Argyfwng y Newid yn yr Hinsawdd - Does dim Planed B!
Ydych chi eisiau ennyn diddordeb eich dysgwyr...
Beth bynnag y byddwch chi’n ei wneud- datblygu geirfa, cyfansoddi barddoniaeth neu hyrwyddo llafaredd, mae'r amgylchedd naturiol yn newid yn gyson ac yn ffynhonnell gyfoethog sy’n ysbrydoli dysgwyr. Gellir defnyddio llawer o'n hadnoddau i hyrwyddo iaith a llythrennedd a gwella gwybodaeth a dealltwriaeth o nodweddion a phrosesau naturiol yr un pryd. Bydd y gemau a'r gweithgareddau canlynol yn eich helpu i gyflawni yn erbyn y cwricwlwm presennol a bydd yn caniatáu i ddysgwyr wneud cynnydd yn y ffordd a ddisgrifir ym mhedwar diben y Cwricwlwm i Gymru.
Mae’r 18 gweithgaredd a gêm o fewn y llyfryn Iaith a Llythrennedd yn yr Awyr Agored, sy’n amrywio o weithgareddau sillafu i farddoniaeth acrostig, yn canolbwyntio ar ddangos sut i ddefnyddio’r amgylchedd naturiol fel symbyliad i hwyluso iaith a llythrennedd.
Mae angen cardiau adnodd a gwybodaeth ar gyfer rhai o’r gweithgareddau a’r gemau. Dewiswch hwy o’r rhestr isod.
Gweithgaredd 2 Pigog gogleisiol – (cardiau adnodd)
‘Geiriau Diflanedig’ (Macfarlane a Morris, 2017)
Mae pecyn cymorth addysgu wedi cael ei ddatblygu gan fyfyrwyr israddedig blwyddyn 2 sy’n astudio’r Blynyddoedd Cynnar ym Mhrifysgol De Cymru, ac mae bellach ar gael ar wefan Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru.