Llifogydd ar gae wrth i afon orlifo

Dysgu yn ein hamgylchedd naturiol, dysgu amdano a dysgu ar ei gyfer

Mae’r adnoddau addysg hyn yn rhannu awgrymiadau i helpu eich dysgwyr i ddeall cysyniad llifogydd.

Bydd yr holl weithgareddau a gemau yma yn helpu eich dysgwyr i wneud cynnydd yn y ffyrdd a ddisgrifir ym mhedair diben y Cwricwlwm i Gymru. Cynhwysir dolenni i’r cwricwlwm yn y dogfennau a bydd pob gweithgaredd yn gymorth i chi gyflawni sawl agwedd o’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol (LRC) a’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol.

Eich cefnogi i gynllunio a dylunio’r cwricwlwm

Mae ein dogfen ‘Eich cefnogi i gynllunio a dylunio’r cwricwlwm – Llifogydd’ ar gael i’ch cefnogi i adnabod anghenion dysgu a dilyniant, ac i ddatblygu cynllun dysgu.

Eich cefnogi i gynllunio a dylunio’r cwricwlwm – Llifogydd

Llifogydd: Trosolwg

Mae ein nodyn gwybodaeth yn rhoi trosolwg o’r hyn y mae llifogydd yn ei olygu, pam mae’n digwydd, ac yn trafod y gwahanol fathau o lifogydd.

Sut i baratoi ar gyfer llifogydd

Mae’r gweithgaredd hwn yn rhannu awgrymiadau i annog dysgwyr i feddwl am yr hyn y byddent yn ei wneud i baratoi ar gyfer llifogydd ac yn eu hannog i fod yn barod ar gyfer llifogydd.

Ysgrifennu cynllun llifogydd

Mae’r gweithgaredd hwn yn herio dysgwyr i ysgrifennu cynllun llifogydd, gan alluogi unigolion neu grwpiau i baratoi ar gyfer llifogydd, a’u cefnogi i ymateb yn gyflym pe byddai llifogydd yn digwydd.

Peryglon llifddwr

Mae’r gweithgaredd hwn yn canolbwyntio ar y peryglon cudd mewn dŵr llifogydd.

Effeithiau llifogydd

Mae’r gweithgaredd hwn yn rhannu syniadau i gefnogi dysgwyr i nodi effeithiau uniongyrchol a hirdymor llifogydd.

Ymchwilio i effeithiau emosiynol a seicolegol llifogydd

Mae’r gweithgaredd hwn yn rhannu syniadau i helpu dysgwyr i drafod ac ystyried effeithiau llifogydd o safbwynt emosiynol a seicolegol.

Gwrandewch ar bodlediad

Mae ein cyfres o 10 podlediad yn trafod rheoli perygl llifogydd mewn ffordd hawdd i’w ddeall.

Gwirio eich perygl llifogydd

Gallech ofyn i’ch dysgwyr wirio perygl llifogydd mewn ardal gan ddefnyddio ein hadnodd rhyngweithiol. Mae'r siawns yno bob amser – eleni, y flwyddyn nesaf, ac yn y dyfodol.

Gwiriwch ein rhybuddion llifogydd byw i weld y sefyllfa bresennol.

Rhybuddion llifogydd

Chwiliwch rybuddion llifogydd.

Gwirio lefelau afonydd, glawiad a data môr

Rydym yn cyhoeddi gwybodaeth am lefelau afonydd fel er mwyn hysbysu’r rhai sy’n byw mewn ardaloedd perygl llifogydd fel eu bod yn gallu penderfynu beth i’w wneud wrth i lefelau’r dŵr newid. Mae gwerth hyd at 13 mis o ddata glawiad a llanw hanesyddol ar gyfer gorsafoedd mesur ledled Cymru hefyd ar gael.

Lefelau afonydd, glawiad, a data môr.

Mwy o bynciau i'w gweld

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf