Mae Llywodraeth Cymru yn newid esemptiadau gwastraff.

Byddwn yn ysgrifennu at bob deiliad esemptiad pan fydd Llywodraeth Cymru yn cadarnhau'r dyddiad.

Gallwch gofrestru ar gyfer unrhyw esemptiad sydd ei angen arnoch ar hyn o bryd ond, cyn i chi gofrestru, rhaid i chi wirio sut mae'r newidiadau'n effeithio arnoch chi.

1. Bydd esemptiadau'n cael eu dileu

Bydd yr esemptiadau hyn yn cael eu dileu i bob deiliad dri mis ar ôl i’r ddeddfwriaeth ddod i rym:

  • T9 - Adfer metel sgrap
  • T8 - Trin teiars diwedd oes yn fecanyddol
  • U16 - Defnyddio cerbydau diwedd oes dadlygredig ar gyfer cydrannau

Os ydych am barhau i gynnal y gweithgareddau hyn, bydd angen i chi wneud cais am drwydded wastraff cyn i'r esemptiadau gael eu dileu.

2. Bydd amodau esemptiad yn newid

Bydd yr esemptiadau hyn yn newid, ond ar adegau gwahanol.

6 mis ar ôl i’r ddeddfwriaeth ddod i rym:

  • T4 - triniaethau paratoadol, megis bwndelu, didoli a rhwygo
  • T6 - trin deunydd pren gwastraff a planhigion gwastraff
  • T12 - trin gwastraff â llaw
  • D7 - Llosgi gwastraff yn yr awyr agored.

12 mis ar ôl i’r ddeddfwriaeth ddod i rym:

  • U1 - Defnyddio gwastraff i adeiladu.
  • S1 - storio mewn cynwysyddion diogel
  • S2 - storio mewn man diogel
  • Cynyddu terfynau storio yn esemptiadau'r Gyfarwyddeb Fframwaith Deunydd nad yw’n Wastraff

Darganfyddwch pa amodau fydd yn newid.

Os na allwch fodloni'r amodau newydd ond yr hoffech barhau i gynnal y gweithgareddau hyn, bydd angen i chi wneud cais am drwydded cyn i amodau’r esemptiad newid.

3. Ni chaniateir trwydded wastraff ac esemptiadau gwastraff ar yr un safle

Chwe mis ar ôl i’r ddeddfwriaeth ddod i rym, ni allwch gael esemptiad gwastraff a thrwydded wastraff ar gyfer yr un safle, neu ar gyfer safleoedd sydd â chysylltiad uniongyrchol wrth ei ymyl.

Mae gan safleoedd sydd â chysylltiadau uniongyrchol yr un gweithredwr neu maen nhw’n defnyddio'r un staff, offer neu seilwaith.

Os ydych yn dymuno parhau i gynnal eich gweithgareddau gwastraff eithriedig, bydd yn rhaid i chi wneud cais i newid eich trwydded cyn i'r chwe mis ddod i ben.

4. Bydd terfynau storio gwastraff yn newid

Os oes gennych fwy nag un esemptiad ar safle, dim ond y swm lleiaf o wastraff y caniateir ichi ei storio o dan unrhyw un o'r amodau.

Mae hyn yn golygu os oes gennych un esemptiad sy'n caniatáu 10 tunnell o wastraff, ac esemptiad arall sy'n caniatáu 20 tunnell o'r un gwastraff, dim ond 10 tunnell y gallwch ei storio.

Bydd y newid yn digwydd chwe mis ar ôl i'r ddeddfwriaeth ddod i rym.

5. Rhaid i chi gadw cofnodion

Pan ddaw’r ddeddfwriaeth i rym, rhaid ichi gadw cofnodion.

Rhaid i'ch cofnodion ddangos eich bod yn cydymffurfio â'r esemptiad.

6. Cael cyngor ar drwyddedau

Os credwch y bydd angen i chi wneud cais am drwydded, rydym yn argymell eich bod yn cael cyngor cyn i chi wneud cais.

7. Parhau i gofrestru eich esemptiadau gwastraff

Cofiwch: nid oes angen i chi gofrestru esemptiadau ar gyfer storio eich gwastraff eich hun lle cafodd ei gynhyrchu. Fel arfer, ymdrinnir â'r gweithgareddau hyn gan esemptiadau’r gyfarwyddeb fframwaith deunydd nad yw'n wastraff.

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf