr awdurdod mordwyo ac Asiantaeth yr Amgylchedd (Lloegr)
- copi o unrhyw drwydded tynnu dŵr bresennol sydd gennych – darparwch gopi hefyd o unrhyw offeryn statudol neu ddeddf leol sy'n gysylltiedig â hi neu â gollyngiad dŵr a ganiateir gan y gorchymyn sychder
- copi o unrhyw drefniadau rheoli adnoddau dŵr perthnasol
- drafft o'r gorchymyn arfaethedig – dylid cynnwys copi electronig sy'n gydnaws â Microsoft Word
Rhaid i'ch esboniad o pam fod angen y gorchymyn arnoch nodi'r canlynol:
- tystiolaeth o brinder eithriadol o law – dylid cynnwys ffigurau glawiad misol o’i gymharu â chyfartaledd tymor hir yr ardal
- effeithiau'r prinder dŵr cyfredol
- faint o bobl sy'n cael eu heffeithio gan y prinder
- galw dyddiol ar y ffynhonnell ddŵr yr effeithir arni
- beth rydych chi wedi'i wneud hyd yn hyn i leihau'r galw a'r effaith y mae wedi'i chael
- nifer a math y mesurau sychder rydych wedi'u cyflawni yn ystod y pum mlynedd diwethaf
- unrhyw ddibenion o dan Gyfarwyddyd Sychder 2011 y bydd y gorchymyn yn eu nodi, gan gynnwys pwy fydd yn cael eu heffeithio – mae hyn ond yn berthnasol i orchmynion i gyfyngu ar y defnydd nad yw'n hanfodol o ddŵr – darllenwch y papur polisi ar gyfer Cyfarwyddyd Sychder 2011.
Bydd angen i chi ddarparu'r canlynol hefyd:
- manylion popeth rydych wedi'i wneud yn ystod y pum mlynedd diwethaf i leihau gollyngiadau yn eich system ddosbarthu – dywedwch pa mor effeithiol fu'r mesurau hyn a pha gynlluniau sydd gennych i wella'ch targedau lleihau gollyngiadau
- asesiad o gostau a buddion y gorchymyn a disgrifiad o sut y byddwch yn monitro ei effeithiau – mae hyn ond yn berthnasol i orchmynion sy'n cyfyngu ar ddefnydd nad yw'n hanfodol o ddŵr
- asesiad o effeithiau tebygol y gorchymyn ar ansawdd yr afon a mannau tynnu dŵr trwyddedig eraill – mae hyn ond yn berthnasol i orchmynion ar gyfer lleihau llif gweddilliol yr afon
Os ydych am ddefnyddio’r gorchymyn i gael dŵr o ffynhonnell newydd, dylech gadarnhau bod ansawdd y dŵr (ar ôl ei drin os oes angen) yn addas ar gyfer cyflenwad cyhoeddus.
Rhaid i chi hefyd ddarparu manylion eich cynlluniau ar gyfer delio â phrinder dŵr yn y canlynol:
- yr ardal a gwmpesir gan y gorchymyn
- yr ardal gyflenwi ehangach
Bydd angen cynnwys gwybodaeth am amseriadau, gweithgareddau cyhoeddusrwydd, a sut y byddwch yn gweithio gydag unrhyw bobl neu sefydliadau sydd â diddordeb.
Rhaid i chi hefyd ddarparu unrhyw wybodaeth ychwanegol angenrheidiol os yw'r gorchymyn yn debygol o effeithio ar safle dynodedig statudol. Dilynwch yr un broses ag y byddech chi am drwydded sychder.
Cyflwyno'ch cais
Rhaid i chi gyflwyno'ch cais i Weinidogion Cymru. Dylech wneud hyn trwy lythyr, e-bost, neu drwy drosglwyddiad electronig diogel (cysylltwch â Llywodraeth Cymru i ddarganfod sut i wneud hyn). Dylech wneud y canlynol:
- darparu dwy set gyflawn o ddogfennau os ydych chi'n anfon cyflwyniad ar bapur
- anfon unrhyw ddogfennau electronig ar ffurf Microsoft Office, PDF, neu ffurf gydnaws
- anfon copïau papur yn lle ffeiliau electronig os yw'r ffeiliau electronig mor fawr eu bod yn anodd eu lawrlwytho
- anfon unrhyw wybodaeth gyfrinachol neu sensitif ar wahân, gan ddefnyddio amgryptio os oes angen
- gwirio bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi derbyn eich cais
Dweud wrth eraill am eich cais
Rhaid i chi ddilyn yr un broses ar gyfer dweud wrth sefydliadau perthnasol am eich cais ag y byddech chi am drwydded sychder.
