Beth i'w wneud cyn i chi wneud cais am drwydded Cyfarpar Hylosgi Canolig (MCP) annibynnol â mewnbwn thermol o rhwng 1 a llai nag 20MW

Os yw eich Cyfarpar Hylosgi Canolig (MCP) hefyd yn Eneradur Penodedig (SG) neu weithgaredd Rhan B, gallwch ddod o hyd i wybodaeth am baratoi eich cais yma.

Mae'r dudalen hon yn dweud wrthych sut i baratoi eich cais am drwydded MCP annibynnol.

Rhaid i chi ddarparu'r wybodaeth ganlynol gyda'ch cais am drwydded:

  • Sgrinio asesiad modelu ansawdd aer
  • P'un a yw eich MCP wedi'i leoli o fewn Ardal Rheoli Ansawdd Aer (AQMA) ai peidio
  • Crynodeb annhechnegol
  • Cadarnhad bod gennych system reoli ysgrifenedig ar waith
  • Tystiolaeth i ddangos eich gallu fel deiliad trwydded (y gweithredwr)

Sgrinio asesiad modelu ansawdd aer

Bydd angen i chi benderfynu a yw'r allyriadau aer o'ch MCP yn risg i unrhyw safleoedd cynefinoedd gwarchodedig sy'n agos at eich MCP. Mae'r rhain yn cynnwys Safleoedd Ramsar, Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA), Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (AGA) a Pharthau Cadwraeth Morol.

Gallwch ddefnyddio ein map o ddata amgylcheddol i chwilio am safleoedd cynefinoedd gwarchodedig trwy ddewis ardaloedd gwarchodedig o'r rhestr haenau.

Defnyddiwch ein map data amgylcheddol

Bydd angen i chi ddefnyddio'r pellteroedd sgrinio yn y tabl isod i nodi unrhyw safleoedd cynefinoedd gwarchodedig sy'n agos at eich MCP. Bydd y pellteroedd sgrinio yn dibynnu ar faint eich MCP a’r math o danwydd a ddefnyddir ganddo.

Pellteroedd sgrinio lleiaf i'r safleoedd cynefinoedd 

Y math o danwydd a ddefnyddir

Mewnbwn thermol graddedig (MWth) o unrhyw MCP

Pellter lleiaf o MCP i Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) neu Barth Cadwraeth Morol (metrau)

Pellter lleiaf o MCP i Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA), Ardal Gwarchodaeth Arbennig (AGA) neu wlyptir Ramsar (metrau)

Nwy naturiol, olew nwy a biomas solet prennaidd

1 i 2

750

750

Nwy naturiol, olew nwy a biomas solet prennaidd

2 i 5

1,000

1,000

Nwy naturiol, olew nwy a biomas solet prennaidd

5 i 10

1,500

1,500

Nwy naturiol, olew nwy a biomas solet prennaidd

10 i 20

2,000

2,500

Nwy naturiol, olew nwy a biomas solet prennaidd

20 i 50

2,000

5,000

Nwy heblaw nwy naturiol

1 i 2

1,000

1,000

Nwy heblaw nwy naturiol

2 i 5

1,500

1,500

Nwy heblaw nwy naturiol

5 i 10

2,000

4,000

Nwy heblaw nwy naturiol

10 i 20

2,000

5,000

Nwy heblaw nwy naturiol

20 i 50

2,000

10,000

Olew tanwydd trwm solet a hylifol

1 i 2

2,000

2,000

Olew tanwydd trwm solet a hylifol

2 i 5

2,000

4,000

Olew tanwydd trwm solet a hylifol

5 i 10

2,000

8,000

Olew tanwydd trwm solet a hylifol

10 i 50

2,000

10,000

MCPs yn gweithredu y tu allan i'r pellteroedd sgrinio lleiaf

Os yw eich MCP yn gweithredu y tu allan i'r pellteroedd sgrinio gofynnol a roddir yn y tabl uchod, mae eich MCP wedi'i ‘sgrinio allan’ ac felly nid oes angen i chi gynnal unrhyw asesiadau modelu ansawdd aer i gefnogi'ch cais.

Os yw eich MCP wedi cael ei ‘sgrinio allan’ ond ei fod yn eneradur penodedig, â mewnbwn thermol ar ei ben ei hun o fwy nag 20MW, neu'n llosgi 50kg neu fwy yr awr o fiomas gwastraff, ewch i:

Beth i'w wneud cyn i chi wneud cais am Gyfarpar Hylosgi Canolig (MCP) annibynnol sydd â mewnbwn thermol o lai na 50MW ac sydd hefyd yn Eneradur Penodedig (SG) neu weithgaredd Rhan B (cynhwyswch ddolen).

