Caiff Asesiadau o Sensitifrwydd y Dirwedd eu defnyddio mewn cynllunio gofodol i helpu i lywio datblygiadau neu newidiadau i sut caiff y tir ei reoli ar gyfer lleoliadau llai sensitif yn y dirwedd. 

Maent yn nodi a fyddai cymeriad y dirwedd yn fwy tebygol o gael ei effeithio’n wael neu’n llai sensitif i’r math o newid ac a allai hynny effeithio ar werth y dirwedd. 

Maent yn cynorthwyo gyda chynllunio strategol ar gyfer datblygu’r seilwaith – er enghraifft, ynni adnewyddadwy, y seilwaith ynni, a dyraniadau tir ar gyfer tai a chyflogaeth.  

Cânt eu cynnal yn ystod camau cynnar cynllunio, fel arfer cyn i gynigion a safleoedd penodol ar gyfer datblygiadau gael eu gwneud. Mae Awdurdodau Cynllunio Lleol yn eu defnyddio’n aml wrth baratoi eu Cynlluniau Datblygu Lleol. 

Mae ein canllawiau’n disgrifio sut mae Asesiadau o Sensitifrwydd y Dirwedd

  • yn ffitio i broses cynllunio gofodol 
  • yn cael eu comisiynu, eu cynnal neu eu hadolygu

Mae ein dull wedi’i deilwra ar gyfer Cymru, ond mae’n dilyn egwyddorion tebyg i ganllawiau yn Lloegr a’r Alban. 

Os oes unrhyw gwestiynau gyda chi am y canllaw hwn, gallwch gysylltu â ni yn:

Ebost: tirwedd@cyfoethnaturiol.cymru 

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Diweddarwyd ddiwethaf