Addysgu sgiliau diogel ar gyfer gwneud tân a defnyddio offer

Dysgu yn ein hamgylchedd naturiol, dysgu amdano a dysgu ar ei gyfer.

Gall dysgwyr o bob oedran fwynhau gweithgareddau tân gwersyll a defnyddio offer. Mae’r rhain yn cyfoethogi lles a chyfforddusrwydd ffisegol ac ar yr un pryd yn gyfleoedd i wella sgiliau a gwybodaeth, mewn cyd-destun bywyd bob dydd.

Mae gwneud tanau gwersyll yn ddiogel a defnyddio offer ar gyfer ystod o weithgareddau awyr agored, o arddio i Ysgol Goedwig, yn annog gwydnwch, yn datblygu sgiliau asesu risg ac yn rhoi’r ymdeimlad o gyflawniad. Mae gan y dudalen we hon ddigon o wybodaeth i gefnogi dysgu sut i ddefnyddio offer yn ddiogel a sut i gynnau, rheoli a diffodd tân gwersyll bach.

Bydd yr holl weithgareddau a gemau ar y dudalen hon yn eich helpu i alluogi eich dysgwyr i wneud cynnydd yn y ffyrdd a ddisgrifir ym mhedair diben y Cwricwlwm i Gymru. Cynhwysir dolenni i’r cwricwlwm yn y dogfennau a bydd pob gweithgaredd yn gymorth i chi gyflawni sawl agwedd o’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol (LRC) a’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol. 

Beth yw tân? 

Mae ein nodyn gwybodaeth yn egluro beth yw tân, a sut y gellir ei reoli unwaith y bydd yn llosgi.

Nodyn gwybodaeth - Tân

Trefnu lle diogel i addysgu a dysgu am dân gwersyll awyr agored a defnyddio offer

Angen cyngor ar sut i ddarganfod, lleoli a sicrhau pellter diogel wrth drefnu a gosod cylch boncyffion? Darllenwch ein Nodyn gwybodaeth.

Nodyn gwybodaeth – Gosod cylch boncyffion 

Cynnau, rheoli a diffodd tân gwersyll yn ddiogel 

Wrth gynllunio cael tân gwersyll, mae’n bwysig eich bod yn ystyried sut i wneud hynny’n ddiogel a’ch bod yn cymryd camau i leihau’r risg o ddifrodi’r amgylchedd naturiol a niweidio unigolion.

Argymhellir bod gan arweinydd unrhyw weithgaredd tân gwersyll y canlynol:

  • Profiad a gwybodaeth o gynnau tân yn ddiogel, er enghraifft, achrediad fel cymhwyster Lefel 3 Ysgol Arfordir neu Ysgol Goedwig Agored Cymru.
  • Profiad o reoli grwpiau o amgylch tanau gwersyll.
  • Polisïau a gweithdrefnau ar gynnau a diffodd tân yn ddiogel.
  • Gwybodaeth feddygol a chaniatâd eich grŵp i gymryd rhan yn y gweithgaredd.
  • Caniatâd y perchennog tir ar gyfer cynnau tân/casglu coed tân.
  • Offer iechyd a diogelwch addas.
  • Digon o ddŵr ar y safle i ddiffodd y tân a delio â llosgiadau os byddant yn digwydd.

Os ydych chi’n ystyried dod yn hyfforddwr achrededig i ddysgu eraill i gynnau tân a defnyddio offer yn ddiogel, gallech ystyried dilyn hyfforddiant i fod yn ymarferydd Ysgol Goedwig.  Mae Ysgol Goedwig yn broses ysbrydoledig sy’n cynnig cyfleoedd cyson i blant, pobl ifanc ac oedolion i gyflawni a datblygu hunanhyder drwy gael profiadau dysgu ymarferol mewn coedwig leol.

Llyfryn – Canllaw i’r Ysgol Goedwig yng Nghymru

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth ddefnyddiol ar ein gwedudalen Cod Cefn Gwlad.

Ceir rhagor o wybodaeth a chanllawiau yn ein Nodyn gwybodaeth.