Os ydych yn gwneud cais am orchymyn sychder, mae'n fwyaf tebygol y bydd angen i chi anfon hysbysiad ysgrifenedig at y canlynol:
- Cyfoeth Naturiol Cymru
- awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am ardaloedd y mae'r gorchymyn yn effeithio arnynt
- awdurdodau lleol a byrddau draenio mewnol sydd â ffynonellau dŵr neu fannau gollwng mewn ardaloedd y mae'r gorchymyn yn effeithio arnynt
- cwmnïau dŵr a thynwyr dŵr eraill sy'n gweithredu mewn ardaloedd y mae'r gorchymyn yn effeithio arnynt
- unrhyw sefydliadau a ddiogelir gan ofyniad statudol (megis ar gyfer dŵr digolledu) y mae'r gorchymyn yn ei atal neu'n ei addasu
- awdurdodau mordwyo sy'n gyfrifol am unrhyw gwrs dŵr y mae'r gorchymyn yn effeithio arno
Nodwch yn glir fod rhaid anfon unrhyw wrthwynebiadau sy'n ymwneud â Chymru i Lywodraeth Cymru trwy e-bost neu'r post:
E-bost: water@gov.wales
Y Gangen Ddŵr
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Rhaid derbyn gwrthwynebiadau cyn pen saith diwrnod ar ôl cyflwyno'r hysbysiad.
Hysbysebu'ch cais
Rhaid i chi ddilyn yr un broses ar gyfer hysbysebu'ch cais gorchymyn sychder ag y byddech chi am drwydded sychder.
Mynnu penderfyniad ar eich cais
Tynnu eich cais yn ôl
Cysylltwch â swyddogion ffôn yn Llywodraeth Cymru cyn gynted â phosibl os ydych chi am dynnu cais am orchymyn sychder yn ôl. Dylech wneud y canlynol hefyd:
- anfon cadarnhad ysgrifenedig atynt o'ch penderfyniad i dynnu'ch cais yn ôl o fewn tri diwrnod
- anfon datganiad i'r wasg am eich penderfyniad i dynnu'ch cais yn ôl
- dweud wrth unrhyw un a wrthwynebodd eich cais eich bod yn ei dynnu'n ôl
Penderfyniad ynglŷn â'ch cais
Unwaith y derbynnir eich cais, byddwch fel arfer yn cael penderfyniad cyn pen 28 diwrnod os nad oes unrhyw wrthwynebiadau na chymhlethdodau.
Byddwch yn derbyn y penderfyniad mewn e-bost neu lythyr gan yr Ysgrifennydd Gwladol neu Weinidogion Cymru. Ar ôl i benderfyniad gael ei wneud, ni ellir gwneud unrhyw newidiadau iddo. Bydd Gweinidogion Cymru hefyd yn rhoi gwybod i'r canlynol:
- Cyfoeth Naturiol Cymru
- unrhyw un a wrthwynebodd eich cais
I gael penderfyniad yn gyflym, dylech wneud y canlynol:
- darparu prawf eich bod wedi cyhoeddi'ch cais – anfonwch hwn at swyddogion cyn gynted â phosibl
- ymateb yn brydlon i unrhyw gwestiynau gan swyddogion
- darparu unrhyw wybodaeth arall y mae swyddogion yn gofyn amdani – anfonwch y wybodaeth trwy e-bost ac, os gofynnir, ar bapur
- paratoi ymlaen llaw trwy nodi ceisiadau gorchymyn sychder posibl yn eich cynllun sychder a sicrhau bod y ceisiadau hyn yn barod i'w hanfon
Beth i'w wneud os oes gwrandawiad neu ymchwiliad cyhoeddus
Cyn gynted ag y byddant yn derbyn eich cais am orchymyn sychder, bydd swyddogion yn Llywodraeth Cymru yn cysylltu â'r Arolygiaeth Gynllunio i gychwyn trefniadau ar gyfer gwrandawiad neu ymchwiliad (ewch i wefan Arolygiaeth Gynllunio Cymru). Bydd hyn yn digwydd hyd yn oed os na wneir unrhyw wrthwynebiadau yn erbyn eich cais.
