Centrica Distributed Generation Limited - Gorsaf Bŵer Cyfnodau Brig Pencoed, Tir i’r Gogledd o Felindre Road, Pencoed, Pen-y-bont ar Ogwr, CF35 5HT

Rydym wedi derbyn cais am drwydded amgylcheddol gan Centrica Distributed Generation Limited.

Cais pwrpasol newydd am drwydded amgylcheddol o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016

Rhif y cais: PAN-026165
Math o gyfleuster rheoledig: Gosodiad – Adran 1.1 Gweithgareddau Hylosgi – Rhan A (1)(a) llosgi unrhyw danwydd mewn cyfarpar sydd â mewnbwn thermol graddedig o 50 megawat neu fwy.
Lleoliad y cyfleuster rheoledig: Gorsaf Bŵer Cyfnodau Brig Pencoed, Tir i’r Gogledd o Felindre Road, Pencoed, Pen-y-bont ar Ogwr, CF35 5HT

Mae'r cais hwn ar gyfer trwydded amgylcheddol bwrpasol newydd er mwyn gallu gweithredu gorsaf bŵer cyfnodau brig. Pwrpas y gosodiad arfaethedig yw cynhyrchu ynni trydanol, y gellir ei storio a'i fwydo i'r Grid Cenedlaethol, yn ôl yr angen.

Mae’r cais yn cynnwys disgrifiad o’r gosodiad arfaethedig; y deunyddiau, y sylweddau a’r egni y bydd yn ei ddefnyddio a’i gynhyrchu; amodau ei safle; ffynhonnell, natur ac ansawdd ei allyriadau rhagweladwy a’u heffeithiau posibl, y technegau arfaethedig ar gyfer rhwystro, lleihau a monitro ei allyriadau a rhwystro ac adfer gwastraff; ac amlinelliad o’r prif ddulliau amgen o weithredu a ystyriwyd, os oes rhai o gwbl.

Gallwch weld y dogfennau cais yn rhad ac am ddim, o'n cofrestr gyhoeddus ar-lein. Neu gallwch ofyn am gopi o'r wybodaeth gennym ni. Gall hyn gymryd amser i'w brosesu a gellid codi tâl am hynny.

Os oes gennych unrhyw sylwadau anfonwch y rhain erbyn 14 Mawrth 2025

Ebost: permittingconsultations@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Neu ysgrifennwch at:

Gwasanaeth Trwyddedu
Cyfoeth Naturiol Cymru
Adeilad y Goron
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Rhaid i ni benderfynu a ddylid caniatáu neu wrthod y cais. Os ydym yn ei ganiatáu, mae’n rhaid i ni benderfynu pa amodau i’w cynnwys yn y drwydded. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ynglŷn â sut yr ydym yn gwneud penderfyniadau yn ein Datganiad Cyfranogiad Cyhoeddus.

Diweddarwyd ddiwethaf