Adeiladu mewn ardaloedd perygl llifogydd
Adeiladu mewn ardaloedd perygl llifogydd
Os ydych yn cynllunio datblygiad:
- edrych ar ein Map Cyngor Datblygu i weld os ydy’r safle mewn perygl o lifogydd
- cysylltu â’ch Awdurdod Cynllunio Lleol am gyngor am eich cynnig
- paratoi Asesiad Canlyniadau Llifogydd a dogfennau cefnogol os ydy’ch awdurdod lleol yn dweud bod angen y rhain arnoch
- ymgeisio i ni am unrhyw ganiatadau neu drwyddedau sydd angen (gweler yr adran isod)
- dilyn Nodyn Cyngor Technegol (TAN)15 Llywodraeth Cymru Datblygu a pherygl llifogydd
Dylech chi osgoi cynnig datblygiadau preswyl ym Mharth C2. Serch hynny, efallai gallwch adeiladu strwythurau eraill yn yr ardal hon.
Ein rôl ni yn eich cynigion datblygu
Os ydy’ch cynnig mewn pergyl o lifogydd, bydd eich awdurdod lleol yn cysylltu â ni am gyngor. Mae hwn yn gam hanfodol yn y broses cynllunio achos rydym yn ‘gynghorwyr stadudol’.
Byddwn yn rhoi cyngor i’ch awdurdod lleol am:
- risgiau llifogydd o afonydd a’r môr
- os ydy’ch Asesiad Goblygiad Llifogydd a’r dogfennau cefnogol yn dderbyniol ac yn gywir yn dechnegol
- os ydy’ch cynigion yn diwallu gofynion Polisi Cynllunio Cymru a Nodyn Cyngor Technegol 15
Dydyn ni ddim yn rhoi cyngor am:
- risg llifogydd o ddŵr wyneb a draenio
- risg o gyrsiau dŵr bach
- risg erydu arfordirol
- llifogydd dŵr daear
- cynlluniau argyfwng
- trefniadau a mesurau i ddod i’r afael â difrod strwythurol a all ddigwydd oherwydd llifogydd
Dysgwch fwy am ein rôl mewn cynllunio a datblygu.
Trwyddedau a chaniatadau eraill
Yn ogystal â’ch caniatâd cynllunio ar gyfer eich cynnig, efallai bydd rhaid i chi ymgeisio i ni am drwyddedau a chaniatadau eraill.
Mae hyn er mwyn gwneud yn siŵr na fydd eich datblygiad yn ymyrryd gyda’r asedau rheoli risg llifogydd neu wneud niwed i’r amgylchfyd, pysgodfeydd neu fywyd gwyllt lleol.
Rhaid i chi ymgeisio i ni am drwydded gweithgarwch risg llifogydd os ydych am ddatblygu:
- ar brif afon neu’n agos iddi
- ar amddifynfeydd rhag llifogydd neu’n agos iddynt
- ar amddifynfeydd rhag y môr neu’n agos iddynt
- mewn gorlifdir
Cysylltwch â ni i weld os oes angen trwyddedau a chaniatadau eraill. Gall fod tâl am y gwasanaeth hwn.
Gallwch chi fod yn torri’r gyfraith os ydych chi’n dechrau gwaith heb gael y trwyddedau a chaniatadau angenrheidiol.