Datganiad Penderfyniad Adnoddau Dŵr ar gyfer cais am drwydded tynnu dŵr yn Chwarel Gore, Walton, Llanandras, Powys.
Rhif y cais: PAN-023639
Rhif y drwydded: WA/055/0008/0006
Rhanbarth CNC: Canolbarth
Dyddiad y cais: 25 Hydref 2023
Manylion yr ymgeisydd: Tarmac Trading Limited, Ground Floor, T3 Trinity Park, Bickenhill Lane, Birmingham, B37 7ES.
Crynodeb o’r cynnig: Mae’r ymgeisydd, Tarmac Trading Limited, wedi gwneud cais am drwydded tynnu dŵr lawn newydd i reoleiddio safle tynnu dŵr daear darfodadwy o dwll turio presennol yng Nghyfeirnod Grid Cenedlaethol SO 25669 59311 at ddibenion golchi olwynion ac atal llwch yn Chwarel Gore, Walton, Llanandras, Powys.
Ffynhonnell y cyflenwad: Haenau tanddaearol yn cynnwys Ffurfiant Strinds (tywodfaen).
Pwynt tynnu a meintiau dŵr: Yng Nghyfeirnod Grid Cenedlaethol SO 25669 59311. 3.5 litr yr eiliad (l/s), 12.5 metr ciwbig yr awr (m3/yr awr), 100 metr ciwbig y dydd (m3/y dydd), 19,244 metr ciwbig y flwyddyn (m3/y flwyddyn).
Dull tynnu dŵr: Twll turio heb fod yn fwy na 10.93 metr o ddyfnder ac 800 milimetr mewn diamedr gyda phwmp tanddwr.
Diben tynnu dŵr: Golchi olwynion ac atal llwch.
Cyfnod tynnu dŵr: Trwy gydol y flwyddyn.
Elfen a dynnwyd yn ôl yn ystod y penderfyniad: Tyniad dŵr annarfodadwy at ddiben disbyddu Chwarel Gore, o fewn yr ardal a ffurfiwyd gan linellau syth yn rhedeg rhwng y Cyfeirnodau Grid Cenedlaethol canlynol: SO 25829 59297, SO 25244 58700, SO 24986 58718, SO 25454 59341, SO 25672 59400, SO 25261 59083, SO 25111 58927, SO 25019 58674, SO 25111 58664, SO 25579 58910, SO 25610 59036 a SO 25791 59158. Byddai angen disbyddu pan fydd y lefel trwythiad yn cael ei rhyngdorri, yr amcangyfrifir ei bod 234 metr uwchlaw seilnod yr Arolwg Ordnans (mAOD). Cynigiwyd dychwelyd dŵr i Nant Riddings yng Nghyfeirnod Grid Cenedlaethol SO 25900 59430 o dan drwydded gollwng dŵr, cyfeirnod AW40019022. Meintiau echdynnu arfaethedig: 175 l/s, 633 m3/yr awr, 5,698 m3/y dydd, 1,310,534 m3/y flwyddyn.