Ffioedd trwyddedu morol

Ffioedd Trwyddedau Morol

Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn gofyn am y ffioedd canlynol i ddarparu gwasanaeth trwyddedu morol yng Nghymru.

Gwasanaethau Cyn cyflwyno Cais

Ymholiadau Cyffredinol

Cewch 2 awr o gyngor ac arweiniad am y broses drwyddedu forol am ddim.

Gall ymholiadau cyffredinol gynnwys:

  • Cadarnhau bod gweithgaredd angen trwydded forol
  • Cyngor ar y broses o drwyddedu
  • Arweiniad tuag at ffurflenni cais, ffioedd, a chyngor 

Nid yw cyngor cyffredinol yn cynnwys mynychu cyfarfodydd neu dderbyn cyngor ar brosiectau unigol gan arbenigwyr technegol.

Bydd unrhyw ymholiadau y tu hwnt i’r 2 awr benodedig yn cael eu bilio ar gyfradd o £120 yr awr, ac yn cael eu trin fel gwasanaeth pwrpasol cyn cyflwyno cais.

Gwasanaeth Pwrpasol Cyn cyflwyno Cais

Mae’r gwasanaeth pwrpasol cyn cyflwyno cais ar gael i bawb sy’n defnyddio’r gwasanaeth drwyddedu morol. Bydd y gallu i gynnig y gwasanaeth hwn yn dibynnu ar faint y tîm pan dderbynnir y cais.

Bydd y tîm yn gallu cynnig y gwasanaeth hwn yn dibynnu ar allu'r tîm ar adeg y cais.

Arweinir y gwasanaeth gan y cwsmer, a bydd yn ddibynnol ar lefel y cyngor cyffredinol a’r cyngor technegol y bydd y prosiect ei angen cyn danfon y cais.

Mae’r Gwasanaeth Trwyddedu yn hybu cwsmeriaid, yn enwedig rhai sydd â datblygiadau mawr, gwreiddiol, a/neu gymhleth, i ddefnyddio’r gwasanaeth yma gan fod nifer o fanteision, gan gynnwys:

  • Adnabod problemau o flaen llaw
  • Dealltwriaeth o anghenion y broses drwyddedu forol
  • Y posibilrwydd o leihau’r cyfnod ystyried ffurfiol 

Byddwch chi a’r Gwasanaeth Trwyddedu yn cytuno ar yr anghenion o flaen llaw er mwyn darparu gwasanaeth sydd wedi’i deilwra i’ch anghenion chi. 

Dyma’r math o weithgareddau a all gael ei gynnwys yn y gwasanaeth:

  • Mynychu cyfarfodydd
  • Hwyluso cyfarfodydd gydag arbenigwyr technegol cyn cyflwyno cais ffurfiol
  • Cynnig cyngor anffurfiol
  • Trafod anghenion data a monitro posibl
  • Unrhyw weithgaredd sydd y tu hwnt i faes ymholiadau cyffredinol 

Unwaith y bydd cytundeb rhyngoch a’r Gwasanaeth Trwyddedu ynglŷn â maes dechreuol y cais, byddwch yn cael eich bilio ar gyfradd o £120 yr awr. Efallai y bydd angen blaendal.

Bydd anfonebau yn cael eu hanfon  yn fisol ar ffurf ôl-daliadau.

Barn Sgrinio

Cyn danfon eich cais am drwydded forol gallwch ofyn am Farn Sgrinio gan y tîm trwyddedu morol (MLT) i ganfod os byddwch angen Asesiad Effaith ar yr Amgylchedd (EIA).

Bydd cais am Farn Sgrinio yn cael ei filio fel ffi sefydlog o £600. Bydd gofyn i chi dalu’r ffi o flaen llaw, wrth ddanfon y cais am y Farn Sgrinio.

Barn Cwmpasu

Gyda phrosiectau fydd efallai angen EIA a Datganiad Amgylcheddol (ES) i gefnogi’r cais am drwydded forol, gallwch roi cais am Farn Cwmpasu.

Bydd cais am Farn Cwmpasu yn cael ei filio ar gyfradd o £120 yr awr, heb uchafswm. Byddwch yn cael eich anfonebu ar ffurf ôl-daliadau.

Barn Sgrinio a Chwmpasu

Gallwch anfon ceisiadau am Farn Sgrinio a Barn Cwmpasu gyda’i gilydd. Byddent yn cael eu bilio ar gyfradd o £120 yr awr. Byddwch yn cael eich anfonebu ar ffurf ôl-daliadau. 

Os bydd y Gwasanaeth Trwyddedu yn dyfarnu nad ydych angen EIA, ac o ganlyniad ddim angen Barn Cwmpasu, byddwch ond yn cael eich bilio am y ffi sgrinio o £600. 

Os ydych yn ansicr a fydd eich prosiect angen EIA, cysylltwch â’r Gwasanaeth Trwyddedu yn syth er mwyn iddynt allu eich cynghori os bydd angen cais Barn Sgrinio neu ddim.

Adolygiad o Ddatganiadau Amgylcheddol

Cyn cyflwyno cais trwydded forol Band 3, gallwch ofyn i’r Gwasanaeth Trwyddedu i adolygu eich Datganiad Amgylcheddol (ES) bras neu benodau ohono. Bydd y gallu i gynnig y gwasanaeth hwn yn dibynnu ar faint y tîm pan dderbynnir y cais.

Bydd y Gwasanaeth Trwyddedu yn asesu a yw’r ES yn gymwys yn ystod y broses hon ac yn cynnig cyngor ac arweiniad wrth gwblhau’r ES terfynol. Efallai bydd angen ymgynghoriad gydag arbenigwyr technegol.

Byddwch yn cael eich bilio ar gyfradd o £120 yr awr, heb uchafswm. Byddwch yn cael eich anfonebu ar ffurf ôl-daliadau.

Ffioedd dadansoddi sampl gwaddod

Cyn y gall deunydd wedi’i garthu gael ei ddyfarnu’n addas i’w waredu yn y môr, rhaid iddo gael ei ddadansoddi am ystod o rinweddau cemegol a ffisegol, yn unol â chanllawiau OSPAR.

Rydym yn eich hybu i gysylltu â’r Gwasanaeth Trwyddedu os bydd angen cynllun samplu. Os ydych yn ansicr, cysylltwch â’r Gwasanaeth Trwyddedu a byddant yn eich cynghori. Gall y Gwasanaeth Trwyddedu hwyluso’r broses o ddadansoddi sampl angenrheidiol yn ogystal â samplu trwy ymgynghorwyr allanol.

Codir ffi sefydlog o £420 ymlaen llaw am y gwasanaeth hwn, yn ystod y cyfnod cyn ymgeisio ac ar ôl i’r cais gael ei benderfynu. Nid yw’r ffi yn talu am amser ymgynghorwyr gwyddonol nac ychwaith gostau dadansoddi’r sampl, bydd hynny yn ychwanegol i’r ffi.

Gall costau dadansoddi sampl amrywio gan ddibynnu ar gynlluniau samplu unigryw’r gweithiau cysylltiedig. Bydd yr amser sy’n cael ei dreulio gan swyddog achos CNC yn cael ei gynnwys yn ffi y cais am drwydded. Os yw'r gwaith hwn yn gysylltiedig ag ôl-amodau’r drwydded, codir tâl yr awr o £120 arnoch heb uchafswm ffi. Byddwch yn cael eich anfonebu am y rhain fel ôl-ddyledion.

Gweler tudalen dadansoddi sampl gwaddod i gael mwy o wybodaeth ar sut i wneud cais.

Ceisiadau Ffurfiol

Band 1

Diffinnir prosiectau Band 1 fel gweithredoedd risg isel, ac o ganlyniad bydd y broses drwyddedu yn symlach. Bydd cais yn costio ffi sefydlog o £600. Bydd angen talu’r ffi o flaen llaw, wrth i chi ddanfon y cais am drwydded.

Band 2

Mae prosiectau Band 2 yn costio ffi sefydlog o £1920. Bydd angen i chi dalu o flaen llaw, wrth ddanfon y cais am drwydded.

Band 3

Mae ceisiadau Band 3 yn cael eu bilio ar gyfradd o £120 yr awr, heb uchafswm. Byddwch yn cael eich anfonebu ar ffurf ôl-daliadau.

Ar Ôl Trwyddedu

O 1 Ebrill 2017 bydd y Gwasanaeth Trwyddedu yn codi tâl am unrhyw newid i drwydded newydd neu becynnau gwaith ôl-drwydded. Bydd hyn yn weithredol ar drwyddedau a yrrwyd cyn 1 Ebrill 2017.

Trafodaethau Ôl-drwydded

Bydd ymholiadau cyffredinol ôl-drwyddedig yn cael eu trin yn yr un modd ag ymholiadau cyffredinol.

