Cyflwyno cynllun rheoli coedwig sy’n bodoli eisoes fel rhan o'ch cais
Os oes gennych chi gynllun rheoli coedwig eisoes, fel cynllun wedi’i ddilysu o dan Gynllun Ansawdd Coetiroedd y Deyrnas Unedig, gallwch chi ei gyflwyno fel rhan o'ch cais. Rhaid i chi barhau i gwblhau cais ar-lein, ond byddwch yn hepgor rhai adrannau sydd wedi'u cynnwys yn eich cynllun presennol.
1. Cwblhau’r rhestr wirio ar gyfer cynllun arall
Cwblhewch a lanlwythwch y rhestr wirio i wneud y canlynol:
- gwirio bod eich cynllun yn cynnwys yr holl wybodaeth y mae ei hangen arnom
- dweud wrthym ble gallwn ddod o hyd i'r wybodaeth yn eich cynllun
Lawrlwytho’r rhestr wirio ar gyfer cynllun arall
2. Paratoi eich rhaglen waith
Cwblhewch a lanlwythwch y templed rhaglen waith i restru'r holl weithrediadau arfaethedig, gan gynnwys teneuo, cwympo coed ac ailstocio.
Ar gyfer pob gweithrediad, dywedwch y canlynol wrthym:
- arwynebedd (hectarau)
- rhywogaethau i'w cwympo neu eu teneuo
- blwyddyn/blynyddoedd dangosol
- sut y bydd ardaloedd a gwympwyd yn cael eu hailstocio (rhywogaethau, dull, amseriad)
Rhaid i'ch cynllun gydymffurfio â’r canlynol:
- Safon Coedwigaeth y Deyrnas Unedig
- disgwyliadau o ran ailstocio (fel arfer o fewn un i dau dymor plannu ar ôl cwympo coed)
Lawrlwytho’r templed rhaglen waith
3. Planhigfeydd ar Safleoedd Coetir Hynafol (PAWS)
Os oes unrhyw PAWS yn eich uned rheoli coedwig neu'n gyfagos iddi, rhaid i chi gwblhau a lanlwytho'r ffurflen asesu PAWS.
Lawrlwytho’r ffurflen asesu PAWS
4. Mawn dwfn
Os yw'r uned rheoli coedwig ar fawn dwfn, neu'n gyfagos iddo, rhaid i chi gwblhau a lanlwytho'r ffurflen asesu mawn dwfn.
Dysgu sut i nodi a rheoli mawn dwfn
Lawrlwytho’r ffurflen asesu mawn dwfn
5. Ystyried gwneud cais am farn sgrinio ar yr asesiad o'r effaith amgylcheddol
Efallai yr hoffech wneud cais am farn sgrinio ar yr asesiad o'r effaith amgylcheddol os yw eich cynllun rheoli coedwig yn cynnwys un o'r canlynol:
- coedwigo
- datgoedwigo
- gwaith chwarela
- gwaith ffordd
Gwirio a oes angen i chi ofyn am farn sgrinio ar yr asesiad o’r effaith amgylcheddol
Os ydych chi wedi gwneud cais am farn sgrinio ar yr asesiad o'r effaith amgylcheddol, byddwn ni'n gofyn am eich rhif cyfeirnod. Dewch o hyd i hwn yn yr e-bost cadarnhau a anfonwyd gennym ar ôl i chi wneud cais.
6. Cynhyrchu mapiau
Paratowch a lanlwythwch y mapiau ar wahân canlynol i ddangos y canlynol:
1. Yr uned rheoli coedwig a’i lleoliad
2. Adrannau, is-adrannau a llennyrch
3. Elfennau sensitif
4. Teneuo a chwympo coed (rhaid iddo ddangos eich llennyrch)
5. Ailstocio (rhaid iddo ddangos eich llennyrch)
Rhaid i bob map:
- fod yn seiliedig ar fapiau’r Arolwg Ordnans
- cael ei labelu'n glir
- cynnwys Cyfeirnod Grid Cenedlaethol
- defnyddio graddfa briodol
- cael ei lofnodi a'i ddyddio
- bod mewn fformat PNG, JPG, PDF neu DOC
- bod yn gyson â'ch rhaglen waith
Os hoffech chi anfon Shapefile atom ni hefyd, byddwn ni'n dweud wrthych chi sut i wneud hyn ar ôl i chi gyflwyno'ch cais.
7. Casglu eich pecyn cais ynghyd
Pan fyddwch chi'n barod i wneud cais, casglwch bopeth y mae ei angen arnoch i allu ateb yr holl gwestiynau yn y ffurflen gais ar-lein:
- manylion y tirfeddiannwr a'r asiant
- cynllun rheoli coedwig sy’n bodoli eisoes
- rhestr wirio cynllun sy’n bodoli eisoes
- rhaglen waith
- rhif cyfeirnod y barn sgrinio ar asesiad o'r effaith amgylcheddol (dewisol)
- ffurflen asesu PAWS (os yn berthnasol)
- ffurflen asesu mawn dwfn (os yn berthnasol)
- mapiau
- gwybodaeth i'n helpu i ymweld â'r safle (manylion mynediad ac unrhyw faterion yn ymwneud ag iechyd a diogelwch)
8. Gwneud cais ar-lein
Ni ddylech ddechrau unrhyw waith cwympo coed nes bod eich cynllun rheoli coedwig wedi'i gymeradwyo.