Trwyddedu rhywogaethau: Pobl a enwir ar drwydded
Prif drwyddedai
Fel arfer, perchennog neu feddiannwr yr eiddo neu'r tir neu rywun y mae arno angen cynnal gweithgarwch trwyddedig.
Ecolegydd enwebedig trwyddedig
Yr unigolyn a enwir ar y drwydded i ddarparu arbenigedd ecolegol. Caiff ei enwi ar y drwydded a’i awdurdodi gan ddeiliad y drwydded i gyflawni gwaith sy'n gysylltiedig â'r rhywogaethau sydd wedi'u cynnwys yn y drwydded.
Asiant achrededig trwyddedig
Dyma rywun sy’n cael ei awdurdodi gan y prif drwyddedai neu'r ecolegydd enwebedig trwyddedig i gynnal gweithgarwch trwyddedig o dan y drwydded. Rhaid iddo fod yn gymwys ac yn brofiadol. Gall weithio heb i'r ecolegydd fod yn bresennol.
Person awdurdodedig trwyddedig
Dyma rywun sy’n cael ei awdurdodi gan y prif drwyddedai i gynnal gweithgarwch trwyddedig ar drwyddedau rheoli adar.
Cynorthwywyr trwyddedig
Nid yw cynorthwywyr trwyddedig yn cael eu henwi ar y drwydded. Gallant gynnal gweithgarwch trwyddedig dan oruchwyliaeth unrhyw un a enwir ar y drwydded.