Monitro'r gwaith a wneir o dan eich cynllun rheoli coedwig
Bydd gwaith monitro a wneir o dan eich cynllun rheoli coedwig yn helpu i sicrhau:
- bod eich amcanion rheoli yn cael eu cyflawni
- bod eich canlyniadau disgwyliedig a mesurau llwyddiant yn cael eu cyflawni
- y gall mesurau rheoli addasu i unrhyw amgylchiadau sy'n newid
Efallai y bydd ei angen hefyd gan amodau sydd ynghlwm wrth eich cynllun rheoli coedwig – er enghraifft, sy'n gysylltiedig â safleoedd gwarchodedig, henebion cofrestredig neu waith i adfer mawn dwfn.
Dylai unrhyw waith monitro fod yn rhan o weithgarwch rheoli arferol o ddydd i ddydd, yn hytrach na rhywbeth sy'n cymryd gormod o amser ac ymdrech ychwanegol.
Bydd gwaith monitro rheolaidd hefyd yn ei gwneud hi'n haws cwblhau adolygiad Blwyddyn 5 o’r cynllun rheoli coedwig os ydych chi am ymestyn eich gweithgarwch rheoli coedwig am bum mlynedd arall.
Dylai gwaith monitro gynnwys cofnodi unrhyw ddigwyddiadau sydd wedi arwain at achos gwirioneddol neu bosibl o dorri Safonau Coedwigaeth y DU. Efallai y bydd gofyn i chi roi manylion am hyn i ni, yn dibynnu ar ba mor ddifrifol ydyw.