Cyflwyniad

Mae’r canllaw hwn yn cynnig dulliau ymarferol a chynaliadwy o reoli coed ynn y mae clefyd coed ynn yn effeithio arnynt. Mae ar gyfer tirfeddianwyr, rheolwyr coetir, ac unrhyw un sy’n rheoli coed ynn yng Nghymru. Fe'i hysgrifennwyd i'w ddefnyddio yng Nghymru, ond mae hefyd yn cyfeirio at ganllawiau perthnasol eraill a gyhoeddwyd gan wahanol sefydliadau. Os oes gennych unrhyw bryderon neu os oes angen cyngor arbenigol arnoch ar reoli eich coed ynn, gan gynnwys mewn perthynas â risgiau iechyd a diogelwch, ymgynghorwch â gweithiwr rheoli coed sydd wedi'i yswirio'n llawn fel coedwigwr neu dyfwr coed cymwys. Cedwir rhestr o weithwyr proffesiynol cymwys gan Sefydliad y Coedwigwyr Siartredig.

Nid oes dim yn y ddogfen ganllaw hon sy’n disodli neu’n dileu’r angen i gydymffurfio â dyletswyddau o dan Ddeddf Atebolrwydd Meddianwyr 1957 ac 1984 neu ddeddfwriaeth arall. I gael rhagor o wybodaeth am ddyletswyddau o dan y gyfraith, cyfeiriwch at lyfryn ‘National Tree Safety Group Common Sense Risk Management of Trees’ y Grŵp Diogelwch Coed Cenedlaethol booklet.

Mae clefyd coed ynn yn ein hatgoffa yn weladwy iawn ar draws tirweddau Cymru am y difrod y gall plâu a chlefydau coed achosi, ac am bwysigrwydd cael ecosystemau gwydn.

Mae clefyd coed ynn yn her sylweddol ym maes rheoli tir i dirfeddianwyr, rheolwyr tir a ffermwyr sydd â choed ynn ar eu tir. Er bod nifer y coed ynn yn lleihau oherwydd y clefyd, mae ynn yn dal i fod yn rhywogaeth lydanddail doreithiog yng Nghymru. Maent yn elfen bwysig yn ein tirwedd, a geir y tu mewn a'r tu allan i goetiroedd, ar ymyl ffyrdd a rheilffyrdd, mewn gwrychoedd, neu ar ffurf coed unigol mewn caeau neu barciau a gerddi.

Yn y canllaw hwn, lle rydym yn nodi ‘coed ynn’, rydym yn cyfeirio at yr onnen neu Fraxinus excelsior. Lle rydyn ni’n nodi ‘clefyd coed ynn’, rydyn ni’n cyfeirio at y ffwng Hymenoscyphus fraxineus, y cyfeirir ato weithiau fel Chalara.

Rydym yn cydnabod y gall rhywogaethau estron eraill o goed ynn gael eu tyfu’n addurniadol yng Nghymru, ac er bod y canllawiau hyn yn canolbwyntio ar yr onnen frodorol, gall hefyd fod yn berthnasol i'r gwaith o reoli rhywogaethau ynn eraill.Rydym hefyd yn cydnabod bod achosion eraill o glefyd coed ynn, megis straen dŵr, sy’n debygol o ofyn am ddull rheoli tebyg, ond nid ydynt wedi’u cynnwys yn benodol yn y canllawiau hyn.

Dylid darllen y canllawiau hyn ar y cyd â dull gweithredu polisi clefyd coed ynn Llywodraeth Cymru yng Nghymru.

Dull gweithredu polisi clefyd coed ynn Llywodraeth Cymru yng Nghymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi dull gweithredu polisi clefyd coed ynn yng Nghymru. Mae’n esbonio y dylai tirfeddianwyr a rheolwyr ddefnyddio dull sy’n seiliedig ar risg i reoli effeithiau cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd y clefyd, i gadw pobl a’n seilwaith hanfodol yn ddiogel ac annog straeniau o goed ynn sy’n oddefgar yn naturiol i ddod i’r amlwg ac i ffynnu, gan alluogi’r amgylchedd ehangach i ymateb yn naturiol. 