Os ydych yn dymuno trafod y newidiadau i’ch trwydded ymhellach, byddwch yn cael eich bilio ar gyfradd o £120 yr awr. Mae hyn yn gymharol i’r gwasanaeth pwrpasol cyn cyflwyno cais.

Gall y gwasanaeth gynnwys trafodaethau a chasglu barn anffurfiol gan ymgynghorwyr ynglŷn â’r newidiadau i drwydded a/neu fanylebau monitro, ymysg testunau eraill.

Rhyddhad o Delerau

Bydd gan rai trwyddedau morol delerau a fydd angen eu rhyddhau yn ystod cyfnod y drwydded. Byddant yn cael eu bilio ar y graddfeydd isod:

Band Trwydded Disgrifiad Ffi

Band 1 a 2

Ffi sefydlog unigol i ryddhau’r holl delerau ar drwydded forol. Nid yw hyn yn cynnwys amodau cysylltiedig â gwaith monitro cyfredol.

Yn daladwy o flaen llaw wrth ddanfon y cais cyntaf i ryddhau’r amod cyntaf.

Ffi sefydlog o £480

Band 3

Cyfradd fesul awr am yr amser a dreulir gan y Gwasanaeth Trwyddedu wrth ryddhau telerau’r drwydded.

 

Cyfradd £120 yr awr, heb uchafswm

Nid yw’r ffioedd yma yn berthnasol i delerau hysbysu, nid oes ffi am hynny.

Os ydych yn ansicr o fand eich trwydded cysylltwch â’r Gwasanaeth Trwyddedu.

Monitro

Bydd gan rai trwyddedau morol amodau monitro i sicrhau nad yw gweithgareddau yn niweidiol. Gall hyn fod ar ffurf adroddiadau monitro blynyddol, neu’n amlach ar gychwyn cyfnod gweithredol prosiect gwreiddiol.

Bydd pob pecyn monitro gwaith yn cael ei filio ar gyfradd o £120 yr awr, heb uchafswm. Bydd hyn yn weithredol ar gyfer pob band ffi. Byddwch yn cael eich anfonebu ar ffurf ôl-daliadau.

Newidiadau

Bydd unrhyw geisiadau i newid trwyddedau morol a wnaed mewn ysgrifen i’r Gwasanaeth Trwyddedu yn cael eu bilio ar y cyfraddau canlynol:

Math Disgrifiad Ffi

Amrywiad 0

Newid i drwydded o ganlyniad i weithred gan CNC.

Dim Ffi

Amrywiad 1

Newid gweinyddol - cais gan ddeiliad y drwydded i newid y drwydded e.e. newid enw neu gyfeiriad contractwyr.

Ffi sefydlog o £240

Amrywiad 2

Newidiadau cymhleth – cais gan ddeiliad y drwydded i newid y drwydded gan arwain at ymgynghoriad rhwng CNC â’r ymgynghorwyr perthnasol.

Cyfradd £120 yr awr

Amrywiad 3

Newid Arferol - cais gan ddeiliad y drwydded i newid y drwydded lle nad oes angen i CNC gynnal ymgynghoriad e.e. estyniad o drwydded.

Ffi sefydlog o £480


Trosglwyddo Trwydded

Bydd unrhyw geisiadau i drosglwyddo trwydded forol o un deiliad i un arall a wnaed mewn ysgrifen i’r Gwasanaeth Trwyddedu yn cael eu bilio fel ffi sefydlog o £480.

Bydd angen talu o flaen llaw wrth i’r cais gael ei ddanfon. 

Costau Teithio

Bydd hyn yn cael ei ystyried ar gyfer pob achos yn unigol a’r telerau yn cael eu trafod gyda’r Gwasanaeth Trwyddedu.

Costau Cyngor Allanol

Gall costau cyngor allanol gael eu hychwanegu i unrhyw becyn gwaith a fydd angen dadansoddiad neu gyngor na all gael ei ddarparu yn fewnol gan CNC. Byddwch yn cael eich bilio am unrhyw gostau cyngor allanol, yn ogystal â’r ffioedd perthnasol y drwydded forol.

Fel rheol bydd cyngor allanol yn cael ei ofyn yn ystod ceisiadau Band 3, wrth ddadansoddi samplau gwaddod, wrth fonitro, ac weithiau wrth ryddhau telerau. Ar gyfer Band 1 a’r mwyafrif o Fand 2, ni fydd angen cyngor allanol. Os byddwch yn gorfod talu costau am gyngor allanol, byddwch yn cael amcangyfrif o’r costau ymlaen llaw gan y Tîm Trwyddedu Morol, ac eithrio cyngor a dderbynnir gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru.

