Tanysgrifiwch i’n cylchlythyr Materion Pren

Camau diogelwch

Fel rhan o’n camau diogelwch, mae’r Tîm Gwerthu a Marchnata yn gweithredu llinell anfon ganolog (0300 065 4000).

Dylai’r holl bren sy’n cael ei godi o goetir Llywodraeth Cymru:

  • Gael ei gofnodi ar nodyn cludo (tocyn) dilys.
  • Cael ei awdurdodi drwy ffonio’r llinell anfon i gael rhif PIN cyn i'r llwytho ddechrau.

Dogfennau defnyddiol

Disgwylir i'r holl gludwyr sy'n gweithredu yng nghoetiroedd Llywodraeth Cymru ddilyn y Cod Ymarfer Cludo Pren.

Cau ffyrdd coedwig

Rydym yn hyrwyddo manteision cymdeithasol a chymunedol coetiroedd Cymru yn yr adran Coetiroedd a Chi.

Rydyn ni'n caniatáu i lawer o ddigwyddiadau mawr gael eu cynnal ar ystâd Llywodraeth Cymru. Er mwyn iechyd a diogelwch cludwyr a’r cyhoedd, bydd y tîm Gwerthu a Marchnata yn gosod cyfyngiadau ar gludo coed mewn mannau yng Nghymru lle mae caniatâd wedi’i roi ar gyfer digwyddiadau mawr.

Caiff ffyrdd coedwig eu cau i gludwyr ar yr adegau hyn.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch cau ffyrdd coedwig, cysylltwch â'r ddesg gymorth e-Werthiant Coed.

 

Diweddarwyd ddiwethaf