Newid trwydded rhywogaeth
O 1 Hydref, ni fyddwn yn derbyn yr hen ffurflen diwygio trwydded rhywogaeth mwyach. Yn hytrach, defnyddiwch y ffurflen newid trwydded rhywogaeth newydd.
Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i newid trwydded rhywogaeth sy’n bodoli eisoes.
Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i wneud y canlynol:
- diweddaru enwau neu gyfeiriadau pobl ar y drwydded
- ychwanegu neu dynnu enwau pobl oddi ar drwydded
- newid y prif drwyddedai neu’r ecolegydd enwebedig
- ychwanegu rhywogaethau
- ychwanegu technegau neu offer
- newid cyfnod y drwydded
- gofyn am newidiadau eraill
Pryd i beidio â defnyddio’r gwasanaeth hwn
Ni allwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn os mai diweddaru’r canlynol yn unig sydd ei angen arnoch:
- rhif ffôn
- cyfeiriad e-bost
I ddiweddaru rhif ffôn neu gyfeiriad e-bost,cysylltwch â’r tîm trwyddedu rhywogaethau.
Os yw eich trwydded arolwg wedi dod i ben, rhaid i chi wneud cais i adnewyddu eich trwydded.
Cyn i chi ddechrau
Bydd angen y canlynol arnoch:
- rhif eich trwydded
- enw’rprif drwyddedai
Yn dibynnu ar y newidiadau rydych chi am eu gwneud, efallai y bydd angen i chi ddarparu’r canlynol:
- adroddiad diwedd trwydded
- datganiad dull wedi’i ddiweddaru os yw’r dulliau neu’r amserlen wedi newid
Gwiriwch pa wybodaeth a dogfennau mae angen i chi eu paratoi.
Gwneud cais ar-lein
Pa mor hir mae’n ei gymryd
Yr hyn y gallwch ei ddisgwyl:
- Mae newidiadau i bobl a enwir ar y drwydded, gan gynnwys newidiadau enw a chyfeiriad, yn cymryd hyd at 15 diwrnod gwaith
- Mae pob newid arall yn cymryd hyd at 30 diwrnod gwaith
Os bydd angen rhagor o wybodaeth arnom, efallai y bydd yn cymryd mwy o amser.
Taliadau
- Newidiadau i bobl a enwir ar y drwydded neu fanylion personol: £82
- Pob newid arall: £125 yr awr
Ni chodir tâl ar rai mathau o drwydded. Bydd cwestiynau’n cael eu gofyn i chi yn ystod y cais i wirio a oes tâl yn berthnasol.
Rhagor o wybodaeth am hepgoriadau tâl ar gyfer trwyddedu rhywogaethau