Canlyniad yr ymgynghoriad hwn

Daeth yr ymgynghoriad hwn i ben ar 3 Mai 2016. Cafodd ein hadroddiadau terfynol ar yr ymgynghoriad eu cwblhau a’u cyflwyno i Lywodraethau Cymru a’r DU ym mis Medi a mis Hydref 2016. Ar ôl ystyried yr holl ymatebion yn ofalus, aethom ati i argymell i Lywodraethau Cymru a’r DU y dylid cytuno ar yr Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) arfaethedig ar gyfer llamidyddion a’r Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (AGA) morol arfaethedig, ac y dylid ymgynghori yn eu cylch. Mae copïau o adroddiadau’r ymgynghoriad ar gael yn awr. 

Ar ôl ystyried ein hargymhellion, mae Gweinidogion Cymru wedi cytuno i wneud y canlynol:

- cyflwyno’r tri safle ar gyfer llamidyddion o amgylch Cymru i’r Comisiwn Ewropeaidd fel ymgeiswyr am ACA

- dosbarthu’r tri chynnig 

Bydd y dogfennau diweddaraf ar gyfer y safleoedd hyn (gan gynnwys mapiau a dogfennau dynodi ffurfiol) i’w cael cyn bo hir ar ein gwe-dudalen ‘Safleoedd Dynodedig’. Yn y cyfamser, gellir parhau i gael gafael isod ar yr wybodaeth a gyhoeddwyd ar gyfer yr ymgynghoriad y llynedd.

Ymhellach, mae mwy o wybodaeth i’w chael ar wefan JNCC 

Dynodir ACA ac AGA o dan Gyfarwyddebau'r UE sy'n anelu at warchod bioamrywiaeth ar draws yr Undeb Ewropeaidd. Gyda'i gilydd mae ACA ac AGA yn ffurfio rhwydwaith o safleoedd a elwir yn 'Natura 2000'. Mae'r rhwydwaith Natura 2000 yn cynnwys dros 27,000 o safleoedd dynodedig sy'n cwmpasu ardaloedd o dir a môr yn holl aelod-wladwriaethau'r UE.

Cyfrifoldeb Gweinidogion Cymru yw dynodi ACA ac AGA yng Nghymru a dyfroedd tiriogaethol Cymru. Mae CNC yn cynghori Gweinidogion ar nodi safleoedd, ac yr ydym yn awr yn cynnal yr ymgynghoriad hwn ar eu rhan. Nid oes unrhyw benderfyniadau wedi'u gwneud eto ynghylch a ddylid dynodi’r ardaloedd hyn, ond os cânt eu dynodi, byddant yn dod yn rhan o gyfraniad Cymru i’r rhwydwaith Natura 2000, gan ymuno â sawl ACA ac AGA morol yn y gyfres bresennol.

Mae rhai o’r safleoedd sy’n destun yr ymgynghoriad hwn yn gorwedd yn rhannol yn nyfroedd tiriogaethol Lloegr ac mewn dyfroedd alltraeth, sydd yn gyfrifoldeb llywodraeth y DU. Ceir hefyd safleoedd arfaethedig eraill yn nyfroedd Lloegr a Gogledd Iwerddon ac mewn dyfroedd alltraeth, a maent yn destun ymgynghoriad gan y Cyd-bwyllgor Gwarchod Natur (JNCC). Fe wnawn ddwyn eich sylw at y dolen gwe perthnasol i’r JNCC.

Yr ydym yn annog pawb i ddarllen y papur ymgynghori cyn ymateb, gan fod hwn yn egluro mewn mwy o fanylder destun yr ymgynghoriad a sut i ymateb, ac yn rhoi arweiniad i’r nifer fawr o ddogfennau sy’n ffurfio rhan o’r ymgynghoriad yma.

Dogfennau sydd yn berthnasol i bob safle arfaethedig:

Dogfennau sydd yn berthnasol i’r Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) arfaethedig ar gyfer y llamhidydd:

Dogfennau sydd yn berthnasol i’r Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (AGA) arfaethedig ar gyfer adar môr

Gwefannau Eraill