Sut i gael gwared ar ddip defaid gwastraff
Mae dip defaid yn wenwynig iawn ac fe'i dosberthir fel sylwedd peryglus. Mae'n rhaid ei drin, ei storio, a'i waredu yn ofalus er mwyn osgoi llygru’r amgylchedd.
Mae'r dudalen hon yn egluro sut y gallwch gael gwared ar y gwastraff a gynhyrchir ar ôl dipio defaid, a pha ganiatadau sydd eu hangen.
Os hoffech ragor o wybodaeth am yr hyn y dylech ei wneud cyn, yn ystod, ac ar ôl dipio defaid, dilynwch god diogelu dŵr daear Llywodraeth Cymru ar gyfer dip defaid.
Fel arall, os ydych eisiau gwaredu dip defaid sydd wedi’i ddefnyddio ar y tir, mae'n rhaid i chi gael trwydded amgylcheddol. Bydd angen talu ffi er mwyn gwneud cais am y drwydded hon, a bydd ffi flynyddol i gadw'r drwydded. Mae'r drwydded hon yn caniatáu i chi daenu dip gwastraff ar y tir yn ofalus, mewn dull wedi'i reoli.
Mae mwy o wybodaeth am gost y trwyddedau hyn ar y dudalen Ein Taliadau.
Gwaredu mewn cyfleusterau trin gwastraff
Os ydych yn bwriadu cael gwared ar ddip i ffwrdd o'r safle, mae’n rhaid i chi ddilyn y gofynion dyletswydd gofal gwastraff a ddefnyddio cludwr gwastraff cofrestredig. Gall eich cludwr gwastraff hefyd gael gwared ar y canlynol:
- dip defaid crynodedig sydd dros ben
- dip sydd wedi pasio ei ddyddiad darfod
- cynwysyddion gwag, os na allwch eu dychwelyd i'r gwneuthurwr
Efallai y bydd angen i'r rheiny sy'n gweithredu fel gwasanaeth dipio defaid symudol ac yn ymweld â nifer o ffermydd i ddipio defaid, ac sy'n dod â dip gwastraff yn ôl i'w heiddo eu hunain i'w waredu, storio'r dip defaid gwastraff dros dro cyn iddo gael ei gasglu i'w adfer neu ei waredu mewn cyfleuster trin gwastraff.
Os ydych yn dilyn yr amodau isod, gallwch gyflawni'r gweithgaredd storio hwn heb drwydded amgylcheddol ar gyfer gweithrediad gwastraff. Mae'n rhaid i chi gydymffurfio â’r amodau canlynol:
- dylid ond storio dip defaid wedi'i ddefnyddio sydd wedi'i wanhau yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
- dylid dilyn cod diogelu dŵr daear: dip defaid Llywodraeth Cymru
- dylid ond storio hyd at 20 metr ciwbig o ddip defaid gwastraff ar unrhyw un adeg
- dylid ond storio dip defaid gwastraff am hyd at dri mis
- peidio ag achosi risg i ddŵr, aer, priddoedd, planhigion neu anifeiliaid
Mae’n rhaid i chi storio'r dip defaid gwastraff yn y modd canlynol:
- mewn ardal wedi'i byndio â sylfaen anathraidd a all gadw 110% o'r cynhwysydd mwyaf neu 25% o gyfanswm y cyfaint y gellid ei storio, p'un bynnag sydd fwyaf
- o leiaf 10 metr o gwrs dŵr
- o leiaf 50 metr o unrhyw darddell, ffynnon neu dwll turio nad yw'n cael ei ddefnyddio i gyflenwi dŵr at ddefnydd domestig neu i gynhyrchu bwyd
- o leiaf 250 metr o unrhyw darddell, ffynnon neu dwll turio a ddefnyddir i gyflenwi dŵr at ddefnydd domestig neu i gynhyrchu bwyd
- ni ddylid ei storio o fewn parth gwarchod tarddiad dŵr daear 1
Sut i gael gwared ar ddip defaid gwastraff ar y tir yn ddiogel
Mae’n rhaid i chi gael trwydded amgylcheddol i gael gwared ar ddip defaid gwastraff ar y tir.
Dim ond ceisiadau sy'n bodloni ein gofynion ar gyfer gwaredu dip defaid gwastraff ar y tir y gallwn eu derbyn. Bydd unrhyw geisiadau a dderbynnir nad ydynt yn bodloni’r gofynion hyn yn cael eu dychwelyd i'r ymgeisydd.
Y gofynion ar gyfer gwaredu dip defaid gwastraff ar y tir yng Nghymru yw'r canlynol:
- Dim ond cynhyrchwyr dip defaid gwastraff all ei waredu i dir. Hon fyddai naill ai'r ffermwr sy'n trochi ei ddefaid ei hun, neu gontractwr dip defaid symudol sy'n ymweld â gwahanol ffermydd i dipio. Nid yw'n cynnwys cwmnïau a allai dderbyn dip gwastraff o ffermydd trwy'r ffermwr neu'r contractwr dip symudol
- Cyfanswm y cryfder gweithio ar gyfer dip wedi'i ddefnyddio a waredir ar y tir bob flwyddyn yw 5 metr ciwbig neu lai. Dyma'r cyfaint cyn ei wanhau â slyri neu ddŵr i hwyluso ei daenu ar y tir.
