Gwnewch gais i newid eich trwydded cyfarpar hylosgi canolig neu eneradur penodedig bwrpasol
Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i newid eich trwydded cyfarpar hylosgi canolig neu eneradur penodedig i chi ‘ch hun.
Cyn i chi wneud cais
Mae angen i chi wybod y canlynol:
- rhif eich trwydded (os ydych wedi delio â ni o’r blaen)
- unrhyw gyfeirnod cyn ymgeisio (os ydych wedi delio â ni o’r blaen)
- manylion eich safle
- eich cod Enwau Gweithgareddau Economaidd ar gyfer sector eich gweithgaredd
- rhif dynodi unigryw eich cyfarpar hylosgi canolig neu eneradur penodedig
- dyddiad cychwyn gweithredol y cyfarpar hylosgi canolig
- maint (capasiti) y cyfarpar hylosgi canolig neu'r generadur penodedig (MWth) yr hoffech ei ychwanegu
- os yw troseddau yn effeithio ar bobl berthnasol
- os yw ansolfedd neu fethdaliad yn effeithio ar bobl berthnasol
- pa ddatganiadau i'w gwneud
- ein taliadau trwydded
- sut i dalu
Dogfennau i’w lanlwytho
Bydd angen i chi lanlwytho rhai neu bob un o'r dogfennau canlynol i'ch cais.
- templed canlyniadau offeryn sgrinio hylosgi Cyfrifiad Syml o Derfynau Effaith Atmosfferig
- data cyfarpar hylosgi canolig wedi'i gwblhau a thaenlen wybodaeth Atodiad I
- asesiad o’r Technegau Gorau Sydd ar Gael (os yw eich cyfarpar hylosgi canolig neu eneradur penodedig yn dod o dan Ran B)
- asesiad modelu ansawdd aer safle-benodol
- adroddiad effeithlonrwydd ynni
- unrhyw waith monitro allyriadau o’r cyfarpar hylosgi canolig neu eneradur penodedig a gwblhawyd yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf (os yw ar gael)
- crynodeb o'r newidiadau arfaethedig sy'n cynnwys data a gwybodaeth wyddonol
- unrhyw achosion presennol neu flaenorol o fethdaliad neu ansolfedd yn eich erbyn
- tystiolaeth os ydych yn hawlio cyfrinachedd neu ddiogelwch gwladol
Gwnewch gais i newid eich trwydded
Amserlenni
Pan fyddwch wedi cyflwyno cais cyflawn a thalu’r ffi gywir, byddwn yn trosglwyddo’ch trwydded o fewn dau fis.
Byddwn yn gwirio'ch cais ac yn cadarnhau a yw'n gyflawn. Os nad ydyw’n gyflawn, efallai y byddwn yn gofyn am ragor o wybodaeth gennych.
Diweddarwyd ddiwethaf