Lleihau allyriadau o amonia o amaethyddiaeth
Mae'r technegau isod yn rhai cydnabyddedig ar gyfer lleihau lefelau o amonia. Bydd maint y gostyngiad y gallwch ei ddisgwyl yn unigryw i'ch gweithrediad, a bydd yn dibynnu ar eich dull o reoli'r technegau.
Mae'r ffigurau isod yn arwydd o'r gostyngiad y gallwch ei gymhwyso wrth gyfrifo allyriadau o amonia, ond bydd hyn yn dibynnu ar ba ffactor allyrru rydych wedi'i ddefnyddio a'r math o sièd sy'n destun eich cynnig.
Sgwrwyr
Gall defnyddio sgwrwyr arwain at ostyngiad o hyd at 99% yn y lefelau o amonia a geir mewn allyriadau o aer a sianelir, ond, gan ddibynnu ar y math o sièd, ni fydd hyn bob amser yn bosibl i'w gyflawni. Mae sicrhau bod y sgwrwyr o'r maint cywir yn hanfodol i gyflawni'r gostyngiad priodol.
Gallwch ddod o hyd i arweiniad pellach ar sgwrwyr ar ein tudalen Cynllunio a defnyddio sgwrwyr amonia. Rhaid i'r dechnoleg a bennir mewn ceisiadau fod yr un peth â'r hyn a adeiladir yn y pen draw.
Sychu tail
Mae'r ffactorau allyrru priodol ar gyfer technegau cyffredin o sychu tail ar gyfer moch a dofednod ar gael ar dudalennau'r ffactorau allyrru. Nid yw sychu tail ar gyfer siediau gwartheg yn ymarferol ar hyn o bryd, ond os bydd y dechnoleg a'r mathau o siediau'n newid, yna mae'n debyg y bydd gostyngiadau yn yr allyriadau o amonia – a welwyd eisoes ar gyfer dofednod a moch – yn bosibl yn achos gwartheg hefyd. Mae hyn ond yn gymwys yn achos sychu tail yn y man a'r lle, ac mae'n debyg y bydd angen trwydded i sychu tail ar ôl ei symud.
Gorchuddion storfeydd tail
Mae'r ffactorau allyrru priodol ar gyfer moch, dofednod a gwartheg wedi'u rhestru ar ein tudalennau o ffactorau allyrru. Bydd angen i dechnegau newydd nad ydynt wedi'u rhestru gael eu gwerthuso ar sail unigol.
Tynnu tail yn rheolaidd
Mae'r ffactorau allyrru priodol ar gyfer moch a dofednod wedi'u rhestru ar ein tudalennau o ffactorau allyrru. Bydd angen i dechnegau newydd nad ydynt wedi'u rhestru gael eu gwerthuso ar sail unigol. Nid yw crafu siediau gwartheg yn aml bob amser yn ymarferol, a gall arwain at broblemau o ran iechyd anifeiliaid oherwydd y perir i wartheg syrthio. Fodd bynnag, gall cynllunio siediau gwartheg yn briodol fel bod ganddynt loriau ar ogwydd, er mwyn hwyluso gwaith crafu pob 1.5 i 2 awr, arwain at ostyngiad sylweddol yn yr allyriadau o amonia, a gallai'r opsiwn hwn fod yn ymarferol mewn ardaloedd ble mae'r lefelau cefndirol o amonia yn uchel.
Cyfnewidwyr gwres
Nid ydym bellach yn cymhwyso gostyngiad i'r ffactor allyriadau ar gyfer tai brwyliaid lle defnyddir cyfnewidwyr gwres. Mae'r ffactor allyriadau newydd yn rhagdybio bod gan siediau brwyliaid wres anuniongyrchol fel safon.
Asideiddio tail
Bydd asideiddio tail er mwyn cyflawni pH o <5.5 yn arwain at ostyngiad o rhwng 50% ac 80% yn y lefel o amonia sy'n tarddu o siediau, storfeydd a gweithgareddau taenu. Bydd y penderfyniad ynghylch yr union ostyngiad mewn pH i'w gyflawni yn benodol i'r safle, a bydd yn dibynnu ar y math o dda byw a'r math o sièd. Gall gorasideiddio pridd arwain at broblemau eraill, a rhaid felly ystyried y defnydd dilynol a wneir o'r tail. Gall priddoedd â pH is arwain at ryddhau ocsid nitraidd.
Technegau newydd ar gyfer rheoli lefelau o amonia
Mae technegau newydd ar gyfer lleihau allyriadau o amonia yn dod i'r amlwg, ac mae CNC yn eu croesawu. Byddwn yn gwneud pob ymdrech i bennu'r ffactor allyrru neu ganran y gostyngiad priodol sy'n gysylltiedig â phob techneg, a hynny at ddibenion eu defnyddio yn y gwaith o fodelu effaith datblygiadau penodol.
Tystiolaeth o leihau'r lefelau o amonia
Bydd angen sefydlu'r meini prawf tystiolaeth canlynol er mwyn ein galluogi i ystyried y gostyngiad yn y lefelau o amonia a geir o ddefnyddio'r technegau newydd:
- Er cymhariaeth, byddai'n ddelfrydol monitro gweithrediad sydd â'r un paramedrau ar yr un pryd â gweithrediad sy'n arfer y dechneg newydd
- Rhaid sicrhau bod y fethodoleg mesur yn briodol
- Gellir defnyddio mesuriadau ysbeidiol ar gyfer da byw aeddfed, cyn belled â bod pedwar cyfnod mesur yn ystod blwyddyn o leiaf, ac y darperir gwybodaeth am ffactorau fel y gyfradd awyru, deiet a pherfformiad
- Mewn adeiladau lle mae da byw yn tyfu, a lle gall mwy nag un cylch twf ddigwydd dros y flwyddyn, rhaid ailadrodd mesuriadau fesul pob un o'r cylchoedd twf yn ystod y flwyddyn
- Rhaid i’r dechneg mesur fod yn un gydnabyddedig a'i bod wedi'i chefnogi o ganlyniad i'w hadolygu gan gymheiriaid
- Rhaid cofnodi data mesur allyriadau yn briodol, a sicrhau y gellir eu holrhain a'u bod ar gael er mwyn gwirio'r cyfrifiadau
- Rhaid i'r gweithredwr fabwysiadu dull addas o sicrhau/rheoli ansawdd yn unol ag arweiniad, er mwyn ei gwneud yn bosibl dilysu ei ganlyniadau
- Rhaid sicrhau bod modd cyflwyno esboniad credadwy i egluro pam fod amcangyfrif newydd yr allyriad y tu allan i'r ystod ddisgwyliedig
- Yn achos safleoedd y mae'n ofynnol iddynt gael trwydded, byddwn yn cynnwys gofynion gwaith monitro yn y drwydded er mwyn ein galluogi i benderfynu a yw'r system lleihau allyriadau a gynlluniwyd yn addas ac yn gweithio yn ôl ei dyluniad