Newid trwydded rhywogaeth: yr hyn sydd ei angen arnoch chi cyn dechrau

Mae'r wybodaeth a'r dogfennau sydd eu hangen arnoch chi yn dibynnu ar y newidiadau rydych chi am eu gwneud.

Ychwanegu asiantau achrededig trwyddedig neu bersonau awdurdodedig trwyddedig

Rhowch enw llawn a manylion cyswllt pob person rydych chi am ei ychwanegu.


Tynnu asiantau achrededig trwyddedig neu bersonau awdurdodedig trwyddedig ymaith

Rhowch enw pob person yr hoffech ei dynnu oddi ar y drwydded.

Newid manylion cyswllt

Dylech chi ddarparu:

  • y manylion cyfredol
  • y manylion wedi'u diweddaru

Gallwch chi ddefnyddio'r gwasanaeth hwn i newid enwau a chyfeiriadau post.

Peidiwch â defnyddio'r gwasanaeth hwn i newid rhifau ffôn neu gyfeiriadau e-bost yn unig.

I ddiweddaru rhif ffôn neu gyfeiriad e-bost, cysylltwch â'r tîm trwyddedu rhywogaethau.


Newid y prif drwyddedai

Rhowch enw, cyfeiriad a manylion cyswllt y prif drwyddedai newydd.

Newid yr ecolegydd enwebedig trwyddedig

Os yw'r ecolegydd newydd wedi'i enwi'n ecolegydd enwebedig trwyddedig ar drwydded rhywogaeth warchodedig yng Nghymru, yr Alban neu Loegr ar gyfer yr un rhywogaeth a gweithgarwch, rhowch fanylion y drwydded.

Os nad yw'r ecolegydd wedi'i enwi'n ecolegydd enwebedig trwyddedig ar drwydded arall, bydd angen lanwytho 2 eirda.

Newid yr amserlen neu gyfnod y drwydded

Esboniwch:

  • y rheswm dros y newid
  • pa weithgarwch trwyddedig sy'n dal i fod yn weddill

Os oes gennych chi ddatganiad dull, rhaid i chi lanlwytho fersiwn diweddaraf yr amserlen. Rhaid iddo ddangos yn glir yr holl ddyddiadau diwygiedig.


Ychwanegu neu gynyddu rhywogaethau

Dywedwch wrthym ni:

  • pa rywogaethau rydych chi am eu hychwanegu neu eu cynyddu
  • faint o sbesimenau sydd angen eu cynnwys yn y drwydded
  • beth rydych chi'n bwriadu ei wneud
  • pam mae angen i chi ychwanegu'r rhywogaeth

Os oes gennych chi ddatganiad dull, rhaid i chi lanlwytho’r fersiwn diweddaraf. Rhaid iddo ddangos yr holl newidiadau yn glir.

Ychwanegu technegau ac offer

Dywedwch wrthym ni:

  • pa dechnegau ac offer rydych chi am eu hychwanegu
  • pam mae eu hangen

Os oes gennych chi ddatganiad dull, rhaid i chi lanlwytho’r fersiwn diweddaraf. Rhaid iddo ddangos yr holl newidiadau yn glir.

Rhaid i chi ddarparu tystiolaeth bod gan y person sy'n defnyddio'r technegau neu'r offer newydd y sgiliau a'r profiad priodol.

Dylech chi ddarparu un o'r canlynol:

  • manylion trwydded berthnasol yng Nghymru, yr Alban neu Loegr
  • cyfeiriadau a llyfr log sy'n dangos profiad gyda'r rhywogaeth a'r technegau
  • tystysgrifau hyfforddi a chymeradwyaeth gan hyfforddwr ystlumod


Gwneud newidiadau eraill

Dywedwch wrthym ni:

  • pa newidiadau rydych chi am eu gwneud
  • pam mae arnoch chi eisiau eu gwneud nhw

Os oes gennych chi ddatganiad dull, rhaid i chi lanlwytho’r fersiwn diweddaraf. Rhaid iddo ddangos yr holl newidiadau yn glir.

Diweddarwyd ddiwethaf