Fforwm Rheoli Tir Cymru

Pwrpas

Mae Fforwm Rheoli Tir Cymru yn cynnig cyfle i Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a sefydliadau eraill sy’n aelodau o’r Fforwm rannu gwybodaeth, nodi materion sydd o ddiddordeb cyffredin a gweithio gyda’i gilydd mewn ffordd gydweithredol ar faterion rheoli tir strategol.

Y nod yw datblygu dull “dim byd annisgwyl” o ymdrin â materion strategol tra’n sicrhau bod modd ymdrin ag unrhyw ddatblygiadau lleol a chanddynt oblygiadau cenedlaethol mewn modd amserol.

Ymhellach, mae’r Fforwm yn archwilio cyfleoedd i ddatblygu, cefnogi a chyfathrebu negeseuon a rennir a/neu argymhellion ynghylch rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy (SMNR).

Ym mis Ionawr 2017, sefydlodd Fforwm Rheoli Tir Cymru is-grŵp er mwyn canolbwyntio ar daclo llygredd amaethyddol. Gellir cael mwy o wybodaeth am yr is-grŵp 

Aelodaeth

Caiff holl gyfarfodydd Fforwm Rheol Tir Cymru eu cadeirio gan un o Aelodau Bwrdd CNC. Fel arfer, caiff sefydliadau rheoli tir sy’n cymryd rhan yn y Fforwm eu cynrychioli gan ddeiliad swydd etholedig ynghyd â’r arweinydd polisi perthnasol. Mae’r holl sefydliadau a gymer ran yn y Fforwm yn cynrychioli aelodau sy’n uniongyrchol gysylltiedig â rheoli tir. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr Cymru (NFU Cymru)
  • Undeb Amaethwyr Cymru (FUW)
  • Cymdeithas Tir a Busnes Cefn Gwlad Cymru (CLA)
  • Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru (CFfI Cymru)
  • Cymdeithas y Ffermwyr Tenant (TFA)
  • Confor

Bydd yr holl geisiadau i ymuno â Fforwm Rheoli Tir Cymru (fel y’u cyflwynir gan aelod-sefydliadau rheoli tir eraill ac fel y’u derbynnir gan y Cadeirydd) yn cael eu trafod yng nghyfarfod llawn nesaf y Fforwm.

Caiff y cyfarfodydd eu cynnal fel bo’r angen yn hytrach nag yn ôl amserlen benodol, ond yn gyffredinol byddant yn cael eu cynnal 2-3 gwaith y flwyddyn. 

Agendâu a phapurau

Cofnodion cyfarfod mis Rhagfyr hyd yma ar gael ar gais drwy ebostio WLMF.subgroup@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

2023

11 Rhagfyr 2023, Cyfarfod dros Microsoft Teams - Cofnodion

18 Medi 2023, Cyfarfod dros Microsoft Teams - Cofnodion

5 Mehefin 2023, Cyfarfod dros Microsoft Teams - Cofnodion

13 Mawrth 2023, Cyfarfod dros Microsoft Teams - Cofnodion

2022

5 Rhagfyr 2022, Cyfarfod dros Microsoft Teams - Cofnodion

5 Medi 2022, Cyfarfod dros Microsoft Teams - Cofnodion

6 Mehefin 2022, Cyfarfod dros Microsoft Teams - Cofnodion

7 Mawrth 2022, Cyfarfod dros Microsoft Teams - Cofnodion

2021

22 Tachwedd 2021, Cyfarfod dros Microsoft Teams - Cofnodion

6 Medi 2021, Cyfarfod dros Microsoft Teams - Cofnodion

7 Mehefin 2021, Cyfarfod dros Microsoft Teams - Cofnodion

1 Mawrth 2021, Cyfarfod dros Microsoft Teams - Cofnodion

2020

7 Rhagfyr 2020, Cyfarfod dros Skype - Cofnodion

9 Medi 2020, Cyfarfod dros Skype - Cofnodion

11 Mai 2020, Cyfarfod dros Skype - Cofnodion

10 Chwefror 2020, Adeilad Llywodraeth Cymru, Aberystwyth - Cofnodion

2019

13 Rhagfyr 2019, Galwadau Skype - Cofnodion

16 Medi 2019 - Swyddfeydd CNC Aberystwyth - Agenda, Cofnodion

10 Mai 2019 – Swyddfeydd Cyngor Sir Ceredigion, Aberystwyth - Agenda, Cofnodion

6 Chwefror 2019, Tan y Bwlch, CNC, Aberystwyth - Agenda, Cofnodion

2018

11 Hydref 2018, Trawsgoed, CNC, Aberystwyth - Agenda, Cofnodion

Diweddarwyd ddiwethaf