Os oes angen gwrandawiad neu ymchwiliad, fe gewch chi lythyr a fydd yn nodi'r canlynol:
- y broses, os oes gwrandawiad
- y dogfennau y bydd angen i chi eu darparu ar gyfer y gwrandawiad
Gall Gweinidogion Cymru gynnal gwrandawiad neu ymchwiliad p'un a oes gwrthwynebiadau i'ch cais ai peidio.
Datrys gwrthwynebiadau
Bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn anfon copi atoch o bob gwrthwynebiad a fyddant yn ei dderbyn. Mae'n bosib y byddwch yn ceisio datrys problemau wedyn gyda'r gwrthwynebwyr i ddod i gytundeb ac osgoi gwrandawiad neu ymchwiliad.
Gallwch osgoi hyn a chyflymu'r broses trwy drafod materion posibl a dod i gytundeb â gwrthwynebwyr wrth ysgrifennu'ch cynllun sychder.
Dylech ddweud wrth swyddogion Llywodraeth Cymru ar unwaith os tynnir gwrthwynebiad yn ôl.
Pan fydd angen gwrandawiad neu ymchwiliad
Unwaith y bydd Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod angen gwrandawiad neu ymchwiliad, bydd yn cael ei gynnal oni bai fod y canlynol yn digwydd:
- rydych chi'n tynnu'ch cais yn ôl
- mae'r holl wrthwynebwyr yn tynnu eu gwrthwynebiadau yn ôl
- mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu peidio â'i gynnal
Gall Gweinidogion Cymru benderfynu peidio â chynnal gwrandawiad neu ymchwiliad yn yr amgylchiadau canlynol:
- os gellir delio â'r gwrthwynebiad â digollediad yn lle
- os yw’r gwrthwynebiad eisoes wedi'i wneud yn erbyn gorchymyn sychder y mae'r cais cyfredol yn ceisio ei ymestyn
Sicrhau gorchymyn sychder ar frys
Os oes angen brys am orchymyn sychder, gall Gweinidogion Cymru benderfynu na ddylai gwrandawiad neu ymchwiliad fynd yn ei flaen. I wneud cais am hyn, dylech gyflwyno achos ategol llawn, gan esbonio pam mae'r angen ar frys. Dim ond mewn achosion eithafol y bydd gwrandawiad neu ymchwiliad yn cael ei hepgor er budd cyhoeddus tra phwysig.
Trefnu gwrandawiad neu ymchwiliad
Os aiff y gwrandawiad neu'r ymchwiliad yn ei flaen, gofynnir ichi drefnu lleoliad ar ei gyfer. Dylai hwn fod yn un o'r canlynol:
- neuadd addas
- ystafell mewn gwesty
- un o'ch swyddfeydd eich hun
Rhowch wybod i swyddogion unwaith y bydd lleoliad wedi'i gadarnhau. Byddant yn dweud wrth unrhyw bobl neu sefydliadau sydd â diddordeb am y dyddiad, yr amser a'r lleoliad.
Anfon datganiad o ffaith
Dylech gytuno ar sail ffeithiol eich achos gydag unrhyw wrthwynebwyr cyn gwrandawiad neu ymchwiliad. Nodwch y sail ffeithiol mewn dogfen (gelwir hyn yn ‘ddatganiad o ffaith’) a’i anfon at y sawl sy’n arwain y gwrandawiad neu’r ymchwiliad. Bydd hyn yn helpu i atal anghydfodau yn ystod y gwrandawiad neu'r ymchwiliad ar faterion ffeithiol (megis data glawiad).
Dylech hefyd ddweud wrth y sawl sy'n arwain y gwrandawiad neu'r ymchwiliad am unrhyw beth a ddigwyddodd ar ôl i chi anfon eich cais y mae angen ei ystyried (megis newid tywydd neu newidiadau mewn glawiad).