- Mae uchafswm o un gwarediad y flwyddyn yn digwydd ar draws y safle/daliad fferm ehangach
- Rhaid i'r tir fod mewn defnydd amaethyddol cyffredinol. Byddai tir sy'n cael ei ddefnyddio at ddibenion gwaredu yn unig yn cael ei ystyried yn safle tirlenwi.
- Mae'r arwynebedd o dir sydd ar gael yn ddigonol fel y gellir cadw lledaenu dip defaid gwastraff i'r lleiafswm diogel. Mae hyn yn cyfateb i 5 m3/hectar/dydd os yw'r dip wedi'i ddefnyddio ar gryfder gweithio, gan godi i 20 m3/hectar/dydd o ddip wedi'i ddefnyddio sydd wedi'i wanhau ymhellach gan slyri neu ddŵr i'w daenu trwy danc sugno.
Ardaloedd gollwng addas yw'r rhai nad ydynt mewn perygl o lygru dŵr daear neu ddŵr wyneb. Rhaid i'r ardaloedd gollwng basio'r meini prawf canlynol:
- Dylent fod â llystyfiant sydd wedi tyfu'n llawn.
- Ni ddylent fod yn foel, yn brin o lystyfiant, wedi hollti na wedi'u cywasgu.
- Dylent fod o werth isel i fywyd gwyllt ac nid yn dir dynodedig fel Ardaloedd Cadwraeth Arbennig, Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, Ardal Gwarchodaeth Arbennig, RAMSAR, Gwarchodfeydd Natur Lleol Safleoedd Bywyd Gwyllt Lleol
- Dylent gael dyfnder da o uwchbridd (er enghraifft, mwy nag 20 centimetr o ddyfnder).
- Ni ddylent fod yn safleoedd sy'n draenio'n wael nag yn ddwrlawn.
- Ddim yn cael ei effeithio gan lifogydd
- Dylent fod o leiaf 30 metr i ffwrdd o gyrsiau dŵr, ffosydd, a draeniau tir agored a all redeg yn sych am ran o'r flwyddyn.
- Dylent fod o leiaf 50 metr i lawr o darddellau, ffynhonnau neu dyllau turio, waeth beth fo'r defnydd cyfredol.
- Dylent fod o leiaf 500 metr i ffwrdd o darddellau, ffynhonnau neu dyllau turio sydd yn cael ei ddefnyddio fel dwr yfed
- Ni ddylent fod mewn Barth Diogelu Tarddiad Dŵr 1
- Peidio â bod o fewn ardal o fregusrwydd dŵr daear uchel
- Dylent fod yn wastad neu fod â llethr cymedrol (<12 gradd) yn unig.
- Ni ddylent gynnwys draeniau caeau, neu lle mae draeniau caeau yn bresennol, dylent fod yn ddwfn.
Nid yw systemau ymdreiddio (ffosydd cerrig) yn fannau gollwng addas.
Sut i wneud cais am drwydded amgylcheddol i gael gwared ar ddip defaid gwastraff ar y tir
I wneud cais am drwydded amgylcheddol i ollwng dip defaid wedi'i ddefnyddio, bydd angen i chi lenwi ein ffurflen gais ar-lein.
Sut i gael gwared ar blaladdwyr gwastraff a gwastraff hylif arall yn ddiogel ar y tir
Nid ydym yn derbyn ceisiadau am drwyddedau amgylcheddol ar gyfer gwaredu plaladdwyr gwastraff neu wastraff hylif arall ar y tir. Gall chwistrellau a golchiadau plaladdwyr gwastraff gael eu casglu yn y ffyrdd canlynol:
- Eu casglu i'w gwaredu oddi ar y safle. Mae’n rhaid i chi ddilyn y gofynion dyletswydd gofal gwastraff a defnyddio gludwr gwastraff cofrestredig
- Eu gwaredu ‘mewn cnwd’ lle mae’r chwistrellwr yn cael ei wagio a’i lanhau yn y cae sy’n cael ei drin gan ddefnyddio’r lleiafswm o ddŵr sy’n angenrheidiol a sicrhau nad eir y tu hwnt i’r dos uchaf. Nid oes angen trwydded amgylcheddol ar gyfer hyn.
- Eu gollwng mewn bio-wely wedi'i leinio. Gall hyn fod yn gymwys i gael eithriad gwastraff T32.
Sut i gael gwared ar ddŵr a diheintydd yn ddiogel ar ôl brigiad o achosion o glefyd ymhlith anifeiliaid
Caniateir gwarediad untro o ddyfroedd golchiadau sy'n cynnwys diheintydd mewn amgylchiadau eithriadol, megis yn ystod y brigiad o achosion o glefyd egsotig hysbysadwy mewn anifeiliaid (clwy'r traed a’r genau, ffliw adar ac ati) ar ôl i'r holl opsiynau gwaredu eraill gael eu disbyddu.