Datganiad rheoleiddio 051.3 Storio a rheoli gwastraff wedi'i gloddio wrth osod ac atgyweirio cyfleustodau
Mae'r Datganiad Rheoleiddio (DRh) hwn yn ddilys tan 31 Mawrth 2027 a bydd wedi cael ei adolygu erbyn hynny. Dylech wirio eto bryd hynny i sicrhau bod y DRh yn dal i fod yn ddilys.
Gall CNC dynnu'r DRh hwn yn ôl neu ei ddiwygio cyn y dyddiad adolygu os byddwn o’r farn bod angen gwneud hynny. Mae hyn yn cynnwys lle nad yw'r gweithgareddau y mae'r DRh hwn yn ymwneud â nhw wedi newid.
Datganiad rheoleiddio
Mae’r DRh hwn yn berthnasol i weithredwyr sy’n delio â gwastraff a gloddiwyd wrth gyflawni gwaith gosod a thrwsio cyfleustodau nas cynlluniwyd. Mae’n caniatáu i chi dderbyn a storio’r fersiynau drych-beryglus o’r gwastraffau a restrir yn y DRh hwn lle mae eich trwydded ond yn caniatáu’r drych-godau ar gyfer gwastraff nad yw'n beryglus.
Gallwch hefyd drin y gwastraffau a restrir yn y datganiad rheoleiddio hwn os ydynt wedi’u hasesu fel rhai nad ydynt yn beryglus o dan DRh117.2 Dosbarthu gwastraff a gloddiwyd wrth osod ac atgyweirio cyfleustodau. Dylech ddarllen y DRh hwnnw i ddeall sut mae'r gwastraff y mae'n ei gwmpasu’n cael ei ddosbarthu.
Os ydych yn trin gwastraff, rhaid i chi brofi unrhyw ddeunyddiau a gynhyrchir o’r driniaeth honno am briodweddau peryglus yn unol â WM3.
Os na fedrwch ddilyn yr amodau yn y DRh hwn, rhaid i chi ddilyn y canllawiau technegol ar gyfer dosbarthu gwastraff er mwyn asesu a dosbarthu’r holl wastraff a gloddiwyd.
Nid yw'r DRh hwn yn berthnasol i unrhyw weithgaredd arall, hyd yn oed os yw’n dod o dan yr un ddeddfwriaeth. Efallai y bydd angen trwyddedau neu ganiatadau eraill arnoch o hyd ar gyfer gweithgareddau eraill yr ydych yn eu cyflawni.
Rydym yn ymwybodol bod y corff masnach Street Works UK wedi datblygu methodoleg ar gyfer asesu gwastraff sy’n deillio o gyfleustodau. Ar hyn o bryd rydym yn ystyried ein dull o weithredu ar gyfer y fethodoleg hon a bydd yr DRh hwn yn cael ei ddiweddaru maes o law.
Amodau y mae'n rhaid i chi gydymffurfio â nhw
Mae’r DRh hwn yn cwmpasu gwastraff wedi’i gloddio a gynhyrchir gan (neu ar ran) cwmnïau cyfleustodau sy’n aelodau o Street Works UK ac sy’n deillio o waith gosod ac atgyweirio cyfleustodau nas cynlluniwyd.
Mae’n rhaid i chi weithredu safle gwastraff a ganiateir sy’n gallu derbyn y codau gwastraff hyn (ac eithrio pan mai chi yw’r cynhyrchydd sy’n storio’r gwastraff ar safle a reolir gennych chi, sydd wedi’i gwmpasu gan esemptiad y Gyfarwyddeb Fframwaith Deunydd nad yw’n Wastraff):
- 17 01 01 concrit
- 17 01 02 brics
- 17 01 03 teils a deunyddiau ceramig
- 17 01 06* ac 17 01 07 cymysgeddau o goncrit, brics, teils a deunyddiau ceramig
- 17 03 01* ac 17 03 02 cymysgeddau bitwminaidd
- 17 05 03* ac 17 05 04 pridd a cherrig
- 17 09 03* ac 17 09 04 gwastraff adeiladu a dymchwel cymysg
Sylwer: mae seren (*) wrth ymyl y cod yn golygu ei fod yn wastraff peryglus. Dim ond ar gyfer gwastraff dros 15m3 sy’n cael ei ystyried yn wastraff peryglus y dylid defnyddio codau gwastraff peryglus.
Mae’n rhaid i chi:
- diweddaru eich system rheoli amgylcheddol i egluro sut y byddwch yn rheoli gwastraff yr ydych yn ei dderbyn o dan y DRh hwn yn eich gweithrediad a ganiateir
- storio gwastraff a geir o dan y DRh hwn wedi’i wahanu yn ôl cod gwastraff (er enghraifft, storio 17 03 02 gwastraff bitwminaidd ar wahân i 17 09 04 is-sylfaen)
- storio gwastraff a geir o dan y DRh hwn ar wahân i wastraff arall (nad yw’n waith stryd) a gewch
- storio gwastraff sydd wedi’i ddosbarthu fel gwastraff peryglus o dan DRh117.1 wedi’i wahanu yn ôl gwaith gwahanol (gan ddefnyddio cyfeirnod trwydded y gwaith neu rif archeb y gwaith i nodi gwaith gwahanol) nes iddo gael ei brofi yn unol â Chyfarwyddyd technegol WM3
- cadw cofnodion (gan gynnwys dogfennau trosglwyddo a chanlyniadau samplu) am ddwy flynedd (neu dair blynedd ar gyfer gwastraff peryglus) i ddangos eich bod wedi cydymffurfio â’r DRh hwn a sicrhau bod y cofnodion hyn ar gael i Cyfoeth Naturiol Cymru ar gais
Rhaid i chi beidio â gwneud y canlynol:
- newid dosbarthiad unrhyw wastraff a gawsoch o dan y DRh hwn oni bai ei fod wedi’i samplu a’i brofi i ddangos y dylai gael ei ddosbarthu’n wahanol
- trin gwastraff sydd wedi’i ddosbarthu’n beryglus o dan DRh117.1, oni bai fod eich trwydded yn caniatáu i chi drin y gwastraff peryglus penodedig hwnnw
Rhaid i chi beidio â defnyddio gwastraff a gawsoch o dan y DRh hwn mewn unrhyw Brotocol Ansawdd neu broses diwedd gwastraff oni bai:
- ei fod wedi’i samplu a'i brofi yn unol â WM3
- y cafwyd cadarnhad nad yw’n beryglus a’i fod yn addas fel deunydd mewnbwn
Gorfodi
Nid yw'r DRh hwn yn newid eich gofyniad cyfreithiol i gydymffurfio â'ch amodau trwydded.
Fodd bynnag, ni fydd CNC fel arfer yn cymryd camau gorfodi os byddwch yn bodloni'r gofynion yn y DRh hwn.
Yn ogystal, rhaid i'ch gweithgaredd beidio ag achosi (neu fod yn debygol o achosi) llygredd i'r amgylchedd na niwed i iechyd pobl, a rhaid iddo beidio â:
- peri risg i ddŵr, aer, pridd, planhigion nac anifeiliaid
- peri niwsans drwy sŵn neu arogleuon
- cael effaith andwyol ar gefn gwlad neu leoedd o ddiddordeb arbennig