Haydock Commercial Vehicles Limited - Deeside Truck Services, Pinfold Lane, Altami, Flintshire CH7 6NY
Rydym wedi derbyn cais am drwydded gan Haydock Commercial Vehicles Limited
Cais am drwydded amgylcheddol arbennig newydd dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016
Rhif y cais: PAN-028062
Math o gyfleuster rheoledig: System trin golchi cerbydau
Lleoliad y cyfleuster rheoledig: Deeside Truck Services, Pinfold Lane, Altami, Flintshire CH7 6NY
Cyfeirnod Grid Cenedlaethol yr ollyngfa: SJ 27499 67061
Yr ardal ddyfrol sy’n derbyn: Nant Alltami
Math o elifiant: Elifiant masnachol
Cyfaint: 5 metr ciwbig y dydd
Gallwch weld y dogfennau cais yn rhad ac am ddim, o'n cofrestr gyhoeddus ar-lein. Gallwch chwilio am y dogfennau gan ddefnyddio'r manylion cais uchod. Neu gallwch ofyn am gopi o'r wybodaeth gennym ni. Gall hyn gymryd amser i'w brosesu a gellid codi tâl am hynny.
Os oes gennych unrhyw sylwadau anfonwch y rhain erbyn 08 Mai 2025
E-bost: permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Neu ysgrifennwch at:
Gwasanaeth Trwyddedu
Cyfoeth Naturiol Cymru
Cardiff Cathays Park
Welsh Government Offices
Cathays Park
King Edward VII Avenue
Cardiff
CF10 3NQ
Rhaid i ni benderfynu a ddylid caniatáu neu wrthod y cais. Os ydym yn ei ganiatáu, mae’n rhaid i ni benderfynu pa amodau i’w cynnwys yn y drwydded. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ynglŷn â sut yr ydym yn gwneud penderfyniadau yn ein Datganiad Cyfranogiad Cyhoeddus.