Gall gymryd sawl blwyddyn i nodi’r coed sy’n fwy goddefgar ar ôl i glefyd coed ynn gyrraedd safle. Gall coed goddefgar gynhyrchu cynyddiad da o hyd yn eu tyfiant blynyddol. Credir bod goddefgarwch i'r clefyd yn etifeddol iawn, a bydd yn cael ei drosglwyddo i genedlaethau newydd o goed. Dyna pam mae mor bwysig cadw coed ynn cyn hired â phosibl fel bod straeniau goddefgar yn dod i’r amlwg ac yn ffynnu, gan alluogi’r amgylchedd ehangach i ymateb yn naturiol.

Dull gweithredu cyffredinol

Rydym yn argymell dull yn seiliedig ar risg o reoli coed ynn, wedi’i adeiladu ar bedwar cam, yn unol ag egwyddorion a nodau’r strategaeth.

Cam 1: Arolygu a monitro coed ynn

Nodwch y coed ynn ar eich tir, boed yn goed unigol neu’n grwpiau o goed, a gwnewch asesiad o’u cyflwr, gan gynnwys newidiadau dros amser.

Cam 2: Cwblhau asesiad risg

Ystyriwch gwblhau asesiad risg i lywio opsiynau rheoli yn y dyfodol, gan ganolbwyntio’n benodol ar leoliadau â risg uchel.

Cam 3: Cynllunio a chyflawni gwaith adfer neu reolaeth addasol

Cynlluniwch a chyflawnwch waith adfer neu reolaeth addasol yn ôl yr angen, yn unol â chanfyddiadau’r asesiad risg a gwblhawyd yng Ngham 2.  Bydd angen i chi gael y trwyddedau angenrheidiol a sicrhau y cedwir at gyngor iechyd a diogelwch wrth wneud unrhyw waith adfer neu reolaeth addasol. Bydd angen i chi hefyd ystyried mesurau lliniaru, megis plannu coed newydd.

Cam 4: Adolygu

Adolygwch effeithiolrwydd eich dull gweithredu drwy fynd yn ôl i Gam 1, sy’n gofyn am fonitro coed ynn ar eich tir i lywio camau gweithredu yn y dyfodol. Gall effaith clefyd coed ynn fod yn amlwg dros ystod o raddfeydd ac amserlenni, felly mae'n bwysig bod iechyd coed yn cael ei fonitro'n rheolaidd i ddeall newidiadau dros amser.

Cam 1: Arolygu a monitro coed ynn          

Mae canfod presenoldeb coed ynn a phennu eu cyflwr trwy arolwg neu asesiad yn gam cyntaf pwysig. Dylai arolwg gofnodi nifer a lleoliad y coed ynn ac unrhyw arwyddion neu symptomau o glefyd coed ynn ar raddfa briodol. Er enghraifft, wrth ymyl ffordd neu mewn parc cyhoeddus, efallai y bydd angen i chi gofnodi pob coeden. Fel arall, os yw coed ynn yn ffurfio'r rhan fwyaf o goetir mwy, gallwch eu cofnodi fel un cofnod yn unig.

Ar gyfer arwyddion a symptomau, gan gynnwys delweddau, i helpu i gynnal arolwg, mae canllawiau wedi'u cynhyrchu gan Forest Research, Observatree a‘r Cyngor Coed.

Dylai arolwg hefyd nodi presenoldeb Armillaria (ffwng melog). Gall haint eilaidd gan Armillaria ddigwydd mewn briwiau a achosir gan glefyd coed ynn. Yn aml, dyma achos pennaf marwolaeth coed ynn gyda chlefyd coed ynn, yn enwedig rhai hŷn. Os canfyddir Armillaria, dylai hyn lywio eich asesiad risg yng Ngham 2. Gall ffyngau pydredd eraill hefyd heintio coeden y mae clefyd coed ynn yn effeithio arni.

Cam 2: Cwblhau asesiad risg

Yn seiliedig ar ganlyniadau Cam 1, ystyriwch gwblhau asesiad risg i lywio eich penderfyniadau am opsiynau rheoli yn y dyfodol. Mae cyngor defnyddiol ar nodi risgiau a gwneud penderfyniadau cytbwys i'w gael yn llyfryn National Tree Safety Group Common Sense Risk Management of Trees.

Dylai asesiad risg flaenoriaethu coed mewn ardaloedd risg uchel, ar y sail bod angen sylw mwy uniongyrchol ar y rhain. Mae ardaloedd risg uchel yn cynnwys y rhai gerllaw priffyrdd, seilwaith rhwydweithiau gwasanaethau, adeiladau, neu mewn mannau neu ar hyd llwybrau a ddefnyddir yn aml gan y cyhoedd.

