Penderfyniad rheoleiddio: Yr angen am drwydded cwympo coed i reoli coed mewn ardaloedd ble mae coed wedi’u chwythu drosodd neu eu torri gan y gwynt
Yn ddiweddar fe achosodd storm Darragh ddifrod digynsail ar draws coetiroedd a choedwigoedd Cymru wrth i goed gael eu chwythu drosodd a’u torri gan y gwynt.
Rydym yn cydnabod y bydd angen rheoli canlyniadau’r storm mewn modd amserol er mwyn symud rhwystrau, adfer hawliau tramwy a sicrhau bod gweithrediadau rheoli parhaus mewn coetiroedd yng Nghymru yn ddiogel.
Mae’r Penderfyniad Rheoleiddio hwn yn ddilys tan 1 Mehefin 2025 a bydd yn cael ei adolygu ar yr adeg honno.
Dylech wirio ar yr adeg honno i sicrhau bod y Penderfyniad Rheoleiddio yn dal yn ddilys.
Gallwn dynnu’r Penderfyniad Rheoleiddio hwn yn ôl neu ei ddiwygio cyn dyddiad yr adolygiad os ydym o’r farn bod hynny’n angenrheidiol. Mae hyn yn cynnwys lle nad yw’r gweithgareddau sy’n gysylltiedig â’r Penderfyniad Rheoleiddio hwn wedi newid.
Y Penderfyniad rheoleiddio
Ni fyddwn yn cymryd camau gorfodi yn eich erbyn am fethu â chael trwydded cwympo coed ar gyfer gweithgareddau rheoli coetir y mae eu hangen o ganlyniad uniongyrchol i effeithiau storm Darragh, lle mae’r gweithgareddau hynny’n cael eu cynnal yn unol ag amodau’r penderfyniad rheoleiddio hwn.
Ystyrir y bydd unrhyw goed llarwydd sydd wedi’u cynnwys mewn cynnig i gwympo coed sy’n gysylltiedig â’r penderfyniad rheoleiddio hwn wedi’u heintio â Phytophthora ramorum, a bydd angen Hysbysiad Iechyd Planhigion Statudol gennym ni sy’n caniatáu symud coed llarwydd i brosesydd awdurdodedig. Caiff hwn ei anfon ynghyd â’r e-bost cadarnhau a nodir yn amodau eich trwydded.
Mae’r penderfyniad rheoleiddio hwn yn berthnasol i weithrediadau cwympo coed y mae eu hangen er mwyn tynnu coed sydd wedi’u chwythu drosodd neu eu torri gan y gwynt o ganlyniad i effaith storm Darragh ac unrhyw goed sy’n tyfu hyd at yr ymyl agosaf a all wrthsefyll gwyntoedd cryfion sy’n berthnasol i’r effaith honno.
Mae hyn yn cynnwys:
- cwympo coed yn benodol er mwyn galluogi mynediad ar gyfer tynnu neu reoli coed wedi’u chwythu drosodd neu eu torri gan y gwynt, yn unol ag ymarfer coedwigaeth dda fel y nodir yn Safon Coedwigaeth y DU
- tynnu unrhyw goed yn yr ardal yr effeithiwyd arni lle bo angen. Mae hyn yn cynnwys unrhyw goed ynysig sy’n dal i sefyll yn yr ardal ble mae coed wedi’u chwythu drosodd gan y gwynt, yn unol ag ymarfer coedwigaeth dda fel y nodir yn Safon Coedwigaeth y DU.
Mae hyn yn eithrio:
- unrhyw goed neu dir sy’n destun camau gorfodi parhaus gennym ni neu unrhyw goed neu dir lle mae’r perchennog yn destun camau gorfodi parhaus gennym ni.
- unrhyw ardal lle gwrthodwyd cais am drwydded cwympo coed yn y gorffennol o dan Ddeddf Coedwigaeth 1967.
- coed sy’n destun gorchymyn cadw coed neu sydd o fewn ardal gadwraeth fel y’i diffinnir gan Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990
- safleoedd sydd wedi’u nodi fel Coetiroedd Lled-naturiol Hynafol neu Safleoedd Coetir Hynafol wedi’u Hadfer ar y Rhestr Coetiroedd Hynafol.
- unrhyw weithgareddau coetir lle mae angen caniatâd o dan y Rheoliadau Asesu Effaith Amgylcheddol (Coedwigaeth).
- safleoedd sydd â’r dynodiadau canlynol:
- Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA)
- Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (AGA)
Amodau y mae’n rhaid i chi gydymffurfio â nhw
Os yw’r coed/tir dan sylw o fewn 400m i Ardal Cadwraeth Arbennig neu Ardal Gwarchodaeth Arbennig, yna dylech ofyn am ein mewnbwn ynghylch a yw’r penderfyniad rheoleiddio hwn yn berthnasol o hyd.
Mae’n rhaid i chi roi gwybod i’n Tîm Trwyddedu Coedwigaeth eich bod yn bwriadu ymgymryd â gweithgareddau rheoli coetir o dan y penderfyniad rheoleiddio hwn. Mae’n rhaid i’r hysbysiad gynnwys y manylion canlynol:
- Map o’r ardal cwympo coed, yn nodi’r ardaloedd ble mae coed wedi’u chwythu lawr gan y gwynt a’r ymyl sy’n gallu gwrthsefyll gwyntoedd cryfion. Dylech gynnwys hefyd unrhyw ardaloedd cwympo coed y mae eu hangen er mwyn cael mynediad / ar gyfer seilwaith cynaeafu.
