Asesiadau o amonia: asesiadau sgrinio a chasglu tystiolaeth cychwynnol, GN 020
Y cam cyntaf yw casglu tystiolaeth er mwyn cynnal eich asesiad. Rydym yn cynghori eich bod yn defnyddio offeryn o'r enw SCAIL ar gyfer cynnal yr asesiad sgrinio cychwynnol.
Bydd angen y wybodaeth ganlynol arnoch er mwyn defnyddio SCAIL, ac, os yw'n ofynnol, ar gyfer gwneud gwaith modelu manwl pellach:
- Y cyfeirnod grid ar gyfer canol y datblygiad neu bwynt allyrru. Gallai hyn olygu canol y storfa slyri neu ganol y sièd ddofednod, neu union leoliad yr allyriad yn achos tarddle penodol
- Crynodiad yr allyriad neu'r ffactor allyrru. Gellir dod o hyd i'r rhestr o ffactorau allyrru sy'n ofynnol gennym ar dudalennau'r ffactorau allyrru sy'n benodol i'ch math o dda byw chi
- Yr ardal chwilio neu'r pellter sgrinio
- Y safleoedd sensitif a geir o fewn y pellter sgrinio
- Nifer y mannau y cedwir anifeiliaid (os yw'n berthnasol)
Sylwer:
- Gellir ond defnyddio SCAIL i asesu effeithiau o fewn pellter o 250 metr i'r datblygiad
- Dylid ond defnyddio SCAIL o dan y dewis ‘Conservative MET’
- Ni ellir defnyddio SCAIL ar gyfer cynnal asesiadau cyfunol
- Dylid argraffu'r canlyniadau fel dogfen PDF fel tystiolaeth
Y pellterau sgrinio i'w defnyddio
Dylid defnyddio'r pellter sgrinio o 5 cilometr oni bai fod math eich datblygiad chi wedi'i restru isod. Os yw math eich datblygiad chi wedi'i restru, gofynnwn i chi ddefnyddio'r pellter sgrinio priodol. Ar gyfer datblygiadau sy'n cynnig defnyddio sgwrwyr, 5 km yw'r pellter sgrinio mwyaf sydd ei angen.
- Ar gyfer 32,000 neu lai o ddodwyr wyau buarth lle symudir tail gyda belt cludo tail: 3 chilometr
- Ar gyfer 140 neu lai o wartheg eidion: 3 chilometr
- Ar gyfer 32,000 o ddodwyr wyau mewn cewyll: 10 cilometr
- Ar gyfer 100,000 neu fwy o ddodwyr wyau buarth: 10 cilometr
- Ar gyfer 200,000 o frwyliaid: 10 cilometr
- Ar gyfer 400 neu fwy o wartheg godro: 10 cilometr
- Ar gyfer 32,000 neu fwy o fathau eraill o ddofednod (nad ydynt yn ieir): 10 cilometr
- Ar gyfer 1,500 neu fwy o foch: 10 cilometr
Ar gyfer gweithgareddau treulio anaerobig lle bo cyfaint storio'r storfa porthiant a/neu weddillion treuliad anaerobig yn 1,000 metrau ciwbig neu fwy: 10 cilometr
Yn eich asesiad, bydd angen i chi ystyried y safleoedd sensitif a geir o fewn y pellter sgrinio priodol.
Safleoedd sensitif
Rydym yn ystyried bod safle sensitif yn ardal sy'n cynnwys cynefin lle mae rhywogaethau na allant oddef lefelau uchel o nitrogen yn hanfodol bwysig i weithrediad y cynefin/ecosystem. Dim ond lefel benodol o amonia y gall y safleoedd sensitif ei goddef, ac adnabyddir y lefel hon fel y lefel gritigol (Cle).
Bydd gan rai o'r safleoedd mwyaf sensitif lefel gritigol o 1 µg/m3 a bydd gan safleoedd eraill lefelau critigol o 3 µg/m3. Mae pob un o'r safleoedd sensitif yr ydym am i ymgeiswyr eu hasesu i'w gweld ar haen fap y gallwch ei chyrchu isod.
Y map
Gweld ardaloedd yr ystyrir eu bod yn sensitif ar ein map data agored
Dilynwch y ddolen, dadgliciwch ‘NRW operational assets’, dewiswch y tab ‘Air Quality’, dewiswch eich ardal chi ar y map rhyngweithiol a chwyddwch i mewn i lefel briodol. Dewiswch y rhestr haenau, dewiswch ‘designations and access’ ac yna dewiswch ‘Habitat Air Quality’ a dewiswch yr holl haenau o fewn yr adran honno. Bydd hyn yn dangos yr ardaloedd yr ydym yn poeni amdanynt, sef y rhai sy'n rhagori ar y lefel gritigol a lle ceir effaith andwyol ar gynefinoedd a rhywogaethau yr ardaloedd hynny. Dyma'r lefel gritigol briodol y dylech ei defnyddio yn eich asesiad, a bydd naill ai'n 1 µg/m3 neu 3 µg/m3.
Mae'n bosibl y caiff y fersiwn hon o'r map ei diweddaru yn y dyfodol wrth i dystiolaeth o'r angen i ddiogelu ardaloedd pellach ddod i'r amlwg. Caiff unrhyw newidiadau eu hysbysebu tri mis ymlaen llaw, a sicrheir y bydd y dystiolaeth ar gael i'w chraffu'n gyhoeddus.
Ffynonellau amonia eraill
Gall amonia o ffynonellau eraill sy’n bodoli eisoes ac amonia o'ch ffynonellau arfaethedig weithredu ar y cyd mewn safleoedd sensitif lle maen nhw’n gorgyffwrdd. Rhaid i'ch asesiad ystyried y ffynonellau amonia eraill hyn nad ydynt wedi'u cynnwys yn y lefel gefndirol.
Gallwch ddod o hyd i werthoedd cefndirol yng ngwefan y Gwasanaeth Gwybodaeth Llygredd Aer (APIS).
Mae’r crynhoad cefndirol o amonia yn cael ei roi gan y System Gwybodaeth Llygredd Aer (APIS) fel cyfartaledd dros dair blynedd. Mae ffynonellau eraill o amonia yn cynnwys safleoedd arfaethedig a safleoedd cyfredol a ddechreuodd weithredu ar ôl 31 Rhagfyr ail flwyddyn y cyfartaledd APIS tair blynedd. Ceir manylion ffynonellau eraill o amonia ar y Porth Cynllunio Lleol.
Rhaid adio cyfraniadau amonia o'ch cynnig, o’r cefndir cyfredol, ac o unrhyw ffynonellau eraill at ei gilydd. Caiff y cyfanswm ei asesu yn erbyn y lefel gritigol ym mhob safle cynefin yn eich asesiad.
Er enghraifft, yn ystod eich asesiad ar gyfer fferm ieir maes sy’n cynnwys 50,000 o adar rydych yn dod o hyd i ardal o Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) o fewn eich pellter sgrinio 5km. Yn dilyn chwiliad o'ch Porth Cynllunio Lleol canfyddir fferm frwyliaid sy’n cynnwys 200,000 o adar nad yw wedi'i chynnwys yn y cefndir APIS. Mae pellter sgrinio 10km y ffynhonnell hon yn gorgyffwrdd â'r ardal SoDdGA sydd y tu mewn i'ch pellter sgrinio 5km. Rhaid adio effeithiau amonia eich cynnig at yr amonia o'r fferm frwyliaid a nodwyd a lefel yr amonia cefndirol yn y SoDdGA lle maent yn gorgyffwrdd.