Yn ogystal â lleoliad, ystyriwch ffactorau fel cyflwr y goeden a’r effaith debygol pe bai’n cwympo neu os bydd canghennau’n torri.                   

Mae angen rhoi ystyriaeth arbennig i goed ynn sy'n cael eu dosbarthu fel Coetiroedd o Werth Mawr i Natur neu sy’n goed hynafol neu hynod. Mae'r canlynol yn cael eu dosbarthu fel Coetiroedd o Werth Mawr i Natur:

  • Coetiroedd hynafol, gan gynnwys y canlynol:
    • Coetiroedd Hynafol a Lled-Naturiol
    • Safleoedd Coetir Hynafol a Adferwyd
    • Planhigfeydd ar Safleoedd Coetir Hynafol
  • Coed pori a thir parc
  • Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) neu safleoedd dynodedig eraill

Mae lleoliad coetiroedd hynafol, coed pori a thir parc, a safleoedd dynodedig i’w weld ar wefan DatamapCymru

Coeden hynafol yw coeden sydd â gwerth biolegol, diwylliannol neu esthetig oherwydd ei hoedran, maint neu gyflwr. Efallai nad yw coed hynod yn hen iawn ond mae ganddynt nodweddion pydredd sy'n cyfrannu gwerth tebyg.

Mewn Coetiroedd o Werth Mawr i Natur ac ar gyfer coed hynafol neu goed hynod, mae’n bwysig ystyried effaith cael gwared ar goed ynn ar fioamrywiaeth a’r amgylchedd ehangach.  Mae coed ynn yn cynnal nifer fawr o rywogaethau, y mae rhai ohonynt yn dibynnu ar nodweddion penodol ynn. Mewn sefyllfaoedd fel hyn, ceisiwch gadw’r coed ynn am gyhyd ag sydd yn bosibl oni bai fod ystyriaethau iechyd a diogelwch sy’n fwy pwysig.

Os ydych yn rheoli eich coetiroedd i gynhyrchu pren, efallai y bydd angen i chi feddwl am faterion economaidd ac ariannol wrth gwblhau eich asesiad risg. Yn unol â'r strategaeth, ni ddylai cellïoedd sy'n cynnwys coed heintiedig gael eu dosbarthu'n awtomatig fel ardaloedd risg uchel ac felly eu clustnodi ar gyfer cwympo cyn pryd er mwyn gwireddu gwerth y pren yn gyflym. Dylech ddefnyddio dull pwyllog o asesu risg sy'n ystyried yr holl faterion.

Cam 3: Cynllunio a chyflawni gwaith adfer neu reolaeth addasol

Os bydd eich asesiad risg yn nodi'r angen am waith adfer neu arferion rheoli addasol yn y tymor hwy i ymdrin â choed ynn heintiedig risg uchel, cynlluniwch a chyflawnwch y rhain.

Bydd y math o waith adfer neu arferion rheoli addasol yn dibynnu ar pam y mae lleoliadau wedi'u nodi fel ardaloedd o risg uchel; lefel yr haint; oed y goeden neu'r gelli; a'r safle o‘u hamgylch. Gallai gwaith gynnwys tynnu canghenau marw o’r coed mewn ardaloedd risg uchel trwy drin coed; cwympo coed heintiedig drwy waith teneuo neu lwyrdorri; gwaith i hyrwyddo coed iach sy’n gallu goddef heintiau; neu waith i gefnogi adfywiad naturiol straeniau goddefgar.

Mae canllawiau defnyddiol ar gynllunio ar gyfer rheoli clefyd coed ynn wedi’u cynhyrchu gan y Cyngor Coed a Forest Research .

Cofiwch fod y cam hwn hefyd yn cynnwys cael y trwyddedau a chaniatâdau angenrheidiol i wneud gwaith a sicrhau bod cyngor iechyd a diogelwch yn cael ei ddilyn wrth wneud gwaith, yn enwedig os yw hyn yn ymwneud â gweithio oddi ar y ddaear. Gall fod yn fuddiol gwneud cais am gynllun rheoli coedwig wrth gynllunio a chael caniatâd i gwympo coed ar gyfer rheolaeth tymor canolig a thymor hwy.

