Setiau data ecoleg forol ar gyfer datblygiadau morol
Canllawiau ar setiau data i ddatblygwyr eu defnyddio i gefnogi cais am ddatblygiad arfaethedig
Pryd y dylid defnyddio setiau data
Rydym yn argymell eich bod yn ystyried setiau data penodol os bydd angen i chi ddefnyddio data ecoleg forol i gefnogi cais am ddatblygiad neu weithgaredd arfaethedig a allai gael effaith ar amgylchedd morol Cymru.
Mae'r setiau data yn debygol o fod yn fwyaf defnyddiol yn ystod cyfnod cwmpasu unrhyw broses asesu ecolegol y mae'n rhaid i chi ymgymryd â hi er mwyn penderfynu a oes risg o effaith anffafriol ar safle neu rywogaeth warchodedig, neu risg o effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd ehangach.
Cyfrifoldebau datblygwyr
Fel datblygwr, eich cyfrifoldeb chi yw egluro a dod o hyd i'r data a'r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i gefnogi'ch cais am unrhyw ganiatâd(au) sydd eu hangen arnoch ar gyfer eich datblygiad neu weithgaredd arfaethedig, ac unrhyw asesiad ecolegol y bydd angen i chi ei gynnal.
Yn dibynnu ar eich gofynion data a gwybodaeth, efallai y bydd angen i chi wneud y canlynol:
- chwilio am ddata, arolygon ac adroddiadau a gynhyrchir ac a gedwir gan sefydliadau, cwmnïau ac ymchwilwyr eraill
- comisiynu casglu data ychwanegol
Darllenwch y canllawiau
Canllawiau ar setiau data ecoleg forol ar gyfer datblygiadau a gweithgareddau morol. (PDF Saesneg in unig)