Mae AGA arfaethedig Northern Cardigan Bay / Gogledd Bae Ceredigion yn cynnwys y rhan fwyaf o Fae Tremadog, gan ymestyn oddi wrth y lan ger Cricieth yn y gogledd tua’r dyfroedd oddi ar Aberystwyth yn y de. Ystyrir bod y safle yn gymwys fel AGA ar sail y boblogaeth o drochyddion gyddfgoch sydd yn gaeafu yma. Er bod hon yn AGA arfaethedig newydd, mae mwyafrif y safle yn gorwedd oddi mewn i Ardal Gadwraeth Arbennig bresennol Pen Llŷn a’r Sarnau.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Map PDF [2.4 MB]
Asesiad Effaith Ddrafft PDF [381.7 KB]