Sut i ddefnyddio tail a slyri yn briodol

Nid yw tail da byw a slyri fel arfer yn cael eu hystyried yn wastraff. Fodd bynnag, os byddant yn cael eu rheoli'n amhriodol, efallai y byddwn yn eu hystyried yn ddeunydd gwastraff.

Mae storio, symud a defnyddio deunyddiau gwastraff yn gofyn am drwydded amgylcheddol neu esemptiad rhag trwydded amgylcheddol.

Pryd mae tail a slyri’n cael eu hystyried yn ddeunyddiau gwastraff?

Nid yw tail a slyri’n cael eu hystyried yn wastraff pan fyddant yn cael eu defnyddio i wella pridd neu i gefnogi twf cnydau.

Pan ddefnyddir tail neu slyri ar dir heb unrhyw fudd amlwg i'r pridd neu dwf y cnwd neu pan fyddant yn rhoi mwy o faetholion nag sydd eu hangen ar y cnwd, fe'u hystyrir yn ddeunyddiau gwastraff.

Mae tail a slyri a ddefnyddir mewn proses drin, neu sy’n cael eu storio cyn proses drin, er enghraifft compostio neu Dreulio Anaerobig, yn wastraff a byddant yn destun rheoliadau gwastraff, gan gynnwys yr angen am drwydded amgylcheddol neu esemptiad.

Os bydd unrhyw niwed yn cael ei achosi i'r amgylchedd neu i iechyd pobl ar unrhyw adeg drwy gasglu, storio neu ddefnyddio tail neu slyri, maent yn cael eu hystyried yn wastraff.

Os caiff unrhyw niwed ei achosi i'r amgylchedd neu iechyd pobl, byddwn yn ymchwilio ac yn gweithredu yn unol â'n Polisi Gorfodi ac Erlyn.

Yr hyn y gallwch chi ei wneud i sicrhau nad yw’r tail a’r slyri ar eich tir yn cael eu trin fel gwastraff

Storio

Dylai'r holl dail da byw a slyri sy'n cael eu cynhyrchu ar eich fferm neu sy'n cael eu cludo i'ch fferm gael eu storio'n ddiogel. Mae Rheoliadau Adnoddau Dŵr 2021 yn nodi sut y dylech wneud hyn.

Darllenwch fwy am storio silwair a slyri’n ddiogel ar ein gwefan.

Lawrlwythwch ganllawiau gan Cyswllt Ffermio ar storio silwair a slyri’n ddiogel.

Cynlluniau Rheoli Tail a Maetholion

Dylech lunio Cynllun Rheoli Tail sy'n nodi sut y cafodd y tail a’r slyri eu cynhyrchu, eu casglu, eu symud, eu storio a'u defnyddio.

Os ydych yn taenu tail a slyri ar eich tir, dylech lunio cynllun rheoli maetholion fel rhan o'ch cynllun rheoli tail. Bydd cynllun rheoli maetholion yn manylu ar lefel a math y maetholion a fydd yn gwella twf eich cnwd.

Gallwch weld canllawiau arfer gorau ar daenu tail a slyri ar gnydau ar wefan y Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth

Os ydych yn allforio tail a slyri i fferm arall fel gwrtaith, rhaid i chi sicrhau bod ganddynt gynllun rheoli maetholion ar waith sy'n nodi bod angen y tail neu'r slyri.

Dylai fod angen y maetholion sy’n cael eu taenu ar y cnwd rydych chi am ei dyfu.

Er enghraifft, os oes angen lefel benodol o nitrogen ar y cnwd ond nad oes angen unrhyw ffosffad arno, yna ni ddylid defnyddio ffosffad ychwanegol. Os yw'ch tail neu'ch slyri yn cynnwys maetholion nad oes eu hangen ar y cnwd, yna gallai eu taenu ar y tir arwain at lygredd a byddai hyn yn brawf bod eich tail neu'ch slyri yn ddeunydd gwastraff.

Sicrhewch y gellir defnyddio eich tail neu eich slyri heb driniaeth bellach

Mae triniaethau cyffredin yn cynnwys treulio anaerobig, compostio neu driniaethau eraill sy'n cynhyrchu cynnyrch i'w werthu. Mae'r triniaethau hyn yn cael eu hystyried yn driniaethau gwastraff a dylai fod ganddynt y caniatâd angenrheidiol. Os ydych yn symud tail da byw i weithrediad trin gwastraff, yna ystyrir bod y tail da byw yn wastraff a bydd darpariaethau dyletswydd gofal yn berthnasol.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ofynion dyletswydd gofal ar ein tudalennau Dyletswydd Gofal Gwastraff i sefydliadau.

Sicrhewch fod eich slyri neu’ch tail yn cael eu taenu’n gywir

Dylech daenu ar dir yn unol â Rheoliadau Adnoddau Dŵr 2021.

Lawrlwythwch ganllawiau pellach ar y rheoliadau hyn ar gyfer ffermwyr ar wefan Llywodraeth Cymru.

Gallwch weld rhagor o wybodaeth ar anghenion tystiolaeth ar ein tudalen ar Gynlluniau Rheoli Tail a Maetholion.

Diweddarwyd ddiwethaf