- Cadarnhad o arwynebedd yr ardal gwympo, mewn hectarau
- Map o ardaloedd arfaethedig ar gyfer ailstocio sy’n dangos cydymffurfiaeth â Safon Coedwigaeth y DU
- Manylion cyswllt y tirfeddiannwr
Mae’r holl weithgareddau i’w cynnal yn unol â gofynion Safon Coedwigaeth y DU. Rhaid ailstocio’r holl ardaloedd sydd wedi’u cwympo a’u clirio yn unol â Safon Coedwigaeth y DU
Rhaid i chi sicrhau bod yr holl olew a thanwydd yn cael eu storio a’u defnyddio mewn ffordd sy’n atal y perygl o ollyngiadau a llygredd.
Rhaid i chi sicrhau bod holl weithrediadau’r goedwig wedi’u cynllunio ymlaen llaw ac yn cael eu rheoli’n barhaus er mwyn:
-
- lleihau’r difrod i strwythur a swyddogaeth y pridd
- osgoi dŵr ffo i gyrsiau dŵr
- cadw fflora, ffawna, nodweddion daearegol neu ffisiograffig y safle a’r cynefinoedd naturiol
Rhaid i chi sicrhau bod yr holl wastraff gweithgynhyrchu, er enghraifft cetris saim, bagiau plannu ac ati, yn cael eu storio’n briodol yn ystod y gwaith a’u gwaredu’n briodol.
Os bydd gweithgareddau gweithredol yn arwain at ddigwyddiad neu ddamwain sy’n effeithio’n sylweddol neu a allai effeithio’n sylweddol ar yr amgylchedd, heb oedi rhaid i chi:
- roi gwybod i ni gan ddefnyddio rhif y llinell gymorth, 0300 065 3000
- cymryd y camau angenrheidiol i gyfyngu ar ganlyniadau amgylcheddol digwyddiad neu ddamwain o’r fath, a
- chymryd y camau angenrheidiol i atal digwyddiadau neu ddamweiniau pellach
Rhaid i chi gwblhau gweithrediadau cwympo coed cyn pen 2 flynedd wedi’r dyddiad i ni gydnabod ein bod wedi derbyn eich hysbysiad o’ch bwriad i ddefnyddio’r penderfyniad rheoleiddio hwn
Rhaid i chi gwblhau’r holl weithrediadau ailstocio cyn pen 4 blynedd wedi’r dyddiad i ni gydnabod ein bod wedi derbyn eich hysbysiad o’ch bwriad i ddefnyddio’r penderfyniad rheoleiddio hwn.
Rhaid i chi ailstocio trwy blannu’n uniongyrchol yn unol â’r dwysedd stocio canlynol:
-
- 1600 o goed yr Ha yn achos coed llydanddail brodorol, a
- 2500 o goed yr Ha yn achos coed conwydd
gyda’r coed wedi’u dosbarthu’n gyfartal ar draws y safle
Rhaid rheoli a chynnal y safle ailstocio a’r coed yn unol ag ymarfer coedwigaeth dda Safon Coedwigaeth y DU a’u gwarchod rhag da byw ac anifeiliaid pori am 10 mlynedd o leiaf wedi dyddiad eu plannu. Rhaid plannu coed i wneud i fyny am goed marw er mwyn cynnal y dwysedd stocio gofynnol
Rhaid i chi aros am gadarnhad gan y tîm Trwyddedu Coedwigaeth bod y wybodaeth wedi’i derbyn cyn dechrau’r gweithgareddau a gynlluniwyd.
Nid yw’r penderfyniad rheoleiddio hwn yn dileu’r angen am drwydded Rhywogaethau a Warchodir gan Ewrop os oes angen un ar gyfer y gweithgareddau rheoli coetir yn unol â Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017
Nid yw’r penderfyniad rheoleiddio hwn yn dileu’r angen am gydsyniad yn unol ag adran 28 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 ar gyfer unrhyw waith a wneir o fewn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA). Rhaid i chi geisio caniatâd/cydsyniad gennym ni am unrhyw weithrediadau sy’n debygol o ddifrodi nodweddion diddordeb arbennig unrhyw Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA)
Gorfodi
Nid yw’r penderfyniad rheoleiddio hwn yn newid y gofyniad cyfreithiol arnoch i fod â thrwydded cwympo coed.
Fodd bynnag, ni fyddwn fel arfer yn cymryd camau gorfodi os nad ydych yn cydymffurfio â’r angen am drwydded cwympo coed os ydych yn bodloni’r gofynion yn y penderfyniad rheoleiddio hwn.
Yn ogystal, rhaid i’ch gweithgaredd beidio ag achosi (neu fod yn debygol o achosi) llygredd i’r amgylchedd na niwed i iechyd pobl, a rhaid iddo beidio ag:
- achosi risg i ddŵr, aer, pridd, planhigion neu anifeiliaid
- achosi niwsans yn sgil sŵn neu arogleuon
- effeithio’n andwyol ar gefn gwlad neu fannau o ddiddordeb arbennig