MCPs yn gweithredu o fewn y pellteroedd sgrinio lleiaf

Os yw eich MCP yn gweithredu o fewn y pellteroedd sgrinio lleiaf i’r safleoedd cynefinoedd gwarchodedig a roddir yn y tabl uchod, bydd angen i chi ddefnyddio’r offeryn sgrinio hylosgi SCAIL i benderfynu a yw’r allyriadau aer o’ch MCP yn risg i’r safleoedd cynefinoedd gwarchodedig a nodwyd gennych ac a oes angen i chi wneud asesiad manylach ohonynt. Bydd angen i chi fewnbynnu'r pellteroedd sgrinio perthnasol o'r tabl uchod i'r offeryn sgrinio hylosgi SCAIL.

Er mwyn defnyddio offeryn sgrinio hylosgi SCAIL, mae angen gwybodaeth arbenigol arnoch am asesu ansawdd aer a modelu gwasgariad, felly efallai y bydd angen i chi ddefnyddio ymgynghorydd i gwblhau hwn ar eich rhan. Gall hyn gymryd ychydig wythnosau i'w gwblhau, felly bydd angen i chi ei gwblhau cyn gwneud eich cais.

Gallwch ddod o hyd i ymgynghorydd yng Nghyfeiriadur ENDS. Bydd yn codi tâl am ei wasanaethau.

Os gall eich MCP fodloni’r Gwerthoedd Terfyn Allyriadau (ELV) MCP ‘newydd’ a nodir yn y tabl perthnasol yn Atodiad II i’r Gyfarwyddeb Cyfarpar Hylosgi Canolig (MCPD), gallwch fewnbynnu'r gwerthoedd hyn i’r offeryn sgrinio hylosgi SCAIL i ddangos effaith risg isel ar yr amgylchedd.

Os byddwch yn datgan yn wirfoddol y gall eich MCP fodloni’r Gwerthoedd Terfyn Allyriadau (ELV) MCP ‘newydd’, byddwn yn cynnwys y terfynau hynny yn eich trwydded, y bydd angen i chi gydymffurfio â hi o 1 Ionawr 2025.

Gallwch ddatgan yn wirfoddol y gall eich MCP fodloni'r terfynau hyn yn eich ffurflen gais.

Os na fyddwch yn datgan y gall eich MCP fodloni’r Gwerthoedd Terfyn Allyriadau (ELV) MCP ‘newydd’, byddwn yn cynnwys terfynau cyfarpar ‘presennol’ (sy'n berthnasol i'ch MCP) yn eich trwydded, y bydd angen i chi gydymffurfio â hi o 1 Ionawr 2025.

Offeryn sgrinio hylosgi SCAIL

Mae offeryn sgrinio hylosgi SCAIL ar gael ar wefan y Ganolfan Ecoleg a Hydroleg (CEH), a ddefnyddir gan holl reoleiddwyr y DU ar gyfer asesu boeleri, injans, generaduron a thyrbinau.

Ewch i’r offeryn SCAIL ar wefan y Ganolfan Ecoleg a Hydroleg (CEH)

Mae canllaw cyffredinol i ddefnyddwyr yr offeryn sgrinio hylosgi SCAIL ar gael ar wefan y Ganolfan Ecoleg a Hydroleg i'ch helpu i gwblhau'r offeryn.

Rydym hefyd wedi datblygu ein canllaw ein hunain i ddefnyddwyr yr offeryn sgrinio hylosgi SCAIL sy'n esbonio sut i ddefnyddio'r offeryn, sut i asesu'r canlyniadau, a sut i gyflwyno'r canlyniadau gyda'ch cais am drwydded.

Bydd yr offeryn sgrinio hylosgi SCAIL naill ai'n ‘sgrinio allan’ neu'n ‘sgrinio i mewn’ eich MCP.

Os bydd eich MCP yn cael ei ‘sgrinio allan’ gan yr offeryn sgrinio hylosgi SCAIL, nid oes angen i chi gynnal unrhyw asesiadau modelu ansawdd aer, ond bydd angen i chi gwblhau’r templed canlyniadau SCAIL a'i gyflwyno gyda'ch cais am drwydded.

