Mae hynny o ganlyniad i nifer o newidiadau i’r gyfraith.

Mae’r newidiadau’n cynnwys:

  • newidiadau i’r Rhestr Wastraff (neu Gatalog Gwastraff Ewropeaidd)
  • adolygiad mawr o nodweddion peryglus, a
  • mabwysiadu system newydd o ddosbarthu cemegol

O ganlyniad, mae’n rhaid i ni ddiweddaru ein canllawiau ynghylch ddosbarthu gwastraff.

Beth sy’n newid a pham?

Mae asesu a dosbarthu Gwastraff yn seiliedig ar – Penderfyniadau’r Rhestr Wastraff (2000/532/EC) ac Anecs III y Gyfarwyddeb Wastraff (2008/98/EC).

Mae’r rhain yn eu tro’n dibynnu ar ddeddfwriaeth gemegol i gael gwybodaeth ynghylch cemegolion - Cyfarwyddeb Sylweddau Peryglus (67/548/EC), a Chyfarwyddeb Paratoadau Peryglus (1999/45/EC).

Mae’r ddeddfwriaeth gemegol yn cael ei disodli gan Reoliad Dosbarthu, Labelu a Deunydd Pacio (2008/1272/EC). Mae hyn yn cyflwyno system newydd o ddosbarthiad cemegol yn seiliedig ar ddosbarthiadau, categorïau a chodau datganiad o berygl (yn hytrach nag ar gymalau risg a chategorïau o berygl).

Mae Anecs III o’r Gyfarwyddeb Gwastraff wedi’i newid i:

  • Ddiwygio nodweddion peryglus i gyd-fynd â’r Rheoliad Dosbarthu, Labelu a Deunydd Pacio, a
  • Darparu meini prawf gwastraff peryglus yn seiliedig ar godau datganiad o berygl

Mae’r Rhestr Wastraff (neu Gatalogau Gwastraff) hefyd wedi’i newid i:

  • Gyd-fynd â’r Rheoliad Dosbarthiad, Labeli a Deunydd Lapio ac Anecs III,
  • cynnwys meini prawf am lygryddion organig parhaus, a
  • Gwneud gwelliannau’n codi o adolygiad o’r Rhestr ei hunan

Ynghylch beth ydyn ni’n ymgynghori?

Mae’n rhaid i ni ddiweddaru’r canllawiau presennol ar ddosbarthu ac asesu gwastraff i gyd-fynd â’r newidiadau hyn.

Y canllaw presennol yw Canllaw Technegol WM2. Rydyn ni wedi’i ddiweddaru i gynnwys y newidiadau cyfreithiol ac wedi paratoi un newydd sef ‘Canllaw Technegol WM3’. Mae’r ymgynghoriad hwn ynghylch y newidiadau rydyn wedi’u cynnwys ynddo.

Mae’r prif feysydd newid yn cynnwys:

  • Pennod 2 sy’n darparu’r fframwaith ar gyfer asesu
  • Atodiad A sy’n cynnwys y newidiadau i’r rhestr wastraff, ac
  • Atodiad B sy’n cynnwys yr wybodaeth i helpu canfod dosbarthiad cemegolyn
  • Atodiad C sy’n cynnwys y meini prawf newydd ar gyfer nodweddion peryglus

Ddyn ni ddim yn ymgynghori ar:

  • y rhannau o’r canllaw presennol sydd heb eu newid, na’r
  • ddeddfwriaeth sy’n gofyn am y newidiadau hyn

Rydyn ni eisiau’ch sylwadau chi

Rydyn ni’n meddwl y bydd yr ymgynghoriad hwn o ddiddordeb penodol i unrhyw un sydd â chyfrifoldeb dros wastraff. Mae hynny’n cynnwys busnesau sy’n cynhyrchu gwastraff, cwmnïau sy’n casglu, ailgylchu, adfer neu’n gwaredu gwastraff, ymgynghorwyr, broceriaid a chymdeithasau masnach.

Fe hoffen ni glywed eich meddyliau, eich sylwadau a’ch barn ar y newidiadau, sy’n cael eu hamlinellu uchod, rydyn ni wedi’u gwneud i’r meysydd yn y canllaw .

Sut i ymateb

Bydd yr ymgynghoriad hwn yn cychwyn ar 1 Tachwedd 2014 ac yn rhedeg am gyfnod o 13 wythnos tan 31 Ionawr 2015.

Dogfen rheoleiddwyr ar y cyd yw hon gydag Asiantaeth yr Amgylchedd yn cynnal yr ymgynghoriad ac yn derbyn yr ymatebion yng Nghymru.

Gallwch weld y dogfennau ymgynghori a’r cwestiynau ar wefan Asiantaeth yr Amgylchedd, ac yno hefyd mae cyfarwyddiadau ar gyflwyno’ch ymateb ar lein neu drwy e-bost a thrwy’r post.