Coetiroedd o Werth Mawr i Natur

Mewn Coetiroedd o Werth Mawr i Natur sy’n cynnwys coed ynn, lle mai diogelu buddion amgylcheddol a bioamrywiaeth ehangach yw’r amcanion allweddol, mae lefel yn is o reolaeth addasol yn opsiwn a ffefrir, ac eithrio lle gallai fod angen gwaith adfer mewn ardaloedd o risg uchel. Gall cadw ynn cyn hired â phosibl ddarparu cynefin i'r rhywogaethau hynny sy'n dibynnu ar goed ynn a chaniatáu amser i nodi coed ynn goddefgar. Gallai eich dull gweithredu gynnwys teneuo cellïoedd iau i annog coed iachach neu deneuo wedi'i dargedu o amgylch coed iach â choronau mawr i annog cynhyrchu hadau. Ni chynghorir teneuo'n drwm mewn cellïoedd aeddfed trwchus. Gall mabwysiadu Systemau Coedamaeth Bach eu Heffaith lle bo'n bosibl gefnogi aildyfiant y canopi a swyddogaeth y Coetir o Werth Mawr i Natur cyn gynted â phosibl. Dylid ystyried cwympo cellïoedd yn llwyr fel y dewis olaf er mwyn lleihau aflonyddwch o fewn y safleoedd sensitif hyn a chynnal eu cymeriad a’u nodweddion.

Coetiroedd eraill

Mewn coetiroedd eraill, ystyriwch deneuo cellïoedd iau o goed heintiedig a gwan yn ddetholus os yw lefelau'r clefyd yn isel. Coed iau yw'r rhai mwyaf agored i'r clefyd, ac ar ôl eu heintio maent fel arfer yn marw'n gyflym. Os yw mwy na 50 y cant o'r ynn yn y gelli wedi'u heintio, bydd y gyfradd flynyddol o gynhyrchu sborau yn uchel iawn. O ganlyniad, bydd cyflwr y coed yn dirywio'n gyflym, ac felly mae'n bosibl y byddai'n briodol gwireddu eu gwerth yn gynt a'u torri'n gynt na'r disgwyl.

Argymhellir dull coeden unigol ar gyfer cellïoedd hŷn â choed heintiedig. Lle mae mwy na 50 y cant o'r goron wedi'i heintio, a lle mae goroesiad y goeden yn dibynnu ar egin epicormig (tyfiant o flagur ar y boncyff neu'r canghennau), efallai y byddwch am ystyried cwympo coed oherwydd eu bod wedi'u heintio'n ddifrifol a byddant yn cynhyrchu llawer iawn o sborau a fydd yn heintio coed eraill.

Coed y tu allan i goetiroedd

Ar gyfer coed tirwedd neu drefol unigol, ceisiwch gadw’r rhain cyhyd ag y bo modd oni bai fod diogelwch y cyhoedd yn broblem. Gall coed hynod a choed hynafol yn arbennig ddarparu llawer o fanteision amgylcheddol a chymdeithasol pwysig, hyd yn oed pan fyddant wedi marw.

Ynn yw 60 y cant o goed gwrychoedd; mae prysgoedio neu osod coed ynn yn eu gwneud yn fwy agored i haint ac felly dylid osgoi gwneud hyn. Cadwch goed oni bai fod diogelwch yn broblem a, lle mae coed yn cael eu symud am resymau diogelwch, dylid nodi coed newydd i’w tyfu a chymryd eu lle.

Os ydych yn derbyn taliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin, yna dylech sicrhau eich bod yn cydymffurfio â gofynion trawsgydymffurfedd.

Opsiynau os oes cennau prin yn bresennol

Ym Mhrydain, mae 78 o rywogaethau o gennau dan fygythiad yn tyfu ar goed onnen, ac mae gan 34 o’r rhain goed ynn fel math o goed cynhaliol ‘arwyddocaol’.

Mae’r mwyafrif o’r cennau prin hyn yn tyfu ar foncyffion ynn aeddfed (mwy na 50cm o gylchedd), yn hytrach nag ar goed ifanc neu ar ganghennau neu frigau.

