Gwnewch gais am drwydded i weithgareddau sy’n ymwneud â dileu’n gyflym rywogaethau estron goresgynnol sydd newydd gyrraedd

Trwydded ar gyfer gweithgareddau sy’n ymwneud â gwaredu'n gyflym rywogaethau sydd newydd gyrraedd sy’n destun pryder arbennig

Mae Gorchymyn Rhywogaethau Estron Goresgynnol (Gorfodi a Thrwyddedu) 2019 yn nodi rheolau i atal a lleihau effaith cyflwyno a lledaenu anifeiliaid a phlanhigion anfrodorol yng Nghymru a Lloegr.

Mae'r Gorchymyn yn ymwneud â 66 o rywogaethau o bryder arbennig, y mae eu heffaith andwyol yn gofyn am gamau gweithredu cydlynol ar lefel Ewropeaidd.

Mae'n rhaid i’r gwaith o waredu'n gyflym rywogaethau yn ystod cyfnod cynnar o'u goresgyniad yng Nghymru gael ei drwyddedu gan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Os caiff cacynen Asiaidd ei chanfod yng Nghymru, er enghraifft, mae’n bosibl y bydd yr awdurdodau am geisio trwydded gennym i ryddhau ac olrhain cacynen Asiaidd i helpu i ddod o hyd i nyth a’i difa at ddibenion gwaredu'n gyflym.

Bydd trwyddedau gwaredu'n gyflym ond yn berthnasol i sefydliadau sydd â chylch gwaith i gynnal y gwaith. 

Mae canllawiau ar y ddeddfwriaeth ynghylch anifeiliaid sy’n destun pryder arbennig ar gael ar wefan Gov.uk.

Mae canllawiau ar y ddeddfwriaeth ynghylch planhigion sy’n destun pryder arbennig ar gael ar wefan Gov.uk.

Gwneud cais am drwydded i gynnal gweithgareddau sy'n ymwneud â gwaredu'n gyflym

I wneud cais am drwydded i weithredu mesurau ar gyfer dileu rhywogaethau sydd newydd gyrraedd o bryder arbennig yn gyflym, lawrlwythwch a chwblhewch y ffurflen gais am drwydded.

Rhaid i ddatganiad dull manwl fod ynghlwm â’r cais. Lawrlwythwch dempled o ddatganiad dull.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â thrwyddedau ar gyfer rhywogaethau rhestredig, cysylltwch â ni ar trwyddedrhywogaeth@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

neu ffoniwch ni ar 0300 065 3000.

Dychwelwch y ffurflenni wedi'u llenwi trwy e-bost neu i:

Trwyddedu Rhywogaethau

Cyfoeth Naturiol Cymru

Maes y Ffynnon
Penrhosgarnedd
Bangor
Gwynedd
LL57 2DW

Diweddarwyd ddiwethaf