Adrodd ar drwydded adar
Amod unrhyw drwydded a roddir yw bod rhaid cwblhau ffurflen adrodd diwedd trwydded o fewn pedair wythnos i’r drwydded ddod i ben.
Gwyddoniaeth, ymchwil, ffotograffiaeth neu addysg
Adar: ffurflen adrodd – ffurflen adrodd ar gyfer trwyddedau a gyhoeddir at ddibenion gwyddonol, ymchwil neu addysgol, neu ar gyfer modrwyo neu nodi adar gwyllt neu at ddibenion ffotograffiaeth.
Rheoli adar a heboga
Rheoli adar a heboga – ffurflen adrodd diwedd trwydded ar gyfer trwyddedau i:
- rheoli adar gwyllt at ddiben gwarchod adar gwyllt
- gwarchod fflora a ffawna
- gwarchod unrhyw gasgliad o adar gwyllt
- gwarchod iechyd / diogelwch y cyhoedd neu ddiogelwch yr aer
- atal clefydau rhag lledaenu neu atal difrod difrifol i dda byw, porthiant ar gyfer da byw, cnydau, llysiau, ffrwythau, coed sy’n tyfu, pysgodfeydd neu ddyfroedd mewndirol
Adar sy’n bwyta pysgod – ffurflen adrodd diwedd trwydded – ffurflen adrodd ar gyfer trwyddedau i reoli adar sy’n bwyta pysgod.
Taliadau
Nid ydym yn codi tâl am ffurflenni adrodd diwedd trwydded.
Diweddarwyd ddiwethaf