Sut i ddosbarthu ac asesu eich gwastraff

Fel rhan o'ch dyletswydd gofal gwastraff mae'n ofyniad cyfreithiol bod yn rhaid i bob gwastraff gael ei ddisgrifio'n gywir cyn iddo gael ei gasglu, ei waredu neu ei adfer.

Sut i ddosbarthu eich gwastraff

Mae’n rhaid i chi ddefnyddio'r canllawiau ar ddosbarthu ac asesu gwastraff (GOV.UK) er mwyn dosbarthu pob un o'r mathau o wastraff rydych chi'n eu cynhyrchu a neilltuo’r cod mwyaf priodol.

Rhaid i'ch gwaith papur gynnwys y rhestr gywir o godau gwastraff a'r disgrifiad ysgrifenedig. Bydd hyn yn caniatáu ichi wneud y canlynol:

  • nodi'r rheoliadau sy'n berthnasol ar gyfer symud y gwastraff
  • cwblhau'r dogfennau a'r cofnodion gwastraff angenrheidiol
  • sicrhau bod eich gwastraff yn cael ei gludo i safle sydd wedi'i awdurdodi i'w dderbyn
  • atal niwed i bobl a'r amgylchedd

Penderfynu a yw eich gwastraff yn beryglus

Bydd angen i chi benderfynu a yw'r gwastraff yn beryglus ai peidio.

Yn gyffredinol, ystyrir gwastraff yn beryglus os yw (neu os yw'r deunydd neu'r sylweddau y mae'n ei gynnwys) yn niweidiol i bobl neu'r amgylchedd. Dyma enghreifftiau o wastraff peryglus:

  • asbestos
  • cemegau, fel hylif brêc neu arlliw argraffu
  • batris
  • toddyddion
  • plaladdwyr
  • olewau (ac eithrio rhai bwytadwy), fel olew car
  • offer sy'n cynnwys sylweddau sy'n disbyddu osôn, fel oergelloedd
  • cynwysyddion gwastraff peryglus

Mae rhai mathau o wastraff peryglus llai amlwg yn cynnwys:

  • rhywfaint o offer trydanol ac electronig gwastraff
  • tecstilau wedi'u trin â chemegau gwrth-dân
  • priddoedd halogedig

Gwiriadau y gallwch eu gwneud i benderfynu a yw'r gwastraff yn beryglus

Gallwch wneud y canlynol:

  • gwirio’r daflen ddata diogelwch cynnyrch
  • darganfod o beth mae wedi cael ei wneud (gellir gwneud rhywfaint o offer electronig a thrydanol gwastraff gyda llygryddion organig parhaus (POPs))
  • ystyried a yw wedi'i drin â chemegau peryglus
  • chwilio am unrhyw symbolau neu farciau ar y cynnyrch ei hun neu unrhyw labeli neu gyfarwyddiadau a allai ddweud wrthych fod yr eitem yn beryglus
  • trefnu ei fod yn cael ei ddadansoddi 
  • darganfod sut y gallai unrhyw brosesau cynhyrchu fod wedi effeithio arno

Os nad ydych yn siŵr a yw'r gwastraff yn beryglus

Os nad ydych yn siŵr a yw eich gwastraff yn beryglus - ar ôl gwirio a darllen y canllawiau dosbarthu - rhaid i chi ddefnyddio’r egwyddor ragofalus a'i drin fel gwastraff peryglus. 

Darllenwch fwy am yr hyn y dylech ei wneud fel cynhyrchydd gwastraff peryglus

Os ydych wedi penderfynu nad yw eich gwastraff yn beryglus, darllenwch y ddyletswydd gofal gwastraff.

Diweddarwyd ddiwethaf