Mae pedair rhywogaeth o gennau Lobaria wedi’u nodi fel rhai o arwyddocâd allweddol i fioamrywiaeth yng Nghymru o dan adran 7 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Mae cennau Lobaria yn fawr iawn, gan ffurfio darnau o faint soser neu hyd yn oed blât cinio. Maent yn wyrdd llachar pan fyddant yn llaith ac yn llwyd neu'n llwyd-frown pan fyddant yn sych. Os credwch eich bod wedi dod o hyd i goeden onnen gyda Lobaria, ceisiwch gyngor arbenigol.

Mae map rhybuddio ar gyfer cennau ynn ar gael ar wefan DataMapCymru ac mae’n nodi lleoliadau hysbys cennau prin ar goed ynn.

Ni ddylai presenoldeb cen prin ar goeden onnen mewn ardaloedd risg uchel atal rheolaeth. Argymhellir y dull gweithredu canlynol, yn enwedig yn achos ein rhywogaethau prinnaf o gennau:

  • Lle bo modd, cadw'r tri metr isaf oherwydd bod y rhan fwyaf o gytrefi cennau prin hysbys i'w cael ar rannau isel/canol y boncyff hyd at yr uchder hwn.
  • Os oes angen cwympo’r goeden, gadael y boncyff yn gorwedd yn y fan a’r lle, gyda'r cen prin yn wynebu i'r ochr, i ymestyn presenoldeb y cen nes bod y rhisgl yn disgyn ac i roi ychydig o flynyddoedd ychwanegol ar gyfer cytrefu coed eraill neu drawsleoli.

Os na chaiff coeden onnen sy'n cynnal cen prin ei nodi fel un sydd mewn ardal risg uchel, yna ceisiwch ei chadw.

Caniatadau a thrwyddedau

Darperir gwybodaeth a chanllawiau ar ganiatadau a thrwyddedau y gall fod eu hangen wrth wneud gwaith adfer neu arferion rheoli addasol ar ein gwefan.

Trwyddedau cwympo coed

Dylech wirio y dudalen hon yn gyntaf: Gwiriwch a oes angen trwydded cwympo coed arnoch.

Mae rhai eithriadau i drwyddedau cwympo coed, gan gynnwys ar gyfer coed peryglus, a allai fod yn berthnasol i goed yr effeithir arnynt gan glefyd coed ynn. Mae coeden yn beryglus lle ceir perygl go iawn ac uniongyrchol, yn hytrach na pherygl ymddangosiadol.Os cewch eich herio, bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth bod y coed yn beryglus, er enghraifft trwy adroddiad tyfwr coed achrededig neu dystiolaeth ffotograffig.

Gall cwympo coed heb drwydded arwain at gosbau.

Os ydych yn gwneud cais am drwydded cwympo coed ar gyfer gwaith mewn Coetir o Werth Mawr i Natur, mae’n debygol y bydd angen i chi ddarparu rhagor o fanylion i sicrhau bod y safleoedd pwysig hyn yn cael eu rheoli’n briodol. Gallai hyn gynnwys rhoi sylw i amseriad y gwaith i leihau cywasgu pridd a lleihau aflonyddwch. Mae'n rhaid i chi hefyd allu esbonio'r rhesymeg dros y bwriad i gwympo’r coed, yn enwedig os bwriedir eu llwyrdorri, gan y dylid ystyried hyn fel y dewis olaf ar gyfer Coetiroedd o Werth Mawr i Natur.

Mae trwydded cwympo coed yn rhoi caniatâd i dorri coeden yn unig ac nid yw’n mynd i’r afael â'r broses o echdynnu, pentyrru, storio neu gludo pren, na materion bioddiogelwch. Dylech gyfeirio at Safon Coedwigaeth y Deyrnas Unedig a'r canllawiau arfer cysylltiedig ar gyfer gofynion cyfreithiol ac arfer da ac ar gyfer canllawiau sy'n berthnasol i’r gwaith ehangach o reoli coedwigoedd yn gynaliadwy.

Coed a warchodir

Coed a warchodir yw'r rhai sydd wedi'u cynnwys mewn gorchymyn cadw coed neu ardal gadwraeth. Oni bai bod y gwaith ydych chi’n ei gynnig yn dod o dan esemptiad bydd angen trwydded gwympo coed arnoch; a rhaid ichi ymgynghori â’r Awdurdod Cynllunio Lleol. Darperir canllawiau yma.

