Penderfyniad rheoleiddio 059: Gwaredu coed a phlanhigion y mae afiechyd neu blâu yn effeithio arnynt
Mae'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ddilys tan 1 Mehefin 2025, a bydd wedi cael ei adolygu erbyn hynny. Dylech wirio gyda ni bryd hynny i sicrhau bod y penderfyniad rheoleiddiol yn dal i fod yn ddilys.
Gall CNC dynnu’r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ôl neu ei ddiwygio cyn y dyddiad adolygu os ydym o’r farn bod hynny’n angenrheidiol. Mae hyn yn cynnwys pan nad yw'r gweithgareddau y mae'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn ymwneud â hwy wedi newid.
Penderfyniad rheoleiddiol
Os ydych yn cydymffurfio â’r amodau yn y penderfyniad rheoleiddiol hwn, cewch wneud y canlynol:
- llosgi yn yr awyr agored goed a phlanhigion y mae afiechyd neu blâu yn effeithio arnynt, o dan Hysbysiad Iechyd Planhigion
- mynd y tu hwnt i’r terfynau llosgi a storio yn yr esemptiad gwastraff: D7 llosgi gwastraff yn yr awyr agored (Saesneg yn unig)
Os na fedrwch gydymffurfio â'r amodau yn y penderfyniad rheoleiddiol hwn, mae angen i chi wneud cais am drwydded amgylcheddol.
Yr amodau y mae’n rhaid i chi gydymffurfio â nhw
Rhaid i chi fodloni'r amodau hyn i gydymffurfio â'r penderfyniad rheoleiddiol hwn.
Rhaid i chi wneud y canlynol:
- feddu ar hysbysiad iechyd planhigion a chydymffurfio ag ef, sy’n ei gwneud yn ofynnol i chi ddileu clefydau a phlâu – rhaid i chi gydymffurfio â’r gofynion yn yr hysbysiad hwnnw
- cofrestru esemptiad gwastraff D7 i losgi meinwe planhigion a gwastraff pren heb ei drin yn yr awyr agored
Rhaid i chi gydymffurfio â’r holl amodau yn esemptiad gwastraff D7 ac eithrio, er mwyn cydymffurfio â’r hysbysiad iechyd planhigion, cewch wneud y canlynol:
- llosgi mwy na 10 tunnell o wastraff mewn unrhyw gyfnod o 24 awr
- storio mwy nag 20 tunnell o wastraff ar unrhyw adeg
Gorfodi
Nid yw'r penderfyniad rheoleiddiol hwn yn newid y gofyniad cyfreithiol i chi gael trwydded amgylcheddol ar gyfer gweithrediad gwastraff pan ydych yn gwaredu coed a phlanhigion y mae afiechyd neu blâu yn effeithio arnynt.
Fodd bynnag, ni fydd CNC fel arfer yn cymryd camau gorfodi os nad ydych yn cydymffurfio â’r angen i gael trwydded amgylcheddol os ydych yn bodloni’r gofynion yn y penderfyniad rheoleiddiol hwn.
Yn ogystal, ni chaiiff eich gweithgaredd achosi (na bod yn debygol o achosi) llygredd i’r amgylchedd na niweidio iechyd pobl, ac ni chaniateir iddo:
- beri risg i ddŵr, aer, pridd, planhigion nac anifeiliaid
- peri niwsans drwy sŵn neu arogleuon
- cael effaith andwyol ar gefn gwlad neu leoedd o ddiddordeb arbennig