Gwneud eich coetir neu goedwig yn fwy gwydn

Mae ein coetiroedd yn cynnig llu o fuddion i ni. Ymysg y rhain mae:

  • cyflenwi pren, sy’n cynnal ein heconomi a’n cymunedau gwledig
  • lle i fywyd gwyllt
  • cyfleoedd hamdden
  • cysylltiad â’n diwylliant a’n treftadaeth

Rydym yn wynebu argyfwng hinsawdd a natur. Mae ein coetiroedd dan fygythiad yn sgil effeithiau newid hinsawdd yn ogystal â phlâu a chlefydau.

Mae angen i ni wneud ein coetiroedd a’n coedwigoedd yn fwy gwydn ar gyfer y dyfodol.

Mae coetiroedd cymysg yn fwy gwydn, maent yn gwella’n haws o niwed, er enghraifft clefydau neu dân. Gobeithir y gall coetiroedd cymysg wrthsefyll tywydd eithafol fel gwyntoedd neu lifogydd.

Mae cynyddu amrywiaeth a gwella gwytnwch ein coetiroedd a’n coedwigoedd yn rhan allweddol o Safon Coedwigaeth y DU.

Sut i wneud eich coetir neu goedwig yn fwy gwydn

Mae’n bwysig dechrau gwneud y newidiadau hyn nawr gan fod ein hinsawdd eisoes yn newid. 

Mae tri cham y gallwch eu cymryd i wneud eich coetir neu goedwig yn fwy gwydn.

Cynyddu’r niferoedd o wahanol rywogaethau o goed

Plannwch amrywiaeth ehangach o rywogaethau o goed. Gallwch blannu rhywogaethau sy’n cyd-fynd â nodweddion y safle ac amodau’r hinsawdd yn y dyfodol.

Bydd newid hinsawdd yn golygu y bydd rhai rhywogaethau o goed yn tyfu’n well yng Nghymru nag y gwnaethant yn y gorffennol. Bydd rhywogaethau eraill yn ei chael hi’n anoddach, oherwydd sychder neu ymosodiadau gan blâu.

Plannu amrywiaeth ehangach o rywogaethau nawr yw’r ffordd orau o sicrhau y bydd eich coetir neu goedwig yn gwneud yn dda yn y dyfodol.

Gwella strwythur eich coetir

Ystyriwch sut rydych yn rheoli eich coetir. Dylech gynnwys cynaeafu, teneuo, ac ailblannu fel rhan o’r system reoli. Ceisiwch wella strwythur eich coetiroedd fel eu bod yn fwy cymysg. Mae hefyd yn ddefnyddiol cynllunio mynediad i’ch coetir neu goedwig er mwyn hwyluso gwaith teneuo.

Dewis coed a fydd yn tyfu mewn hinsawdd gynhesach

Ystyriwch darddiad y rhywogaethau o goed a blannwch. Ceisiwch ddewis rhywogaethau o goed sy’n gallu goroesi, addasu ac esblygu o dan amodau amgylcheddol sy’n newid. Ystyriwch rywogaethau o goed o leoliadau mwy deheuol sy’n debygol o fod wedi addasu’n well i’r hinsawdd a fydd yng Nghymru yn y dyfodol.

Dysgwch fwy

Rydym wedi datblygu canllawiau gwydnwch coetir i’ch helpu i wella amrywiaeth eich coetir neu goedwig. Mae gennym ganllawiau ar:

Mae yna hefyd wybodaeth ddefnyddiol yng nghanolfan newid hinsawdd Forest Research.

Mae Safon Coedwigaeth y DU wedi llunio canllaw ar gyfer addasu gwaith rheoli coedwigoedd a choetiroedd i’r hinsawdd wrth iddi newid.

Mae Forest Research hefyd wedi llunio cyfres o ffeithlenni ar newid hinsawdd i’ch helpu.

Diweddarwyd ddiwethaf