Os bydd eich MCP yn cael ei ‘sgrinio i mewn’ gan yr offeryn sgrinio hylosgi SCAIL, bydd angen i chi gynnal asesiad modelu ansawdd aer safle-benodol sy'n asesu'r risgiau i'r cynefinoedd gwarchodedig a chyflwyno hwnnw gyda'ch cais am drwydded.

Mae asesiadau modelu ansawdd aer yn gofyn am wybodaeth arbenigol felly bydd angen i chi ddefnyddio ymgynghorydd amgylcheddol i wneud hyn ar eich rhan. Gall hyn gymryd ychydig wythnosau i'w gwblhau, felly efallai y byddwch am wneud hynny cyn gwneud eich cais.

Gallwch ddod o hyd i ymgynghorydd yng Nghyfeiriadur ENDS. Bydd yn codi tâl am ei wasanaethau.

Cysylltwch â Cyfoeth Naturiol Cymru os ydych am wneud eich modelu manwl eich hun.

MCPs wedi’u lleoli o fewn Ardal Rheoli Ansawdd Aer (AQMA)

Os yw eich MCP wedi’i leoli o fewn Ardal Rheoli Ansawdd Aer (AQMA), rhaid i chi ddarparu:

  • Manylion yr AQMA
  • Allyriadau gwirioneddol o'ch MCP

Darganfyddwch a ydych mewn Ardal Rheoli Ansawdd Aer ar wefan DEFRA

Byddwn yn ymgynghori â'r awdurdod lleol i wirio a yw eich MCP wedi'i nodi yn y Cynllun Rheoli Ansawdd Aer cysylltiedig ac, os ydyw, mae'n bosibl y bydd eich allyriadau MCP yn cael eu nodi fel rhai sy'n effeithio'n andwyol ar ansawdd aer yn yr ardal.

Bydd yr awdurdod lleol, yn ei gynllun, yn nodi faint llymach y mae angen i'r Gwerthoedd Terfyn Allyriadau (ELVs) fod er mwyn sicrhau gwelliant amlwg i ansawdd aer. Byddwn yn cynnwys yr ELVs llymach y cytunwyd arnynt yn amodau eich trwydded.

Crynodeb annhechnegol

Bydd angen i chi ddarparu crynodeb sy'n esbonio eich cais, mewn iaith annhechnegol gymaint â phosibl, gan osgoi termau technegol, data manwl a thrafodaeth wyddonol. Dylai hwn gynnwys crynodeb o'r safle a chrynodeb o'r safonau technegol allweddol a'r mesurau rheoli sy'n deillio o'ch asesiad risg.

Os yw eich cais am gyfarpar symudol, rhaid i chi ddweud wrthym sut y gallai'r gweithgareddau rydych am eu cyflawni effeithio ar ansawdd y tir a disgrifio symudedd eich cyfarpar a sut rydych yn bwriadu gweithredu.

Cadarnhad bod gennych system reoli ysgrifenedig ar waith

Rhaid bod gennych system reoli ysgrifenedig effeithiol ar waith sy'n nodi ac yn lleihau'r risg o lygredd. Gallwch ddangos hyn drwy ddefnyddio cynllun ardystiedig neu'ch system reoli eich hun. Mae eich trwydded yn ei gwneud yn ofynnol i chi (fel y ‘gweithredwr’) sicrhau eich bod yn rheoli a gweithredu eich gweithgareddau yn unol â system reoli ysgrifenedig.

Gallwch ddod o hyd i ganllawiau ar systemau rheoli ar dudalen we GOV.UK ‘Datblygu system reoli: trwyddedau amgylcheddol’.

Gofynnir i chi gadarnhau eich bod wedi darllen y canllawiau a bod eich system reoli yn bodloni ein gofynion yn y ffurflen gais.

Tystiolaeth i ddangos eich gallu fel deiliad trwydded (y gweithredwr)

Wrth benderfynu ar eich cais, rhaid i ni ystyried a fyddwch yn ddeiliad trwydded cymwys (‘gweithredwr’). Byddwn yn edrych ar eich gallu technegol ac ar a ydych wedi'ch cael yn euog o drosedd berthnasol. Trosedd berthnasol yw un sy'n ymwneud â'r amgylchedd neu reoliad amgylcheddol.

Byddwn hefyd yn gwirio i weld a ydych wedi'ch datgan yn fethdalwr neu'n ansolfent a gallwn wirio eich sefyllfa ariannol trwy wiriad credyd. Byddwn hefyd yn gwirio bod gennych system reoli ar waith.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

SCAIL results EXCEL [103.1 KB]
Diweddarwyd ddiwethaf