Nodyn gwybodaeth - Tanio, rheoli a diffodd tân gwersyll yn ddiogel

Coginio ar dân gwersyll 

Pa brydau bwyd blasus fydd eich dysgwyr yn gallu eu paratoi a’u bwyta o gwmpas y tân? Edrychwch ar rai o’r ryseitiau ydym yn eu hawgrymu.

Nodyn Gwybodaeth: Coginio ar dân gwersyll

Gwneud siarcol a phapur siarcol 

Mae gwneud siarcol yn arferiad hynafol i wneud tanwydd a ddefnyddid yn bennaf ar gyfer coginio ac mewn diwydiant. Mae’r gweithgaredd hwn yn archwilio gwyddoniaeth a thechnoleg cynhyrchu siarcol a phapur siarcol drwy wneud arbrawf ymarferol.

Cynllun gweithgaredd - Gwneud golosg ar dân gwersyll

Pa fath o bren yw’r gorau i’w losgi ar dân gwersyll? 

Cyfle i fynd ati i wneud arbrawf tanwydd pren ac ymchwilio i nodweddion llosgi gwahanol fathau o bren.

Cynllun gweithgaredd - Ymchwilio i danwydd tân gwersyll

Dysgu am danau gwyllt

Waeth pa mor fach yw eich tân gwersyll gall fynd allan o reolaeth a dod yn dân gwyllt.  Er mwyn cael rhagor o wybodaeth ewch i’n tudalen tanau gwyllt.

Dysgu sut i ddefnyddio offer yn ddiogel

Efallai bod defnyddio offer gyda’ch grŵp yn ymddangos yn hynod o anodd ar brydiau a hyd yn oed yn beryglus, ond gyda goruchwyliaeth ofalus ac eglurhad clir, gellir dysgu sgiliau byw gwerthfawr. Diben y cardiau adnodd hyn yw cynorthwyo dysgu trin a defnyddio offer yn gyson a diogel, ar gyfer garddio a gweithio gyda phren. Defnyddiwch yr acronym EAGTCPDGC, i helpu eich dysgwyr ymdopi â ffyrdd o ddefnyddio a thrin gwahanol offer yn ddiogel.

E – Enw’r offeryn.

A – Anodi rhannau’r offer unigol gan dynnu sylw at y rhannau mwy peryglus.

G – Gwirio bod yr offeryn yn ddiogen cyn ei ddefnyddio.

T – Trafod yr offeryn yn enwedig wrth ei drosgwlyddo i berson arall.

C – Cyfarpar Diogelu Personol wrth ddefnyddio’r offeryn.

P – Pwrpas a defnydd yr offeryn.

D – Defnyddio; yr hyn i’w wneud gyda nhw.

G – Yr hyn i’w wneud gyda nhw ar ôl gorffen defnyddio nhw

C – Cynnal yr offeryn dros amser.

Cardiau adnoddau – Defnyddio offer

Defnyddio offer yn ddiogel gyda’ch grŵp 

Unwaith y bydd eich grŵp wedi ymgynefino â thrin offer yn ddiogel, dylech eu hannog i wneud defnydd o’u gwybodaeth EAGTCPDGC.  Er enghraifft, wrth docio, cymryd toriadau a chynorthwyo gwelliannau bioamrywiaeth drwy greu pentyrrau o foncyffion a blychau adar.

Gallant hefyd ddefnyddio offer i dorri pren (gyda chaniatâd perchnogion tir) ar gyfer gweithgareddau tân gwersyll ar y we-dudalen hon ac i wneud polion ar gyfer lloches a chynhyrchion pren eraill.  

Nodyn gwybodaeth - Cysgodfeydd a chuddfannau

Cardiau adnoddau - Her goroesi lloches

Nodyn gwybodaeth – Tomenni cynefin a stwmpenni 

Cysylltwch â ni 

Os nad ydych yn gallu dod o hyd i beth rydych yn chwilio amdano, neu os hoffech help neu wybodaeth bellach, cysylltwch â ni yn:

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf