Trwyddedu Morloi
Gwybodaeth am y coronafirws
Ni ddylid gwneud unrhyw waith arolygu a gynlluniwyd gennych fel rhan o gais am drwydded rhywogaeth oni bai fod hynny'n gwbl angenrheidiol yn dilyn y canllawiau diweddaraf a gafwyd gan y llywodraeth ar gyfer ymbellhau cymdeithasol.
- Os na allwch weithio o’ch cartref dylech ddarllen y canllawiau diweddaraf a ddarparwyd gan fusnesau amgylcheddol megis Ymddiriedolaeth Adara Prydain (BTO), RSPB neu Sefydliad Siartredig Ecoleg a Rheolaeth Amgylcheddol (CIEEM).
- Gan na fydd efallai’n bosibl diweddaru eich arolygon y tymor hwn, eleni byddwn yn ymestyn hyn ac yn derbyn arolygon o'r tair blynedd diwethaf.
- Dylech gwblhau eich arolwg cyn gynted ag y cewch gyfle a phan fo’n briodol unwaith y bydd y cyfyngiadau wedi eu codi.
Os oes gennych gwestiynau pellach gallwch gysylltu â’n tîm rhywogaethau drwy e-bost trwyddedrhywogaeth@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.
Er mwyn cael rhagor o wybodaeth gweler ein prif dudalen ar y coronafirws.
Mae dwy rywogaeth o forlo yn y DU, y morlo llwyd a’r morlo cyffredin – mae’r morlo llwyd yn llawer mwy cyffredin yng Nghymru.
Mae Deddf Gwarchod Morloi 1970 yn gwahardd y dulliau canlynol o ladd neu gymryd morloi:
- Defnyddio unrhyw sylwedd gwenwynig
- Defnyddio unrhyw ddrylliau heblaw reiffl gyda bwledi penodol
Mae yna dymor caeedig ar gyfer morloi llwyd rhwng 1 Medi a 31 Rhagfyr, ac i forloi cyffredin rhwng 1 Mehefin a 31 Awst.
- Mae cymryd neu ladd yn ystod tymor caeedig yn drosedd
Mae yna rai eithriadau o dan y ddeddfwriaeth hon, nad ydyn nhw’n cael eu hystyried yn droseddau ac nad oes angen trwydded ar eu cyfer:
- Cymryd / ceisio cymryd morlo sydd wedi anafu at ddibenion gofalu amdano a’i ryddhau
- Lladd / anafu anochel o ganlyniad i waith anghyfreithlon
- Lladd / ceisio lladd morlo fel na fyddai’n achosi difrod i rwyd / offer pysgota, neu i bysgod mewn rhwyd, os yw’r morlo ger y rhwyd / offer
Trwyddedau
O dan bwerau a roddwyd iddo gan yr Ysgrifennydd Gwladol, gall Cyfoeth Naturiol Cymru roi trwyddedau ar gyfer y dibenion canlynol (Adran 10(1)):
- Dibenion gwyddonol neu addysgol (lladd neu gymryd, ac eithrio defnyddio strycnin)
- Gerddi / casgliadau sŵolegol (cymryd)
- Atal difrod i bysgodfeydd (lladd neu gymryd)
- Lleihau poblogaeth dros ben at ddibenion rheoli (lladd neu gymryd)
- Defnyddio poblogaeth dros ben fel adnodd (lladd neu gymryd)
- Gwarchod planhigion ac anifeiliaid mewn ardaloedd a nodwyd yn isadran (4)
Ni fydd trwyddedau i atal difrod yn cael eu rhoi oni bai bod y tri phwynt canlynol yn berthnasol:
- Mae’r morloi’n achosi, neu’n debygol o achosi, digon o ddifrod difrifol i gyfiawnhau trwydded
- Mae dulliau rheoli eraill wedi bod yn aneffeithiol neu’n anymarferol
- Mae’r gweithgarwch a drwyddedir yn debygol o lwyddo i ddatrys y broblem
Pan fo cais am drwydded yn cynnig defnyddio dulliau sydd wedi’u gwahardd o dan Reoliad 45(3) Rheoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017, byddwn yn ystyried y cais o dan y Rheoliadau hynny.