Beth sy'n digwydd yn y gwrandawiad neu'r ymchwiliad
Bydd y sawl sy'n arwain y gwrandawiad neu'r ymchwiliad yn penderfynu ar ei strwythur. Fodd bynnag, mae'r weithdrefn fel arfer fel a ganlyn:
- gofynnir i chi siarad yn gyntaf
- yna gofynnir i wrthwynebwyr siarad – gallant roi tystiolaeth neu ofyn cwestiynau (fel rheol bydd cwestiynau'n cael eu sianelu trwy'r sawl sy'n arwain y gwrandawiad neu'r ymchwiliad, a all hefyd ofyn ei gwestiynau ei hun)
- byddwch chi'n cael cyfle i wneud sylwadau clo
Gall y sawl sy'n arwain y gwrandawiad neu'r ymchwiliad ymweld â'r safle yn anffurfiol ymlaen llaw i ddarganfod mwy am yr ardal yr effeithir arni.
Ar ôl y gwrandawiad neu'r ymchwiliad
Ar ôl y gwrandawiad neu'r ymchwiliad, bydd y sawl a’i harweiniodd yn cyflwyno adroddiad i Weinidogion Cymru.
Bydd yr adroddiad yn nodi'r canlynol:
- pwy oedd yn gwrthwynebu yn y gwrandawiad neu'r ymchwiliad, a'r hyn a ddywedon nhw
- eich ymateb i bob gwrthwynebiad, gan gynnwys atebion i unrhyw gwestiynau
- penderfyniad yr unigolyn a gynhaliodd y gwrandawiad neu'r ymchwiliad, gan gynnwys canfyddiadau, addasiadau a awgrymwyd, a chasgliadau
Yna bydd Gweinidogion Cymru yn gwneud penderfyniad am y gorchymyn sychder.
Ar ôl i chi dderbyn eich gorchymyn sychder
Hysbysebu cais llwyddiannus
Rhaid i chi hysbysebu cais llwyddiannus yn y canlynol:
- The London Gazette
- yr un papur newydd lleol lle gwnaethoch hysbysebu'ch cais
Gellir cysylltu â The London Gazette yn y cyfeiriad canlynol:
London Gazette
PO Box 3584
Norwich
NR7 7WD
Ffôn: 020 200 2434
E-bost: London@thegazette.co.uk
Rhaid i'ch hysbyseb nodi ble y gellir archwilio'r gorchymyn (dylai'r rhain fod yr un lleoedd lle gwnaethoch chi sicrhau bod eich cais ar gael i'w archwilio).
Talu digollediad
Fel yr ymgeisydd, rydych yn atebol i dalu digollediad am unrhyw golled neu ddifrod a achosir gan orchymyn sychder. Gall unrhyw un o'r canlynol hawlio digollediad:
- perchnogion y ffynhonnell ddŵr sy'n gysylltiedig â'r gorchymyn sychder
- unrhyw un sydd â buddiant yn y ffynhonnell
Rhaid i unrhyw un sy'n gwneud cais am ddigollediad anfon ei gais atoch cyn pen chwe mis ar ôl i'r gorchymyn ddod i ben.
Dylech gyfeirio unrhyw anghydfodau ynghylch digollediad i'r Uwch Dribiwnlys (Siambr Tiroedd – i gael mwy o wybodaeth, ewch i wefan yr Uwch Dribiwnlys).
Nid oes gan eich cwsmeriaid hawl gyfreithiol i gael digollediad oherwydd colled neu ddifrod a achosir gan orchymyn sychder. Fodd bynnag, gallwch wneud taliadau iddynt o dan yr amgylchiadau a nodir yn eich offeryn penodi fel ymgymerwr dŵr (edrychwch ar yr offerynnau penodi ar wefan Ofwat).
Talu costau yn ôl
Gall Cyfoeth Naturiol Cymru godi tâl arnoch am ddelio â'ch cais am orchymyn sychder. Gweler y wybodaeth ar ad-dalu costau wrth ymgeisio am drwydded sychder.