Rhywogaethau a warchodir

Bydd angen i chi ystyried effaith gwaith adfer neu arferion rheoli addasol ar fywyd gwyllt, gan gynnwys ar rywogaethau a warchodir.

Rydym wedi cyhoeddi canllawiau ar ddiogelu bywyd gwyllt yn ystod gweithrediadau coedwigaeth. Os gallai gwaith ar goed effeithio’n andwyol ar Rywogaeth a Warchodir gan Ewrop, sy’n cynnwys unrhyw rywogaeth o ystlumod, y pathew, y fadfall ddŵr gribog a dyfrgwn, efallai y bydd angen trwydded arnoch o dan Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017. Dylech ddilyn ein canllawiau ar drwyddedu rhywogaethau. Os yw eich asesiad risg yn nodi bod angen gweithredu ar frys a’i fod yn debygol o darfu ar neu niweidio man gorffwys Rhywogaeth a Warchodir gan Ewrop, cysylltwch â thîm Trwyddedu Rhywogaethau CNC ynghylch cais am drwydded rhywogaeth.

Safleoedd gwarchodedig

Bydd angen i chi ymgynghori â ni os ydych yn bwriadu cyflawni, neu achosi neu ganiatáu, gweithrediadau sy'n debygol o niweidio diddordeb arbennig SoDdGA. Fel rhan o hysbysiad SoDdGA, rhoddir rhestr o weithrediadau sy'n debygol o niweidio'r diddordeb arbennig sy'n benodol i'r SoDdGA unigol i berchnogion a deiliaid.

Mae gennym ganllawiau gyfrifoldebau perchnogion a deiliaid SoDdGA, a dylid cyfeirio at gyfrifoldebau cyrff cyhoedus ac ymgymerwyr statudol mewn perthynas â SoDdGA.

Lle gallai safleoedd a ddiogelir gan gyfraith Ewrop gael eu heffeithio, efallai y bydd angen Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd o dan Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 (fel y’i diwygiwyd). Mae’r sefydliad sy’n gyfrifol am gynnal Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd yn dibynnu ar y math o ganiatâd sydd ei angen o dan y Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad.

Coed Ymyl y Ffordd

Os cyhoeddir hysbysiad ffurfiol gan Awdurdod Lleol o dan Ddeddf Priffyrdd 1980 sy'n nodi coeden beryglus/coed peryglus, byddai'r hysbysiad hwn yn rhoi esemptiad o'r angen am Drwydded Gwympo ar gyfer y coed penodol hynny, ond nid ar gyfer coed eraill yn yr ardal oddi amgylch, er enghraifft coed cyfagos ar hyd ymyl gwrych sy'n ffinio â ffordd neu lwybr troed.  Os byddwch yn derbyn hysbysiad Awdurdod Lleol, efallai y bydd angen i chi ddod i ddealltwriaeth glir gyda'r Awdurdod at ba goed penodol y mae'r hysbysiad yn cyfeirio. Bydd yr hysbysiad ond yn darparu tystiolaeth o esemptiad ar gyfer y coed penodol a nodwyd. Mewn unrhyw amgylchiadau eraill, perchennog y tir sy’n ysgwyddo’r cyfrifoldeb o ddangos bod coeden/coed yn peri risg gwirioneddol ac uniongyrchol a'u bod wedi'u heithrio rhag yr angen am Drwydded Gwympo.

Gall Awdurdod Lleol anfon llythyr atoch yn rhoi gwybod i chi fod coed ynn a allai fod wedi eu heintio ar eich tir ac y gallech dderbyn hysbysiad. Nid ydym yn ystyried bod y llythyr hwn yn dystiolaeth ddigonol fod y coed wedi'u heithrio rhag bod angen Trwydded Gwympo.

Gweithrediadau – iechyd a diogelwch

Os oes clefyd coed ynn yn bresennol, gall y clefyd a phlâu neu bathogenau eilaidd effeithio'n ddifrifol ar integredd adeileddol a chryfder cynhenid coeden onnen. Gall y rhain greu amodau cwympo risg uchel i unrhyw weithredwyr sy'n gweithio ar y goeden honno neu'n gyfagos iddi.

Dim ond meddygon coed neu weithwyr coedwigaeth hyfforddedig a phrofiadol ddylai wneud gwaith ar goed ynn sy'n dangos symptomau clefyd coed ynn amlwg neu arwyddion uwch o glefyd coed ynn.

