Cwblhau adolygiad Blwyddyn 5 o’r cynllun rheoli coedwig
Cwblhewch a chyflwynwch ffurflen adolygu i ymestyn eich cynllun rheoli coedwig am bum mlynedd arall o weithrediadau (blynyddoedd 5 i 10 o ddyddiad y cymeradwyaeth wreiddiol).
Pryd i gyflwyno eich adolygiad
Anfonwch eich adolygiad atom chwech i ddeuddeg mis cyn i'ch cynllun gyrraedd ei ddyddiad dod i ben. Gallwch ddod o hyd i'r dyddiad hwn yn eich cytundeb rheoli tir.
Sut i gynnal adolygiad o'ch cynllun
Cwblhewch ffurflen adolygu Blwyddyn 5 a'i hanfon drwy e-bost i'r cyfeiriad ar y ffurflen. Byddwn yn gofyn i chi ddarparu’r canlynol:
- y camau gweithredu rydych chi wedi'u cymryd dros y pum mlynedd diwethaf i weithio tuag at eich amcanion hirdymor
- diweddariad ar eich rhaglen waith a gyflwynwyd, gan gynnwys rhesymau dros unrhyw wahaniaeth neu newidiadau i'ch rhaglen waith
- diweddariad o unrhyw amodau eraill yn eich cynllun, e.e. yn seiliedig ar waith monitro rydych chi wedi ymgymryd ag ef
Lawrlwythwch ffurflen adolygu Blwyddyn 5
Os hoffech chi newid eich rhaglen waith ar gyfer blynyddoedd 5 i 10
I adolygu eich rhaglen waith ar gyfer blynyddoedd 5 i 10, bydd angen i chi anfon y canlynol atom hefyd:
- rhaglen waith wedi'i diweddaru
- mapiau wedi'u diweddaru
Yn dibynnu ar natur eich newidiadau, efallai y bydd angen gwiriadau rheoleiddiol pellach gennym ni ac efallai y bydd angen i'ch rhaglen waith fynd yn ôl ar y gofrestr gyhoeddus.
Ymweliadau â’r safle
Efallai y byddwn yn gofyn am gyfarfod ar y safle. Pan fo modd, byddwn yn rhoi rhybudd rhesymol i chi.
Rhaid i chi ganiatáu i ni, ein swyddogion a'n hasiantau awdurdodedig gael mynediad i'ch uned rheoli coedwig ar bob adeg resymol. Bydd ein harolygwyr yn cario awdurdodiad ysgrifenedig y byddant yn ei gyflwyno i chi ar eich cais.
Caniatadau eraill
Y tu hwnt i gwmpas eich cynllun rheoli coedwig, bydd angen i chi ystyried unrhyw drwyddedau a chaniatadau eraill sydd gennych a allai ddod i ben ar adeg wahanol i'ch cynllun rheoli coedwig cymeradwy, megis:
- Mae cydsyniad asesiad o'r effaith amgylcheddol yn para am bum mlynedd
- Mae cydsyniad Gorchymyn Datblygu Cyffredinol a Ganiateir gan eich awdurdod cynllunio lleol yn para am bum mlynedd
Ein penderfyniad
Mae ein penderfyniad i ymestyn cymeradwyaeth reoleiddiol yn benderfyniad a wneir y ôl disgresiwn ac yn ddibynnol arnoch chi’n dangos bod eich amcanion, eich gweithgareddau yr adroddwyd amdanynt a'ch mesurau llwyddiant ym mlynyddoedd 1 i 5 wedi'u cyflawni mewn ffordd foddhaol i ni, yn unol â Safonau Coedwigaeth y DU a gofynion rheoleiddiol.
Er enghraifft, dim ond os yw llennyrch presennol wedi'u hailstocio o fewn amserlen briodol a bod risgiau neu fygythiadau wedi'u rheoli'n briodol y gellir cymeradwyo gweithrediadau llwyrgwympo a gynlluniwyd ar gyfer y pum mlynedd nesaf.
Os byddwn yn cytuno i ymestyn eich cynllun am bum mlynedd arall, byddwch yn gallu ystyried diwygiadau technegol i'ch helpu i reoli'r coetir yn seiliedig ar y tabl goddefiannau sydd wedi'i gynnwys gyda'ch cytundeb rheoli tir.
Adolygiad Blwyddyn 10
Unwaith y bydd eich cynllun rheoli coedwig yn cyrraedd deg mlynedd o'r dyddiad cymeradwyo gwreiddiol, bydd angen i chi ailymgeisio am gynllun rheoli coedwig newydd ar gyfer y pum i ddeg mlynedd canlynol.