Ymestyn eich gorchymyn sychder
Gallwch wneud cais i ymestyn eich gorchymyn sychder am hyd at chwe mis. Cysylltwch â Gweinidogion Cymru o leiaf 28 diwrnod cyn i'r gorchymyn presennol ddod i ben os ydych chi'n dymuno gwneud hyn. Dylech gynnwys yr holl ddeunyddiau ategol gyda'ch cais, gan gynnwys unrhyw dystiolaeth newydd berthnasol.
Unwaith y derbynnir eich cais, byddwch fel arfer yn cael penderfyniad o fewn:
- saith diwrnod calendr os nad oes gwrthwynebiadau i'ch cais
- 28 diwrnod calendr os cynhelir gwrandawiad neu ymchwiliad
Gall Gweinidogion Cymru ddiystyru unrhyw wrthwynebiadau sy'n berthnasol i'r gorchymyn sychder gwreiddiol yn unig ac nid yr estyniad.
Canslo eich gorchymyn sychder
Gallwch ganslo'ch gorchymyn sychder ar unrhyw adeg, gan gynnwys dileu unrhyw waharddiadau neu gyfyngiadau.
Troseddau
Rhaid i chi beidio â chymryd, defnyddio na gollwng dŵr oni bai fod gennych awdurdod i wneud hynny. Mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:
- adeiladu neu gynnal a chadw unrhyw gyfarpar ar gyfer mesur llif dŵr sy'n ofynnol gan orchymyn sychder
- caniatáu i bobl awdurdodedig archwilio'r system ddŵr neu archwilio neu gymryd copïau o gofnodion sy'n gysylltiedig â hi
Gallech gael dirwy os na allwch ddangos eich bod wedi cymryd pob rhagofal rhesymol a gwneud popeth o fewn eich gallu i osgoi cyflawni'r troseddau hyn.
Mae hefyd yn drosedd gwneud datganiadau ffug yn fwriadol neu'n ddi-hid i gael gorchymyn sychder.
Gwneud cais am orchymyn sychder brys
Cyn gwneud cais am orchymyn sychder brys, dylech geisio gwneud y canlynol:
- gwarchod a gwella adnoddau dŵr
- gwneud popeth o fewn eich gallu i leihau'r galw am ddŵr
- rhoi cyhoeddusrwydd i'ch penderfyniad i ddefnyddio gorchymyn sychder brys
- gwneud cymaint o ddefnydd â phosibl o orchmynion sychder cyffredin a thrwyddedau sychder
Bydd Gweinidogion Cymru yn gofyn ichi am dystiolaeth i brofi eich bod wedi cymryd y camau hyn. Os nad oedd gennych yr amser i'w cymryd, rhaid i chi allu profi hyn.
Anfon eich cais
Rhaid i chi anfon yr un eitemau yn eich ceisiadau ag y byddech chi ar gyfer gorchymyn sychder cyffredin, ynghyd â'r canlynol:
- dadansoddiad o'r defnydd dŵr dyddiol ar gyfartaledd wedi'i ddadansoddi yn ôl math a defnyddiwr
- manylion y bygythiad i les economaidd a chymdeithasol yn yr ardal (megis ar gyfer pobl oedrannus ac anabl, ysbytai a gwasanaethau iechyd, amaethyddiaeth a chynhyrchu bwyd)
- esboniad o pam nad yw gorchymyn sychder cyffredin yn addas – mae hyn ond yn berthnasol i orchmynion sychder brys ar gyfer gwahardd neu gyfyngu ar ddefnyddio dŵr
- manylion unrhyw orchymyn sychder sydd eisoes mewn grym sy'n effeithio ar yr ardal – dywedwch a ydych am ei ddirymu neu ei addasu
- drafft o'r gorchymyn sychder brys mewn fformat sy'n gydnaws â Microsoft Word
Os ydych chi'n gwneud cais am orchymyn sychder brys i gyflenwi dŵr trwy safbibellau neu danciau dŵr, rhowch fanylion am y canlynol:
- beth fyddwch chi'n ei wneud gyda'r gorchymyn brys, gan gynnwys nifer y bobl y bydd pob safbibell neu danc dŵr yn eu gwasanaethu
- y gweithlu sydd ei angen i gyflawni'r gwaith a rhedeg y safbibellau neu'r tanc dŵr
- sut y byddwch chi'n cyflenwi dŵr i ddefnyddwyr nad ydynt yn ddomestig