O ystyried yr anhawster o asesu integredd adeileddol a chryfder cynhenid coeden onnen yr effeithiwyd arni, rydym yn argymell cymryd dull gweithredu rhagofalus wrth reoli goblygiadau iechyd a diogelwch posibl. Mae cwympo coed â pheiriant neu ddefnyddio peiriant cynaeafu neu wellau coed yn rhoi mwy o amddiffyniad i weithredwyr na chwympo/tocio â llif gadwyn. Gall mynediad at goed heintiedig bennu’r dull gweithredu ac felly dylanwadu ar eich penderfyniadau rheoli.

Mae canllawiau iechyd a diogelwch pellach ar gwympo coed ynn marw yn cael eu cyhoeddi gan y sector coedwigaeth trwy Gytgord Diogelwch Diwydiant Coedwigaeth y DU (UKFISA) a hefyd y Gymdeithas Coedyddiaeth

Mesurau lliniaru

O dan Gam 3, bydd angen i chi ystyried cynlluniau ar gyfer gwaith plannu newydd yn eu lle. Fel arfer bydd trwydded gwympo yn un amodol sy'n golygu y bydd angen i ail-stocio ddigwydd un ai drwy ailblannu neu adfywio, er mwyn cynnal gorchudd coed yn y dirwedd leol. Mae methu â chydymffurfio ag amodau ailstocio trwydded gwympo coed yn drosedd o dan y Ddeddf Coedwigaeth (1967).

Dylai eich penderfyniadau ailstocio ynghylch rhywogaethau amgen addas i gymryd lle coed ynn gael eu llywio gan y canlynol:

  • eich amcanion rheoli
  • amodau'r safle, gan gynnwys y math o bridd
  • statws dynodiad y safle
  • y gwasanaethau ecosystemau yr oedd coed ynn yn eu darparu yn flaenorol
  • gallu i wrthsefyll plâu a chlefydau yn y dyfodol

Mae canllawiau ar ddewis rhywogaethau i gymryd lle coed ynn a waredwyd ar gael gan Forest Research. Os yw’r safle wedi’i ddynodi at ddibenion cadwraeth (ee SoDdGA, ACA neu AGA), efallai y bydd arnoch angen cyngor arbenigol neu ganiatâd gan CNC i helpu i lywio eich penderfyniadau ailstocio.

Gellir defnyddio offeryn Dosbarthiad Safle Ecolegol (ESC) Forest Research i ymchwilio i addasrwydd rhywogaeth ar gyfer safle, a bydd hwn yn eich helpu i ystyried yr opsiynau o ran newid hinsawdd yn y tymor hwy. Gellir hefyd ystyried rhywogaethau estron ar gyfer safleoedd heb lawer o gyfyngiadau, gan ddefnyddio cronfa ddata rhywogaethau coed Forest Research.

Mae dewis stoc briodol hefyd yn hanfodol wrth sefydlu llawer o rywogaethau coed, os nad pob un, yn llwyddiannus, ond yn aml caiff hyn ei anwybyddu. Mae ein canllawiau ar wella amrywiaeth enetig coetiroedd Cymru yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol. Fel arall, gallai hyrwyddo aildyfiant naturiol o goed ynn lleol (yn y lle iawn) gefnogi datblygiad straeniau goddefgar. Pan fydd coed ynn wedi bod yn brif elfen mewn coetir, byddwn yn cyflwyno hyblygrwydd i'r amodau ailstocio er mwyn cefnogi rhywfaint o waith adfywio coed ynn. Fodd bynnag, ni argymhellir defnyddio egin y coed heintiedig gan fod y clefyd yn parhau i fodoli yn y gwreiddiau, felly mae’r ail-dyfiant hefyd yn debygol o fod wedi ei heintio.

Cam 4: Adolygu

Gall newidiadau yng nghyflwr coed yr effeithir arnynt gan glefyd coed ynn ddigwydd yn gyflym. Adolygwch eich dull gweithredu mewn dolen adborth barhaus, gan fynd yn ôl i Gam 1, sy'n gofyn am fonitro coed ynn a chamau gweithredu dilynol os oes angen.

Dolenni defnyddiol

NE_FC_Ash_dieback_SSSI_management_advice_V2_April_19.pdf (publishing.service.gov.uk)

Diweddarwyd ddiwethaf