Ymgynghoriad ar Gynllun Marchnata Pren ar gyfer y cyfnod 2016-2021
Mae’r ymgynghoriad hwn bellach wedi cau.
Trwy gyfrwng yr ymgynghoriad hwn rydym yn ceisio eich barn a’ch sylwadau ynghylch cynigion i ddatblygu ein Cynllun Marchnata Pren ar gyfer y cyfnod 2016-2021.
Mae’r Cynllun Marchnata Pren yn ymwneud â chynaeafu a marchnata pren ar Ystâd Coetiroedd Llywodraeth Cymru, yr ydym ni’n gyfrifol am ei rheoli.
Mae’r pren a gynhyrchwn yn cyfrannu miliynau o bunnoedd at economi Cymru, gan gynnal miloedd o swyddi’n uniongyrchol; ond rydym angen sicrhau mwy nag enillion masnachol gan ein gweithgareddau rheoli coedwigoedd. Caiff Ystad Coetiroedd Llywodraeth Cymru ei rheoli’n unol â’r egwyddor rheoli coedwigoedd yn gynaliadwy, a hefyd rydym yn gweithio’n galed i wella cynefinoedd ar gyfer rhywogaethau coetir, gwella ansawdd dŵr dalgylchoedd coediog, a darparu lleoedd deniadol ar gyfer hamdden a chyfranogiad cymunedol. Mae ein gweithrediadau cynaeafu a marchnata pren yn dylanwadu ar ein gallu i gyflawni’r amcanion ehangach hyn.
Hoffem glywed eich barn ynghylch pa un a yw ein cynigion yn pennu’r cyfeiriad priodol ar gyfer ein gweithrediadau cynaeafu a marchnata dros y pum mlynedd nesaf. Rydym eisiau clywed eich barn ynghylch y cynllun presennol, y meysydd sy’n bwysig i chi, a sut y dylem fwrw ymlaen.
Sut i ymateb
Defnyddiwch y ffurflen ymateb ar ein gwefan i roi gwybod inni beth yw eich barn. Gallwch anfon y ffurflen ymateb atom i’r cyfeiriadau canlynol:
E-bost
sfmt@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk neu
sfmt@naturalresourceswales.gov.uk
Post
Michelle van-Velzen
Cyfoeth Naturiol Cymru
Adeilad Llywodraeth Cymru
Rhodfa Padarn
Aberystwyth
Ceredigion
Cyhoeddi canlyniadau ein hymgynghoriad
Rydym wedi cynhyrchu Adroddiad Cryno o Ymatebion i’r Ymgynghoriad Cyhoeddus. Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi’r ymatebion i’r ymarfer ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol a sut yr ydym yn ymateb i’r sylwadau a’r adborth a dderbyniwyd. Bellach mae’n debygol y byddwn yn cyhoeddi Datganiad Marchnata Pren Interim blwyddyn ar gyfer 2016-17, ac yna Cynllun Marchnata Pren pum mlynedd ar gyfer y cyfnod 2017-22. Hoffem ddiolch i bawb a gymerodd amser i ymateb i’r ymgynghoriad.