Gwneud cais am drwydded gwastraff rheolau safonol newydd
BETA: Mae hwn yn wasanaeth newydd — rhowch adborth i'n helpu i'w wella
Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i wneud cais am drwydded rheolau safonol gwastraff newydd.
Cyn i chi ddechrau
Mae angen i chi wybod:
- manylion y gweithredwr a’r tirfeddiannydd
- manylion y safle
- unrhyw gyfeirnod cyn ymgeisio
- y rheol neu reolau safonol o ran gwastraff yr ydych yn gwneud cais amdani/amdanynt
- gallu technegol y gweithredwr
- manylion systemau rheoli
- a yw troseddau yn effeithio ar bobl berthnasol
- a yw ansolfedd neu fethdaliad yn effeithio ar bobl berthnasol
- ynghylch hawlio cyfrinachedd a diogelwch gwladol
- pa ddatganiadau i’w gwneud
- costau trwyddedau gwastraff
- sut i dalu
Dogfennau i'w uwchlwytho
- Tystiolaeth bod gan y gweithredwr allu technegol, neu ei fod yn gweithio tuag at gymhwyster perthnasol
- Oni bai eich bod yn gwneud cais am drwydded i weithredu offer symudol, bydd angen cynllun safle arnom sydd:
- yn cynnwys ffin y safle wedi ei farcio mewn gwyrdd
- yn nodi'r rhan o'r safle rydych am wneud eich gwaith neu weithrediadau gwastraff ynddi
- yn cynnwys nodweddion lleol i'n helpu i osod y safle yn ei amgylchedd lleol
- wedi'i luniadu i raddfa ddiffiniedig
- yn cynnwys dyddiad
- I wneud cais i ddodi gwastraff ar dir i'w adfer, bydd angen i chi ddarparu cynllun adfer gwastraff. Rydym yn argymell eich bod yn anfon eich cynllun atom cyn i chi ddechrau'r cais hwn.
- Os ydych am hawlio cyfrinachedd neu ddiogelwch gwladol, bydd angen i chi gyflwyno tystiolaeth.
Graddfeydd amser
Byddwn yn gwneud penderfyniad cyn pen tri mis o dderbyn cais cyflawn a'r ffi gywir.
Byddwn yn gwirio eich cais ac yn cadarnhau a yw’n gyflawn ac, os bydd yn gyflawn, fe’i nodir fel hyn: ‘wedi’i wneud yn briodol’. Os na fydd yn gyflawn, efallai y byddwn yn gofyn am ragor o wybodaeth gennych. Nid yw’r amserlen benderfynu o dri mis yn dechrau nes byddwn wedi ystyried bod y cais ‘wedi’i wneud yn briodol’.
Diweddarwyd ddiwethaf