Canllawiau ar ychwanegu nodweddion ecolegol at strwythurau arfordirol
Os ydych chi'n cynllunio, adeiladu, uwchraddio neu gynnal seilwaith arfordirol i wella bioamrywiaeth, gall ein canllawiau gwella nodweddion ecolegol arfordirol ar strwythurau amddiffyn arfordirol ac asedau helpu.
Mae'r canllawiau hyn wedi'u bwriadu ar gyfer sefydliadau sy'n berchen ar, sy’n rheoli, dylunio neu ddarparu seilwaith arfordirol a morydol, gan gynnwys:
- awdurdodau rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol
- porthladdoedd a harbyrau
- awdurdodau lleol
- datblygwyr
- ymgynghorwyr
Mae'n cwmpasu asedau arfordirol newydd a rhai cyfredol.
Bydd y canllawiau yn eich helpu i:
- nodi cyfleoedd i wella bioamrywiaeth ar asedau arfordirol
- dewis nodweddion gwella addas ar gyfer gwahanol fathau o seilwaith arfordirol
- asesu amodau'r safle a gosod amcanion y prosiect
- deall y gofynion o ran caniatâd, trwyddedu a rheoleiddio
- monitro canlyniadau a gwerthuso llwyddiant
- dysgu o enghreifftiau yng Nghymru ac mewn mannau eraill yn y DU
Mae'r canllawiau yn cefnogi gwneud penderfyniadau trwy eich helpu i ystyried manteision bioamrywiaeth ochr yn ochr â gofynion peirianneg a chostau rheoli asedau hirdymor.
Diweddarwyd ddiwethaf