Ffioedd am fagu moch a dofednod yn ddwys

Os oes gan eich fferm fwy na 40,000 o leoedd ar gyfer dofednod, mwy na 2,000 o leoedd ar gyfer moch cynhyrchu (dros 30kg), neu fwy na 750 o leoedd ar gyfer hychod, bydd angen Trwydded Amgylcheddol arnoch.

Dyma’r ffioedd am y trwyddedau hyn:

Cais newydd: £9,270

Amrywio trwydded bresennol: £595 newid gweinyddol yn unig

£2,614 am fân amrywiad technegol

£5,562 am amrywiad arferol

£7,416 am amrywiad sylweddol

Trosglwyddo'r drwydded: £2,601

Ildio'r drwydded: £5,642

Mathau o amrywiadau

Amrywiad gweinyddol

Mae amrywiadau gweinyddol ar gyfer newidiadau fel newid enw, lle na fu unrhyw newid mewn endid cyfreithiol. Nid oes angen unrhyw asesiad technegol nac ymgynghoriad arnynt felly dim ond tâl gweinyddol a godir.

Nid ydym yn codi tâl am amrywiadau gweinyddol a gychwynnir gennym ni.

Mân amrywiadau technegol

Mae mân amrywiadau technegol yn gofyn am rywfaint o fewnbwn technegol gennym ni, ond llai nag ar gyfer amrywiad arferol. Fe'ch cynghorir i gysylltu â ni i gadarnhau mai dyma'r math cywir o gais ar gyfer eich newidiadau arfaethedig cyn i chi gyflwyno'ch cais.

Dyma ambell enghraifft:

  • ychwanegu pwynt allyriadau lle nad oes yn rhaid i ni gynnal asesiad technegol
  • adolygu cyflwr gwella yn dilyn ymateb i gyflwr gwella
  • newid neu osod terfynau yn dilyn amodau gwella neu wybodaeth arall na chafodd ei hasesu'n dechnegol wrth benderfynu ar y drwydded
  • newid gofynion adrodd

Amrywiadau arferol

Mae amrywiadau nad ydynt yn newid gweinyddol, mân newid technegol neu newid sylweddol yn amrywiad arferol.

Amrywiadau sylweddol

Mae'r rhain yn amrywiadau lle mae naill ai:

  • newid sydd â’r potensial i arwain at effeithiau negyddol sylweddol ar yr amgylchedd
  • lle byddwn yn penderfynu bod angen ymgynghoriad cyhoeddus
  • mae angen rhanddirymiad o dan y Gyfarwyddeb Allyriadau Diwydiannol

Darllenwch sut rydym yn diffinio newidiadau sylweddol i weithrediadau.

Enghraifft o newid sylweddol fyddai cynnydd mewn capasiti fel bod allyriadau i aer yn cael effaith negyddol sylweddol ar yr amgylchedd.

Yn gyffredinol, byddai cynnydd mewn capasiti sy'n hafal i, neu'n fwy na'r trothwy sy'n dod â gweithgaredd o dan Ran A(1) o'r Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (h.y. 40,000 o leoedd ychwanegol ar gyfer dofednod) yn cael ei ystyried yn amrywiad sylweddol.

Diweddarwyd ddiwethaf