Ildio’ch trwydded i waredu dip defaid gwastraff
Gallwch ganslo eich trwydded neu ran o'ch trwydded unrhyw bryd. Gelwir hyn yn ‘ildio’ eich trwydded. Mae'n rhaid i chi dalu am eich trwydded hyd nes y byddwch yn ei chanslo.
Gallwch ganslo'ch trwydded os nad oes ei hangen arnoch mwyach, er enghraifft os ydych wedi rhoi'r gorau i wneud y gweithgarwch roedd eich trwydded yn ei gwmpasu.
Ffioedd a thaliadau
Bydd angen i chi dalu ffi o £363 i ildio eich trwydded amgylcheddol.
Newid eich trwydded
Nid oes angen i chi ganslo eich trwydded os ydych chi eisiau:
- trosglwyddo eich trwydded i rywun arall
- tynnu enwau pobl oddi ar drwydded
- dileu gweithgarwch o'ch trwydded
I dynnu enwau pobl o drwydded neu weithgarwch o drwydded rydych eisoes â hi, gwnewch gais gan ddefnyddio'r dudalen berthnasol:
Diweddarwyd ddiwethaf