Ffurflenni cais Trwydded Forol

Sut i wneud cais am Drwydded Forol

Mae angen trwydded ar rai gweithgareddau morol o dan Ddeddf Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009.

I wneud cais am drwydded, llenwch y ffurflen berthnasol o waelod y dudalen hon a’i hanfon atom, ynghyd ag unrhyw wybodaeth ategol a’r ffi berthnasol.

Pa ffurflen gais ddylwn i ei defnyddio?

Mae yna 4 math o gais am drwydded forol:

  • Ffurflen gais Band 1 – ar gyfer gweithgareddau penodol sy’n cael eu hystyried yn risg isel, sy’n destun proses drwyddedu symlach. Darllenwch ddogfen ganllaw Band 1 cyn cyflwyno cais Band 1

  • Ffurflen Gais Carthu a Gwaredu – ar gyfer carthu a/neu weithrediadau gwaredu

  • Ffurflen Gais Mwynau Morol – ar gyfer echdynnu mwynau morol

  • Ffurflen gais Gwaith Morol – Ar gyfer unrhyw beth nad yw’n cael ei gynnwys yn y ffurflenni cais uchod. Mae’r gwaith hwn yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i amddiffynfeydd arfordirol, prosiectau ynni adnewyddadwy alltraeth, defnydd buddiol o ddeunyddiau a garthwyd, ceblau tanfor, pontynau, glanfeydd, ymchwiliadau tir, adfer tir, a phibellau gollwng.

Beth ddylid ei gyflwyno fel gwybodaeth ategol?

Rhaid cyflwyno asesiad risg bioddiogelwch gyda phob cais am ddyframaethu, carthu a/neu waredu a phob cais Band 3. Mae templed asesiad risg bioddiogelwch ynghyd â dogfen ganllaw ar gael ar waelod y dudalen hon.

Rhaid cyflwyno canlyniadau samplu a dadansoddi gwaddodion gyda phob cais am garthu a/neu waredu. Mae ffurflen ar gyfer canlyniadau dadansoddi samplau gwaddodion ar gael ar waelod y dudalen hon.

Mae'n rhaid i bob cais (ac eithrio ceisiadau gweithgaredd risg isel Band 1) ddod gydag asesiad y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr, a rhaid cwblhau dogfen gyfeirio Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru yn nodi sut mae'r prosiect yn cydymffurfio â'i bolisïau. Mae ffurflen gyfeirio Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru ar gael ar waelod y dudalen hon.

Cais am Waith Amddiffyn rhag Llifogydd / Gwaith Amddiffyn Arfordirol

Os ydych yn gwneud gwaith sy'n ceisio newid neu gynnal y draethlin bresennol, er enghraifft gwaith i strwythur amddiffyn yr arfordir, bydd angen i chi ddarparu'r canlynol gyda'ch cais:

Nodi'r Cynllun Rheoli Traethlin perthnasol a'r uned bolisi ar gyfer y maes gwaith dan sylw. Gellir dod o hyd i'r wybodaeth hon ar ein gwefan yn Cynlluniau Rheoli Traethlin, ac os nad yw'r gwaith arfaethedig yn unol â'r polisi perthnasol, rhaid darparu cyfiawnhad hefyd.

Yn dibynnu ar natur a lleoliad y gwaith arfaethedig, efallai y bydd angen asesiad gwasgfa arfordirol i gefnogi eich cais. Dylech sgrinio'r gwaith arfaethedig ar gyfer yr angen am asesiad gwasgfa arfordirol a chyflwyno crynodeb o'r ymarfer sgrinio hwn i gefnogi'ch cais. Os yw'r ymarfer sgrinio'n dangos bod angen asesiad gwasgfa arfordirol, dylid darparu hwn hefyd. Rhoddir canllawiau ar sut i gynnal sgrinio ac asesu gwasgfa arfordirol yn Nodyn Cyfarwydd 62.

Sut ydw i’n cyflwyno cais trwydded forol?

Cwblhau y cais am drwydded forol band 1.

Gellir anfon ceisiadau’n electronig: permitreceiptcentre@ncyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Sawl copi sydd eu hangen?

Os gellir anfon y ffurflen gais a’r holl ddogfennau ategol yn electronig mewn e-bost sy'n 20MB neu’n llai, byddwn yn derbyn y cais trwy e-bost. Fodd bynnag, byddwn yn gofyn am un copi caled o holl ddogfennau’r cais ar gyfer ein hadolygiad a’n cofnod ein hunain.

Os yw’r ffurflen gais a’r holl ddogfennau ategol yn rhy fawr i e-bost, byddem yn eich cynghori i gysylltu â ni er mwyn penderfynu ar y dull mwyaf priodol i gyflwyno’r cais. Efallai y bydd arnom angen copïau ychwanegol o'r cais am drwydded forol a dogfennau ategol at ddibenion ymgynghori. Gall y rhain fod yn gopïau caled neu'n gopïau CD. Byddem yn eich cynghori i gysylltu â ni cyn cyflwyno nifer fawr o gopïau caled er mwyn penderfynu ar y dull mwyaf priodol.

Ffioedd ymgeisio

Rhaid i'r ffi berthnasol ddod gyda’r ceisiadau. Gweler ein tudalen ffioedd a thaliadau i gael gwybodaeth am ein taliadau.

Ni fyddwn yn dechrau prosesu cais hyd nes y telir y ffi gywir.

Diweddarwyd ddiwethaf