Cefas (Canolfan Gwyddorau’r Amgylchedd, Pysgodfeydd a Dyframaethu)

Ar y funud rydym fel arfer yn gofyn cyngor allanol gan Cefas, ond nid ym mhob achos. Er mwyn cynnig syniad o’r costau, mae ymgynghoriad Cefas yn costio rhwng £78.10 a £119.76 yr awr.

Ymddiriedolaeth Archaeolegol Cymru (WAT)

Codir pris fesul awr am gyngor allanol sy’n cael ei geisio gan WAT. Dylai datblygwyr drafod â WAT cyn anfon ceisiadau am drwyddedau morol a chyflawni amodau lle bydd WAT yn debygol o ysgwyddo cost am gyngor y codir tâl amdano, er mwyn sicrhau eu bod yn ymwybodol o'r costau amcangyfrifedig. Mae gwaith y codir tâl amdano yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, waith adolygu a chymeradwyo cynllun ymchwiliadau ysgrifenedig.

Bydd costau allanol a ysgwyddir gan WAT yn cael eu hanfonebu i’r datblygwr yn uniongyrchol gan WAT.

Amcangyfrifon a Threfn Anfonebu

Nid yw’r Gwasanaeth Trwyddedu yn gallu darparu dyfynbrisiau manwlgywir ar gyfer ceisiadau trwyddedau morol Band 3 a gwasanaethau eraill lle codir cyfradd fesul awr.

Fodd bynnag, os dymunwch gael eich hysbysu unwaith yr eir heibio nifer benodol o oriau, dylech godi’r hyn â’r Swyddog Trwyddedu a fydd yn gofalu am yr achos unwaith y bydd wedi’i neilltuo iddo/iddo.

Byddwch yn cael eich anfonebu gan CNC am y nifer cywir o oriau a dreuliwyd ar y pecyn gwaith. Rydym yn cyfrif yr oriau mewn unedau o 15 munud, gydag isafswm o 15 munud ar gyfer pob eitem o waith. Bydd anfonebau yn cael eu danfon yn fisol, un mis mewn ôl-daliadau.

Bydd y Gwasanaeth Trwyddedu yn arolygu unrhyw geisiadau a phecynnau gwaith cyn eu derbyn er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu dosbarthu i’r bandiau ffi cywir.

Dulliau o Dalu

Rhaid i daliadau ffi sefydlog gael eu talu’r un adeg ag y bydd y cais yn cael ei ddanfon. Ni fydd y gwaith yn parhau heb dderbyn y ffi briodol.

Bydd costau fesul awr yn cael eu hanfonebu yn fisol, un mis mewn ôl-daliadau.

Gall pob taliad gael ei gwblhau trwy ddefnyddio un o’r dulliau isod:

1. Siec

Dylai sieciau neu archebion post fod yn daladwy i Cyfoeth Naturiol Cymru. Cofiwch sicrhau fod ‘A/C Payee’ wedi’ ysgrifennau ar draws y siec os nad yw eisoes wedi’i argraffu arno.

Ni fyddwn yn derbyn sieciau yn dangos dyddiad yn y dyfodol.

Er mwyn i ni allu cadw’r siec gyda’r cais iawn, ysgrifennwch ar gefn y siec, i ddangos pwy sydd wedi'i hanfon, fel a ganlyn:
Enw ac, i ddilyn, 'Cais am Drwydded Forol' ac, i ddilyn ar ôl hynny, disgrifiad o'r gwaith.
Er enghraifft: "Ioan ap Huw – Cais am Drwydded Morol – Adeiladu glanfa ym Môn”

Anfonwch eich siec at:

Canolfan Dderbyn Trwyddedau
Cyfoeth Naturiol Cymru
Tŷ Cambria
29 Newport Road
Caerdydd
CF24 0TP 

2. Talu drwy drosglwyddiad electronig BACS 

Os byddwch yn dewis talu drwy drosglwyddiad electronig, bydd yn rhaid i chi ddefnyddio’r wybodaeth ganlynol i wneud eich taliad.

Os yr ydych eisiau gwneud taliad am eich trwydded trwy trosglwyddiad electronig, gallwch defnyddio y manylion isod i gwneud eich taliad. 

Enw’r Cwmni Cyfoeth Naturiol Cymru

Cyfeiriad y Cwmni Income Department, PO BOX 663, Cardiff, CF24 0TP

Banc: RBS 

Cyfeiriad: National Westminster Bank Plc, 2 ½ Devonshire Square, London, EC2M 4BA

Côd Didoli: 60-70-80 

Rhif y Cyfrif: 10074438 

Bydd yn rhaid i chi greu eich cyfeirif eich hunan. Dylai gychwyn gyda PRCAPP i ddangos fod y cais am weithgaredd trwyddadwy a dylai gynnwys pum llythyren gyntaf enw’r cwmni (yn lle’r XXXXX yn y cyfeirif uchod) a rhif adnabod unigryw (yn lle’r YYY yn y cyfeirif uchod). Dyma’r cyfeirif fydd yn cael ei ddangos ar ein datganiadau banc.

Dylech hefyd ebostio eich manylion talu a’r cyfeirif at permitreceiptcentre@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk neu ei ffacsio i 0300 065 3001. 

Os byddwch yn talu o'r tu allan i'r Deyrnas Unedig, mae'n rhaid i'r tâl fod mewn sterling. Ein rhif IBAN yw GB70 NWBK6070 8010 014438 a’n rhif SWIFTBIC yw NWBKGB2L..
Os na fyddwch yn dangos eich cyfeirif, efallai y bydd yna oedi cyn prosesu eich taliad a’ch cais. 

3. Manylion Anfonebu

Bydd yn ofynnol i chi roi’r wybodaeth isod am becynnau gwaith y codir cyfradd fesul awr er mwyn caniatáu i ni eich anfonebu mewn ôl-ddyled. Rhaid darparu manylion anfonebu cyn gellir ystyried eich cais.

Enw'r Cwsmer:
At sylw:
Rhif archeb brynu:
Cyfeiriad ar gyfer anfoneb:
Rhif ffôn:
Cyfeiriad e-bost:

Nid ydym yn anfon anfoneb ar gyfer ceisiadau neu wasanaethau sy’n ffi sefydlog, rhaid defnyddio dull arall o dalu.

Ffioedd a Chostau Newydd Trwyddedu Morol ar gyfer Cymru

Adran enghreifftiol Pecyn gwaith/Gwasanaeth Math o Ffi Ffi o fis Ebrill 2017

Cyn y Cais

Ymholiadau Cyffredinol (hyd at 2 awr)

Dim ffi

Dim ffi

Sgrinio

Ffi Benodedig

£600

Cwmpasu *

Cyfradd Fesul Awr

£120 fesul awr

 

Sgrinio a Chwmpasu*

Cyfradd Fesul Awr

£120 fesul awr (os bydd hyn yn arwain at Sgrinio’n unig, £600 fydd y gost)

Cyngor unigryw cyn gwneud cais*

Cyfradd Fesul Awr

£120 fesul awr

Adolygiad o Ddatganiadau Amgylcheddol *

Cyfradd Fesul Awr

£120 fesul awr

 

Ffioedd dadansoddi sampl gwaddod*

Ffi Benodedig

£420

Cais Ffurfiol

Band 1 - Risg Isel

Ffi Benodedig

£600

Band 2 – Achosion Nad Ydynt yn Gymhleth*

Ffi Benodedig

£1920

Band 3 – Achosion Cymhleth *

Cyfradd Fesul Awr

£120 fesul awr

Cyn Trwyddedu

Trafodaethau Cyn Trwyddedu*

 

Cyfradd Fesul Awr

£120 fesul awr

 

 

Cyflawni Amodau

Band 1 a 2*- ar gyfer pob amod

Ffi Benodedig

£480

Cyflawni Amodau

Band 3*

Cyfradd fesul awr neu drefniant pwrpasol gyda’r cwsmer

£120 fesul awr

 

Monitro *

Cyfradd fesul awr neu drefniant pwrpasol gyda’r cwsmer

£120 fesul awr

 

 

Amrywiad 0 – wedi’i gychwyn gan yr awdurdod trwyddedu

Dim bil

Dim ffi

Amrywiad 1 - Newidiadau gweinyddol

Ffi Benodedig

£240

Amrywiad 2 - Newidiadau cymhleth*

Cyfradd Fesul Awr

£120 fesul awr

Amrywiad 3 - Newidiadau arferol*

 

Ffi Benodedig

£480

Trosglwyddo trwydded

Ffi Benodedig

£480

 

*Gallai pecynnau gwaith arwain at gostau cyngor allanol. Os yw hyn yn gymwys i chi, bydd y Swyddog Achos Trwyddedu yn rhoi gwybod am hyn i chi. Codir costau cyngor allanol ar wahân, ar ben unrhyw ffioedd gan y Gwasanaeth Trwyddedu

Diweddarwyd ddiwethaf