Rheoli rhywogaethau estron goresgynnol

Os ydych yn rheoli rhywogaeth estron oresgynnol sydd wedi lledaenu’n eang, mae'n bosibl y bydd angen trwydded arnoch i gynnal rhai gweithgareddau.

Mae Gorchymyn Rhywogaethau Estron Goresgynnol (Gorfodi a Thrwyddedu) 2019 yn ei gwneud yn drosedd i wneud unrhyw rai o'r canlynol gydag anifeiliaid neu blanhigion a restrir fel rhywogaethau estron goresgynnol sy'n destun pryder arbennig o dan reoliadau'r UE:

  • mewnforio
  • cadw
  • bridio
  • cludo (ac eithrio cludo er mwyn gwaredu)
  • defnyddio neu gyfnewid
  • gosod ar y farchnad
  • tyfu, meithrin neu ganiatáu i atgenhedlu
  • rhyddhau i'r amgylchedd

Gallwch gael trwydded mesur rheoli gennym ni i gynnal rhai gweithgareddau at ddibenion gwaredu, rheoli neu gyfyngu ar boblogaeth rhywogaethau sydd wedi'u gwasgaru'n eang sy’n destun pryder arbennig.

Er enghraifft, mae'n bosibl y byddwn yn dyfarnu trwydded i awdurdodi tyfu planhigion rhestredig yn yr amgylchedd fel rhan o astudiaeth wedi'i monitro a'i rheoli sy'n ceisio penderfynu'r dulliau gorau o reoli’r rhywogaeth honno fel rhan o fesur rheoli.

Yn ogystal â hynny, mae'n bosibl y cewch drwydded am gadw a chludo rhywogaethau planhigion sydd wedi lledaenu’n eang, at ddibenion addysg gyhoeddus.

Mae canllawiau ar y ddeddfwriaeth ynghylch anifeiliaid sy’n destun pryder arbennig ar gael ar wefan Gov.uk.

Mae canllawiau ar y ddeddfwriaeth ynghylch planhigion sy’n destun pryder arbennig ar gael ar wefan Gov.uk.

Rhywogaethau sydd wedi'u lledaenu'n eang

O blith y 66 o rywogaethau a nodwyd eu bod yn destun pryder, dynodir y 14 o rywogaethau canlynol yn rhywogaethau sydd wedi'u lledaenu'n eang yng Nghymru:

Planhigion

  • Ffugalaw Nuttall (Elodea nuttallii)
  • Rhiwbob Chile (Gunnera tinctoria)
  • Efwr enfawr (Heracleum mantegazzianum)
  • Dail-ceiniog arnofiol (Hydrocotyle ranunculoides)
  • Jac y neidiwr (Impatiens glandulifera)
  • Ffugalaw crych (Lagarosiphon major)
  • Pidyn-y-gog Americanaidd (Lysichiton americanus)
  • Pluen parot (Myriophyllum aquaticum)

Anifeiliaid

  • Gwydd yr Aifft (Alopochen aegyptiacus)
  • Cranc manegog Tsieina (Eriocheir sinensis)
  • Carw mwntjac (Muntiacus reevesi)
  • Cimwch afon arwyddol (Pacifastacus leniusculus)
  • Gwiwer lwyd (Sciurus carolinensis)
  • Holl isrywogaethau (Trachemys scripta) math o derapin

 Mae’r rhestr o rywogaethau o anifeiliaid a phlanhigion sy’n destun pryder arbennig ar gael ar wefan Gov.uk.

Mesurau rheoli cyffredinol

Ni fydd angen trwydded ar gyfer mesurau rheoli cyffredinol sy'n cynnwys gwaredu rhywogaethau sydd wedi'u lledaenu'n eang oni fydd y gwaith gwaredu'n cynnwys gweithgareddau cyfyngedig megis cadw neu dyfu ac ati. Er enghraifft, ni fyddai angen trwydded i grwpiau ac unigolion waredu jac y neidiwr mewn dalgylch neu ar raddfa leol.

Pan fydd y gwaith gwaredu'n cynnwys cludo rhywogaeth restredig sydd wedi lledaenu’n eang, ni fydd angen trwydded ar gyfer ei chludo os caiff ei chludo at ddibenion gwaredu.

Byddai disgwyl i unigolion neu grwpiau gynnal unrhyw gamau gwaredu mewn modd bioddiogel a chyfrifol gan ddilyn arfer gorau. 

Mae canllawiau ar y ddeddfwriaeth ynghylch anifeiliaid sy’n destun pryder arbennig ar gael ar wefan Gov.uk.

Mae canllawiau ar y ddeddfwriaeth ynghylch planhigion sy’n destun pryder arbennig ar gael ar wefan Gov.uk.

Trwyddedau ar gyfer cimwch afon arwyddol

Rhaid cael awdurdodiad trapio gan CNC ar gyfer cimychiaid afon arwyddol cyn y gellir rhoi trwydded mesur rheoli. Rhoddir awdurdodau dim ond at ddibenion cadwraeth, gwyddonol neu reoli pysgodfeydd. 

Ewch i dudalen we CNC ynghylch Pysgota â Rhwydi a Thrapiau i ganfod sut i wneud cais am awdurdodiad trapio ar gyfer cimychiaid afon arwyddol.

Rhyddhau

Ni ddyfernir unrhyw drwyddedau sy'n caniatáu rhyddhau anifeiliaid rhestredig a gedwir at ddibenion adfer. Rhaid cymryd pob rhagofal er mwyn cadw'r anifeiliaid yn ddiogel a'u hatal rhag bridio neu ddianc i'r gwyllt. Byddwn ond yn ystyried ceisiadau newydd i ryddhau rhywogaethau rhestredig mewn amgylchiadau eithriadol. 

Gwneud cais am drwydded

Os ydych yn meddwl bod angen trwydded arnoch i reoli rhywogaeth sy'n destun pryder arbennig, lawrlwythwch a chwblhewch y ffurflen gais am drwydded mesur rheoli.

Rhaid i ddatganiad dull manwl fod ynghlwm â’r cais. Lawrlwythwch dempled o ddatganiad dull.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â thrwyddedau ar gyfer rhywogaethau rhestredig, cysylltwch â ni ar trwyddedrhywogaeth@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

neu ffoniwch 0300 065 3000.

Dychwelwch y ffurflenni wedi'u llenwi trwy e-bost neu i:

Trwyddedu Rhywogaethau

Cyfoeth Naturiol Cymru

Maes y Ffynnon
Penrhosgarnedd
Bangor
Gwynedd
LL57 2DW

Diweddarwyd ddiwethaf